Gething i roi dros £31,000 o'i ymgyrch i'r Blaid Lafur
- Cyhoeddwyd
Bydd mwy na £31,600 o arian ymgyrch arweinyddiaeth Gething yn cael ei roi i'r Blaid Lafur, medd ffynhonnell o'i ymgyrch wrth BBC Cymru.
Fe dderbyniodd Vaughan Gething £251,600 yn ystod ei ymgyrch lwyddiannus i ddod yn brif weinidog.
Roedd hyn yn cynnwys £200,000 gan gwmni oedd yn cael ei redeg gan ddyn a gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol.
Mae aelodau amlwg o'r Blaid Lafur, gan gynnwys aelod o'r cabinet, Mick Antoniw, wedi rhybuddio’r blaid i beidio cymryd unrhyw arian a roddwyd gan gwmni y Dauson Environmental Group.
Mae Jeremy Miles, gwrthwynebydd Gething yn y ras arweinyddiaeth, eisoes wedi dweud nad oes ganddo unrhyw arian yn weddill o'r £61,000 yr oedd wedi'i godi.
Mae rheolau'r ymgyrch, yn nodi bod yn rhaid i unrhyw roddion ariannol sydd dros ben fynd i'r Blaid Lafur.
'Dim byd ar ôl' yng nghyfrif Miles
Dywed y ffynhonnell o'r ymgyrch mai penderfyniad Llafur Cymru yw sut caiff yr arian ei wario, ond mae Vaughan Gething eisiau i'r arian fynd tuag at raglenni amrywiaeth.
Mae'r Comisiwn Etholiadol eisoes wedi dweud wrth BBC Cymru fod y rhoddion sydd wedi eu trosglwyddo i Lafur yn mynd tuag at y blaid yn ganolog, yn hytrach na Llafur Cymru.
Wrth siarad ar raglenni'r BBC fore Iau, fe wnaeth Mr Miles gadarnhau ei fod wedi ffeilio ei gyfrifon, ac mai'r dyddiad cau ar gyfer hynny oedd dydd Iau.
"Does dim byd ar ôl yn fy nghyfrif," dywedodd.
- Cyhoeddwyd1 Mai 2024
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2024
Mae cofnodion y Comisiwn Etholiadol yn dangos bod Mr Gething wedi derbyn dwy rodd o £100,000 gan Dauson Environmental Group, y naill yn Rhagfyr a'r llall yn Ionawr.
Roedd hefyd wedi derbyn £25,000 gan gwmni tacsi Veezu, £21,600 gan Jeanne Marie Davies a £5,000 gan Christopher Lyon.
Dywedodd ffynhonnell o'r ymgyrch: "Yn sgil dyddiau cau dychwelyd ffurflenni'r etholiad rydym yn gallu cadarnhau fod yna £31,636 yn weddill.
Bydd y blaid a thîm yr ymgyrch yn gwneud y trefniadau angenrheidiol er mwyn trosglwyddo'r arian."