Trenau rhwng Llundain a'r gogledd yn 'mynd o ddrwg i waeth'
- Cyhoeddwyd
Mae arweinwyr busnes yn y gogledd wedi galw ar gwmni Virgin i gamu i'r adwy wrth i ffigyrau ddangos fod dros un ymhob pum trên uniongyrchol i Lundain wedi eu canslo.
Ers 2019 cwmni Avanti sy'n gyfrifol am redeg y gwasanaeth trenau cyflym rhwng Caergybi a Llundain.
Grŵp Virgin Syr Richard Branson oedd yn gyfrifol am redeg y gwasanaeth am 22 mlynedd cyn hynny, ac mae Cyngor Busnes Gogledd Cymru wedi galw arno i sefydlu llwybr rheilffordd “mynediad agored” ar y lein.
Yn ôl Grŵp Virgin, byddan nhw'n "croesawu'r cyfle i drafod beth sydd ei angen" a'u bod yn "hynod falch o’u hamser yn gwasanaethu teithwyr gogledd Cymru".
Ond yn ôl Avanti, sy'n bartneriaeth rhwng FirstGroup a Trenitalia, maen nhw wedi "ymrwymo’n llwyr i wasanaethu gogledd Cymru" ac yn "gweithio’n galed i fynd i’r afael â’r materion sylfaenol o ran perfformiad yn ogystal â pharhau i fuddsoddi mewn gwell gwasanaeth."
'Mygu economi gogledd Cymru'
Ers pum mlynedd Avanti West Coast sy'n gyfrifol am ryddfraint prif reilffordd yr arfordir gorllewinol, sy'n cysylltu Caergybi â Llundain, Lerpwl, Manceinion, Birmingham a Glasgow.
Wrth fabwysiadu'r gwasanaeth yn 2019, dywedodd Avanti y byddai'n arwain at wasanaeth "mwy cyfforddus, dibynadwy a gwyrdd".
Ond yn ôl arweinwyr busnes yn y gogledd, mae gwasanaeth Avanti yn “mynd o ddrwg i waeth”.
Mae Grŵp Virgin eisoes wedi gwneud cais am drwydded Mynediad Agored ar gyfer nifer o lwybrau ar lein arfordir y gorllewin – ond dim un gwasanaeth yng ngogledd Cymru hyd yma.
Dan y math yma o drwydded nid yw cwmni’n derbyn unrhyw gymorthdaliadau ac mae’n cymryd y risg o redeg y gwasanaeth rheilffordd ei hun.
Mewn cyferbyniad, mae gan Avanti gytundeb gyda'r llywodraeth i redeg y llwybr.
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Busnes Gogledd Cymru, Ashley Rogers, ei fod wedi trefnu uwchgynhadledd frys o wleidyddion, penaethiaid cwmnïau a rhanddeiliaid eraill y rhanbarth i drafod y sefyllfa.
Mae wedi galw ar Virgin i wneud cais debyg i redeg gwasanaethau o ogledd Cymru.
"Mae’n gwbl annerbyniol bod gogledd Cymru yn cael ei dorri i ffwrdd o wasanaethau dibynadwy i Lundain," meddai, gan ychwanegu ei fod yn "gwbl hanfodol o ran busnes, ymchwil ac arloesi a thwristiaeth".
“Rydym yn dirfawr angen cwmniau eraill i ddod i mewn a darparu gwasanaeth dibynadwy i Lundain, gan lenwi'r bylchau cynyddol yn y gwasanaethau presennol gan Avanti."
Mae ymchwil gan Gyngor Busnes Gogledd Cymru yn dangos bod y llwybr rhwng gogledd Cymru a Llundain wedi gweld mwy o wasanaethau yn cael eu canslo ar fyr rybudd nag unrhyw ran arall o rwydwaith Avanti, gan godi o 8.2% i 21.7% rhwng Ebrill a Mehefin.
Mae hynny chwe gwaith yn uwch na llwybr Avanti yng ngorllewin canolbarth Lloegr a oedd â chyfradd canslo o 3.6% ym mis Mehefin.
Ychwanegodd Sean Taylor o gwmni Zip World fod y gwasanaeth presennol yn un "trydydd byd".
“Mae’r gwasanaeth wedi achosi embaras personol i mi drwy fethu apwyntiadau neu droi i fyny'n hwyr – mae’n sefyllfa hollol anfoddhaol sy’n mygu economi gogledd Cymru.”
Taith hwyr i San Steffan
Ar ei diwrnod cyntaf fel Aelod Seneddol roedd un AS o'r gogledd yn hwyrach na'r disgwyl yn cyrraedd San Steffan oherwydd trên Avanti a gafodd ei ganslo.
Dywedodd Claire Hughes AS, aelod newydd Bangor Aberconwy, wrth BBC Cymru: “Es i'r orsaf i fynd ar y trên a doedd ddim yn sypreis ofnadwy i weld fod y trên wedi ei ganslo.
"Mae'n sefyllfa ofnadwy i ddweud y gwir, mae pobl yma yn y gogledd wedi cael digon ar y problemau ar y gwasanaethau rhwng y fan yma a Llundain, mae'n drafferth ofnadwy i bobl.
"Mae'r gwasanaethau yn hwyr neu ddim yn rhedeg o gwbl, mae'n eitha' problematig.
"Mae'n anodd iawn i fusnesau a phobl gyffredin sydd eisiau defnyddio'r trenau."
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2022
'Mynnu codi safonau'
Dywedodd ysgrifennydd trafnidiaeth newydd Llywodraeth y DU, Louise Haigh, ei fod yn "brif flaenoriaeth i ddwyn penaethiaid y diwydiant i gyfrif".
“Rwyf wedi galw’r cwmnïau trenau sy’n perfformio waethaf – gan ddechrau gydag Avanti West Coast – ochr yn ochr â Network Rail ac wedi mynnu eu bod yn gweithredu ar unwaith i godi safonau," meddai.
"Drwy weithredu’n feiddgar i symud yn gyflym a gwella pethau, gallwn wneud yn siŵr bod teithwyr yn cael y gwasanaeth y maent yn ei haeddu gyda’r ailwampio mwyaf ar ein rheilffyrdd mewn cenhedlaeth."
Ychwanegodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth agos â Llywodraeth y DU i wella gwasanaethau rheilffordd i deithwyr ledled Cymru.”
Dywedodd llefarydd ar ran Avanti eu bod “wedi ymrwymo’n llwyr i wasanaethu gogledd Cymru" ac yn "gweithio’n galed i fynd i’r afael â’r materion sylfaenol o ran perfformiad yn ogystal â pharhau i fuddsoddi mewn gwell gwasanaeth".
“Mae cyflwyno ein trên Evero newydd yn bennod newydd gyffrous i’r rhanbarth, gyda mwy o seddi ac sy'n lawer mwy gwyrdd, o ystyried gallu’r trên i redeg ar drydan rhwng Llundain a Crewe.
“Fodd bynnag, mae ein perfformiad gwasanaeth yn amrywio o ddydd i ddydd, rhywbeth y mae angen i ni fynd i’r afael ag ef er mwyn darparu’r gwasanaeth y mae ein cwsmeriaid yng ngogledd Cymru yn ei haeddu yn gyson.
"Rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid yn y diwydiant i wella prydlondeb a dibynadwyedd ar draws ein holl wasanaethau.”
Dywedodd Virgin eu bod yn "hynod falch o’u hamser yn gwasanaethu teithwyr gogledd Cymru".
"Mae’n amlwg bod y diwydiant rheilffyrdd yn barod ar gyfer newid ac rydym o'r farn mai Virgin ydy’r hyn sydd ei angen i ysgwyd pethau.
"Hoffem ddiolch i Gyngor Busnes Gogledd Cymru am ei bleidlais o hyder a byddem yn croesawu’r cyfle i drafod beth sydd ei angen ar eu cymuned wrth i ni ddilyn ein cais i weithredu llwybrau Mynediad Agored.”