Pobl yn gadael y celfyddydau 'yn eu cannoedd' wedi toriadau
- Cyhoeddwyd
Mae’r celfyddydau mewn sefyllfa argyfyngus, yn ôl awdures sy'n dweud bod pobl yn gadael y maes "yn eu cannoedd" yn dilyn toriadau i gyllideb y sector.
Mae’r sector gelfyddydol yn wynebu gostyngiad o 10.5% yn eu cyllideb gan Lywodraeth Cymru eleni.
Yn ôl Manon Eames, mae’r toriadau'n golygu bod llai o gyfleoedd i ysgrifennu deunydd newydd, mentrus, "ond hefyd, wrth i waith grebachu, mae amodau gwaith yn gwaethygu, mae ‘na fwy o bwysau i neud gwaith mewn llai o amser".
Mae 'na sôn am golli 90 o swyddi o fewn Amgueddfa Cymru, mae pryderon hefyd am ddyfodol y Llyfrgell Genedlaethol ac mae Opera Cenedlaethol Cymru newydd gyhoeddi y byddan nhw’n torri'n ôl ar deithio y flwyddyn nesaf, i gyd yn sgil toriadau yn eu cyllid.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod "sefydliadau diwylliant, chwaraeon a chelf Cymru yn rhan annatod o’n cymdeithas a’n lles", ond eu bod nhw’n glir bod eu cyllideb hyd at £700m yn llai mewn termau real na phan gafodd ei gosod yn 2021.
“Rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd dros ben.”
Mae’r awdures ac actores, Manon Eames, yn gweld bod ei gwaith “yn mynd yn anoddach drwy’r amser”, meddai ar Dros Frecwast.
“Mae’r toriadau yn digwydd yn sydyn ond mae’r ail-adeiladu ar eu holau nhw yn araf deg iawn, ac mae hyn 'di bod yn mynd ymlaen ers blynyddoedd.”
“Sgil-effaith y toriadau ydi bod sefydliadau yn ofn cymryd risg gyda gwaith.
"Maen nhw’n mynd yn risk averse, yn tueddu i fod eisiau gwneud pethau saff er mwyn gallu bod yn siŵr bo' nhw’n cael cynulleidfaoedd, wedyn mae hwn yn cael sgil-effaith ar bethe fel sgwennu newydd â lleisiau newydd, pethau sydd efallai’n fwy mentrus."
- Cyhoeddwyd14 Ebrill
- Cyhoeddwyd15 Ebrill
Mae hefyd, yn ôl Manon Eames, yn cael effaith ar gyfleoedd i bobl ifanc yn ogystal â phobl brofiadol.
“Wrth i waith grebachu, mae amodau gwaith yn gwaethygu. Mae 'na fwy o bwysau i 'neud y gwaith mewn llai o amser ac mae hwnna wedyn yn effeithio amodau gwaith y gweithwyr."
“Dan ni’n colli pobl o’r diwydiant yn eu cannoedd ar hyn o bryd.”
Mae cynnal bywoliaeth o’r diwydiant yn mynd i fod yn anoddach, yn ôl yr awdures.
“Dwi 'di bod yn ffodus i weithio’n llawrydd erioed ers gadael coleg, a gallu cynnal bywyd yn gwneud hynny, ond dwn i ddim a fydd artistiaid yng Nghymru yn gallu gwneud hynny mewn 10 mlynedd?
"Bydd rhaid i bawb gael rhyw job fach arall ar yr ochr, achos mae’n mynd i fod yn amhosib."
Mae Amgueddfa Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn torri o leiaf 90 o swyddi yn dilyn toriad o 3% i'w grant, ond gan eu bod yn parhau i wneud diffyg o £1.5m yn flynyddol, bydd cyfanswm y bwlch yn cyrraedd £4.5m erbyn diwedd Mawrth.
Roedd rhybudd hefyd am gyflwr difrifol yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.
Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth hefyd yn wynebu toriadau staff, gyda 24 aelod yn ymadael yn wirfoddol, ac undeb y PCS yn rhybuddio y gallai’r toriadau arwain at golli hyd at 50 o swyddi yno yn y misoedd sydd i ddod, a hyd at 20 arall ymhen blwyddyn.
Sefydliad arall sy’n cael ei effeithio yw Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru – sydd wedi cyhoeddi na fyddan nhw'n perfformio yn Llandudno na Bryste yn 2025 oherwydd "heriau ariannol cynyddol".
'Byd o les i ni'
Yn ôl yr awdur a’r cyn-weinidog diwylliant, Alun Ffred Jones, “false economy yw’r toriadau dyfnion” ac mae’r “hyn mae unigolion a chymunedau yn yn ei gael yn ôl o’r sefydliadau celfyddydol, gymaint yn fwy na gwerth y torri”.
Dywedodd bod gwariant y llywodraeth ar y celfyddydau eisoes yn fychan iawn: "Dydy toriadau mawr yn y gyllideb ddim yn mynd i 'neud fawr o wahaniaeth i’r gwariwr mawr, sef y gwasanaeth iechyd, sydd yn mynd â dros hanner holl gyllideb Llywodraeth Cymru bellach ac yn sgiwio pob gwariant arall.
"Hyd yn oed petaech chi’n dileu gwariant ar y celfyddydau’n gyfan gwbl, dwi ddim yn credu byse’r gwasanaeth iechyd yn gweld y gwahaniaeth, deud y gwir."
Ychwanegodd bod cyllidebau sefydliadau celfyddydol wedi aros yn eu hunfan rhwng 2011 a 2023, gyda "chynnydd bach 'di bod wedyn o 5%, dyna ydi difrifoldeb y sefyllfa".
“Fy nadl i ydi bod yr hyn mae unigolion a chymunedau yn yn ei gael yn ôl o’r sefydliadau celfyddydol, gymaint yn fwy na gwerth y torri felly, bob amser.
“Mae’r celfyddydau yn un o’r ychydig feysydd yng Nghymru y gallwn ni ymfalchïo ynddo.
“Mae o’n 'neud byd o les i’n delwedd ni, yn rhyngwladol, o ran cantorion, cerddorion, perfformwyr, actorion, felly mae’n rhywbeth dylen ni ei hyrwyddo fel peth da, ar wahân i les hefyd i unigolion a chymunedau led led Cymru wrth gwrs.
“Dwi’n meddwl mai false economy, mewn gwirionedd, ydi gwneud toriadau dyfnion, fel ni’n gweld eto eleni.”
Cytuno wnaeth Manon Eames ein bod yn "byw mewn cymdeithas llae ma pobl yn byw ar wahân", a bod "eistedd mewn cynulleidfa efo llwyth o bobl eraill yn gwneud byd o les i ni fel pobl".
“Mae’r sefyllfa’n un argyfyngus”, yn ôl Dr Roger Owen, sy’n ddarlithydd mewn theatr a pherfformio ym Mhrifysgol Aberystwyth, “ond mae’r argyfwng yma wedi cael ei baratoi, wedi cael ei ddatblygu, wedi cael ei feithrin yn wleidyddol”.
Mae’n teimlo bod gorfod dewis rhwng gwario ar y gwasanaeth iechyd neu ar y celfyddydau yn ddewis na ddylai ddigwydd.
“Doedd dim raid i hynny ddigwydd, mae hwnna’n un peth sy’n fy nghorddi i”.
Ychwanegodd bod yr arfer a’r awydd o fynychu’r theatr wedi lleihau: "Mae’r clo mawr wedi newid pethau yn fawr."
Dywedodd hefyd y byddai'n anodd iawn ar fyd y theatr ac opera yn y Gymraeg heb arian cyhoeddus gan bod cynyrchiadau "theatr, ac opera, yn gostus".
“Bydde fe ddim yn bosib rhedeg sefydliadau cenedlaethol Cymraeg yn y theatr drwy gyfrwng y Gymraeg, oni bai bod pobl yn barod i gyfrannu o’u pocedi eu hunain llawer, llawer mwy na mae nhw’n gwneud nawr."
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod "sefydliadau diwylliant, chwaraeon a chelf Cymru yn rhan annatod o’n cymdeithas a’n lles", ond eu bod nhw’n glir bod eu cyllideb hyd at £700m yn llai mewn termau real na phan gafodd ei gosod yn 2021.
Yn y gorffennol maent wedi sôn am orfod gwneud "penderfyniadau anodd dros ben”.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ebrill
- Cyhoeddwyd15 Ebrill
- Cyhoeddwyd14 Ebrill
- Cyhoeddwyd15 Ebrill
- Cyhoeddwyd16 Ebrill
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2022