Y crefftwr ffyn bugail o Landdewi-Brefi

Disgrifiad,

Gwyliwch y fideo o Dafydd Dafis o Landdewi-Brefi, sy'n crefftio ffyn ers 1985

  • Cyhoeddwyd

Ers 1985 mae Dafydd Dafis o Landdewi-Brefi yn crefftio ffyn traddodiadol.

Maen nhw'n amrywio o rai bugail traddodiadol i rai sydd wedi'u crefftu'n gywrain i edrych fel anifail penodol.

Mae'r manylder sy'n mynd fewn i grefftio ffon ar gyfer cwsmer yn cymryd amser a chywirdeb.

Mae cwsmeriaid Dafydd yn amrywio o ffermwyr mynydd i aelodau o'r teulu brenhinol.

Fe ddechreuodd y fenter pan sylwodd fod cyrn yr hyrddod oedd yn marw ar dir fferm ble oedd yn byw yn mynd i wastraff.

Roedd wastad gyda diddordeb mewn gwaith coed, ond roedd yr apêl i wneud rhywbeth gyda'r cyrn yn demtasiwn nad oedd modd ei wrthod.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dafydd yn creu rhai ffyn i adlewyrchu byd natur

"Mae'r pen eu hunain yn cael eu gwneud allan o gorn a'r goes rhan amlaf allan o gyll neu bren ffrwythau," meddai.

"Mae'r rhan fwyaf o'r ffyn dwi'n gwneud efo cysylltiad â chefn gwlad.

"Erbyn hyn mae'r rhan fwyaf o'n ngwaith i yn mynd allan i Ewrop ac ehangach."

Does dim dal pwy fydd yn gofyn am ffon, mae Dafydd wedi creu ffyn ar gyfer sawl person enwog, gan gynnwys Archesgob Caergrawnt, Rowan Williams.

Mae hefyd wedi cael ceisiadau ac archebion gan y teulu brenhinol, sy'n foment balch iawn iddo.

"Dwi wedi gwneud gwaith i'r Brenin pan oedd yn Dywysog Cymru.

"Fe wnes i ffyn iddo fe yn bresanta' Nadolig i'w Dad a'i feibion," meddai.

  • Gwyliwch y fideo uchod i wybod mwy am Dafydd a'i fyd o grefftio ffyn traddodiadol.

Pynciau cysylltiedig