'Dim chwarae teg' mewn ardal ddifreintiedig wrth ddewis ysgol

Trebiwt
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd 88% o blant Caerdydd gyfan gynnig lle yn eu dewis cyntaf, ond 49% oedd y ganran ar gyfer plant sy'n byw yn Nhrebiwt

  • Cyhoeddwyd

Mae rhieni yn ardal Trebiwt yng Nghaerdydd yn dweud nad yw eu plant yn cael chwarae teg wrth ddewis ysgol uwchradd ym mis Medi.

Cafodd llai na hanner plant yr ardal gynnig lle yn yr ysgol uwchradd oedd yn ddewis cyntaf iddyn nhw. 88% oedd y ganran ar gyfer y ddinas gyfan.

Pan yn dewis addysg uwchradd mae rhieni yng Nghaerdydd yn nodi hyd at bum ysgol.

Mae ymchwil BBC Cymru wedi datgelu nad oedd 20% o blant Trebiwt wnaeth gais mewn da bryd wedi cael cynnig lle yn eu tri dewis cyntaf.  

1.3% yw'r ffigwr cyfatebol ar gyfer Caerdydd gyfan.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Trebiwt yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Caerdydd

Doedd 42 o blant o ddalgylch Ysgol Fitzalan ddim wedi cael lle yno ar gyfer mis Medi cyn dechrau'r broses apêl.

Mae mab Shamis Aden yn un ohonyn nhw: "Chwarter awr yw hi i gerdded i Fitzalan.

"Be' dwi ishe gwybod yw beth yw'r dalgylch i'r plant yma?

"Os oes plentyn yn cael ei eni yn Grangetown neu Butetown ble mae e fod i fynd? Mae'n annheg!"

Disgrifiad o’r llun,

Does dim eglurder am y sefyllfa, meddai Shamis Aden

Mae mab Omar Yusuf yn yr un sefyllfa.

"Mae e ar chwâl ac yn poeni lot amdano fe. Fe es i i Fitzalan ac roedd e ishe mynd i'r un ysgol â'i dad.

"Mae hi 'di bod yn fwy o broblem ers iddyn nhw gael adeilad newydd ond doedd hi ddim fel tase ei ddosbarth cyfan ishe mynd yno... roedd rhai yn mynd i Cathays ac eraill i St Cyres ym Mhenarth.

"Dim ond 10 o'dd ishe mynd i Fitzalan felly dwi ddim wir yn deall y broblem. Mae'r cyngor ishe ni fynd i Ysgol Willows, ond mae'n anghyfleus.

"Yn Nhrebiwt mae lot ohonom ni o dras Somali neu Yemeni a dy'n ni ddim yn dda am godi llais."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n bwysig bod plant yn cael yr un cyfleodd addysgol lle bynnag maen nhw'n byw yn y brifddinas," meddai Helen Gunter

Ar ôl methu â chael lle i'w fab hynaf yn ei dri dewis cyntaf fe benderfynodd Gavin Porter dalu i'w blant fynd i Ysgol Steiner.

"Mae pobl yn Butetown yn gorfod delio gyda lot o bethau, hiliaeth, troseddu a nawr hyn.

"Mae ishe brwydro i roi'r addysg orau bosibl i'r bobl ifanc yma, nid anfon nhw i ysgolion sy'n wynebu problemau.

"Os y'ch chi'n 11 oed ac yn mynd i ysgol sydd ddim yn cael ei chyfri'n dda, sut mae hynny'n mynd i liwio eich agwedd at addysg?"

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gavin Porter wedi penderfynu talu am addysg breifat gan nad oedd ei fab wedi cael lle yn ei dri dewis cyntaf

Mae Nkechi Allen Dawson o Gyngor Hil Cymru yn dweud ei bod hi'n poeni am yr effaith allai hyn ei gael ar blant mewn ardaloedd difreintiedig.

"Mae'r ffaith fod nhw methu cael lle yn eu tri dewis cyntaf yn rhoi nhw dan hyd yn oed fwy o anfantais.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

"Dy'n ni ddim eisiau i bobl deimlo eu bod nhw'n sownd," meddai Nkechi Allen Dawson

"Mae e fel arllwys petrol ar y tân. Fe allen nhw golli hyder yn y drefn, mewn cymdeithas, y cyngor a'r llywodraeth.

"Ry' ni eisiau bod yn ffyddiog fod ein harweinwyr yn gwneud yr hyn maen nhw'n addo ei wneud felly ry' ni'n apelio ar Gyngor Caerdydd i weithredu.

"Dy'n ni ddim eisiau i bobl deimlo eu bod nhw'n sownd a chreu rhwystrau iddyn nhw."

Mae un o gynghorwyr yr ardal, Helen Gunter, yn dweud bod y sefyllfa'n annerbyniol.

"Dwi'n poeni'n fawr nad yw canran uwch o blant Trebiwt yn llwyddo i gael lle yn eu hysgol uwchradd agosaf a'u bod nhw'n cael ei gwahanu wrth eu ffrindiau ar draws sawl ysgol wahanol.

"Mae'n bwysig bod plant yn cael yr un cyfleoedd addysgol lle bynnag maen nhw'n byw yn y brifddinas.

"Dwi, ynghyd â chynghorwyr eraill, yn gweithio gydag aelodau'r cabinet i fynd i'r afael â'r sefyllfa annerbyniol hon er budd ein holl bobl ifanc."

'Mwy o blant nag arfer'

Mae Cyngor Caerdydd yn dweud fod ganddyn nhw fwy o blant nag arfer yn ymgeisio am lefydd mewn ysgolion uwchradd eleni, a hynny o ganlyniad i dwf mewn genedigaethau yn y cyfnod rhwng 2008-2016.

Maen nhw'n dweud eu bod nhw wedi ymestyn 10 ysgol yn barhaol neu dros dro i wneud lle a bod 275 o lefydd yn sbâr rhwng pedair ysgol uwchradd Saesneg a dwy Gymraeg.

Maen nhw'n dweud eu bod nhw'n parhau i weithio gyda chymunedau i ddarparu cefnogaeth mewn sawl iaith ac yn annog pobl i nodi pum dewis fel nad ydyn nhw dan anfantais wrth wneud cais am le mewn ysgol uwchradd.

Pynciau cysylltiedig