WNO: Rhai o sêr Cymru yn beirniadu toriadau
- Cyhoeddwyd
Mae degau o artistiaid amlycaf Cymru yn cynnwys Syr Bryn Terfel, Michael Sheen a Ruth Jones wedi beirniadu toriadau i gwmni Opera Cenedlaethol Cymru.
Mae llythyr sydd wedi'i arwyddo gan dros 170 o bobl, wedi'i anfon at Brif Weinidog Cymru, Vaughan Gething, a'r Ysgrifennydd Diwylliant, Lesley Griffiths, yn ogystal ag Ysgrifennydd Diwylliant llywodraeth y DU, Lucy Frazer.
Maen nhw'n honni bydd effaith toriadau mewn cyllid gan Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Celfyddydau Lloegr yn "ddinistriol"
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cael cais i ymateb.
Toriadau yn 'ddinistriol i'r genedl'
Roedd yna ostyngiad o 35% yn yr arian gan Gyngor Celfyddydau Lloegr i'r WNO, tra bod Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn torri ei chyfraniad ariannol 11.8%, yn dilyn eu hadolygiad buddsoddi ym Medi 2023.
Fis Ebrill, cyhoeddodd y cwmni na fydden nhw'n teithio i Landudno na Bryste ddechrau'r flwyddyn nesaf oherwydd y sefyllfa ariannol.
Mae'r llythyr, sydd wedi'i ysgrifennu gan y gantores Elizabeth Atherton, sy'n aelod o Grŵp Trawsbleidiol Cerddoriaeth y Senedd, yn rhybuddio bod y cwmni opera yn "cael eu gorfodi i gyflogi aelodau'r gerddorfa a'r corws yn rhan amser".
Mae'n dweud byddai "dadfeilio un o sefydliadau gorau Cymru yn ddinistriol i'r genedl".
Mewn neges at Vaughan Gething a'r ysgrifennydd Diwylliant, Lesley Griffiths, mae Ms Atherton yn dweud bod Cymru "yn debygol o golli ei sefydliad celfyddydol penna', sy'n cynrychioli Cymru yn fyd eang ac yn denu talent rhyngwladol i'r wlad".
Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i gwrdd â chynrychiolwyr WNO a'r ysgrifennydd diwylliant yn Lloegr "i drafod sut mae modd cadw'r cytundeb ariannu trawsffiniol, a rhoi pecyn arian brys yn ei le gan y ddau sefydliad i sicrhau dyfodol y cwmni"
Ymhlith y rhai sydd wedi arwyddo'r llythyr mae rhai o berfformwyr amlycaf Cymru, gan gynnwys y canwr a'r actor Luke Evans, y delynores Catrin Finch, a'r cantorion Aled Jones, Katherine Jenkins, Rebecca Evans a Gwyn Hughes Jones.
- Cyhoeddwyd5 Mai
- Cyhoeddwyd18 Ebrill
- Cyhoeddwyd16 Ebrill
Dywedodd llefarydd ar ran y WNO: “Yn dilyn toriadau sylweddol i’n cyllid gan y ddau Gyngor Celfyddydau, yn ogystal â’r hinsawdd economaidd bresennol, rydym wedi gorfod gwneud newidiadau i sicrhau bod Opera Cenedlaethol Cymru yn parhau i fod yn gynaliadwy i’r dyfodol.
“Yn ogystal â’r newidiadau a gyhoeddwyd gennym yn ddiweddar i’n taith yn 2024/25, rydym wedi agor ffenest ar gyfer diswyddiadau gwirfoddol gyda’n cydweithwyr nad ydynt yn perfformio, ac rydym mewn trafodaethau gydag undebau i ail-negodi cytundebau gyda’n Cerddorfa a’n Corws i wneud arbedion.
“Mae pob ymdrech yn cael ei wneud i gefnogi cydweithwyr trwy’r hyn rydyn ni’n gwybod sy’n broses anodd, ond sydd yn anffodus yn un anochel oherwydd ein sefyllfa ariannol a’r arbedion sydd angen eu gwneud."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae sefydliadau diwylliant, celf a chwaraeon Cymru yn rhan annatod o'n cymdeithas a'n lles, gan gyfoethogi ein cymunedau ac ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol.
"Rydym wedi bod yn glir bod ein cyllideb hyd at £700m yn llai mewn termau real na phan gafodd ei gosod yn 2021 ac rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd dros ben."
Ymrwymiad i opera yn 'ddiwyro'
Yn gynharach eleni, dywedodd Cyngor Celfyddydau Cymru y bydden nhw'n parhau i gydweithio â'r Cwmni Opera ac eraill yn dilyn pryderon am doriadau.
Dywedodd Cyngor Celfyddydau Lloegr mewn datganiad fod "Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn rhan bwysig o ecoleg opera'r wlad, yn cynhyrchu ac yn teithio sioeau arbennig, a dyna pam ein bod ni'n buddsoddi dros £13.5m dros y tair blynedd nesa ar gyfer eu gwaith yn Lloegr".
"Mae hyn yn cynnwys £4m o gyllid craidd, a £3.25m ychwanegol er mwyn galluogi WNO i ail-strwythuro ac addasu i'r toriadau.
"Ry'n ni'n gwybod bod sefydliadau yn wynebu cyfnod heriol, ac rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'r rhai yr ydyn ni yn eu hariannu ac yn ceisio bod mor hyblyg â phosib."
Maen nhw'n pwysleisio hefyd bod eu hymrwymiad i opera a cherddoriaeth glasurol yn ddiwyro.