Arestio gyrrwr wedi gwrthdrawiad difrifol yng Ngheredigion

Cafodd dau o deithwyr y car BMW gwyn eu cludo i'r ysbyty mewn hofrennydd
- Cyhoeddwyd
Mae gyrrwr wedi ei arestio yn dilyn gwrthdrawiad difrifol yng Ngheredigion ddydd Sadwrn.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 16:00 i wrthdrawiad ar yr A482 rhwng Ciliau Aeron ac Ystrad Aeron, i'r gogledd o Lanbedr Pont Steffan.
Roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys car BMW gwyn a lori.
Fe brofodd y tri pherson oedd yn y car anafiadau difrifol, yn ôl yr heddlu.
Cafodd gyrrwr y car ac un o'r teithwyr ynddo eu cludo i'r ysbyty mewn hofrennydd, tra bod y trydydd pherson wedi ei gludo mewn ambiwlans ar dir.
Ni wnaeth gyrrwr y lori brofi unrhyw anafiadau.
Cafodd gyrrwr y BMW, person 27 oed, ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed difrifol gan yrru'n beryglus.
Mae'r unigolyn yna wedi gadael yr ysbyty, ond yn parhau yn y ddalfa.
Mae'r unigolyn arall a gafodd ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd yn parhau mewn cyflwr difrifol, ond yn sefydlog.
Mae anafiadau'r trydydd teithiwr wedi eu disgrifio fel rhai difrifol, ond nid rhai sy'n effeithio ar fywyd.