Ciwb: O fand rhithiol i ryddhau albwm newydd

O'r chwith - Carwyn Williams, Gethin Griffiths, Elis Derby a Marged Gwenllian
- Cyhoeddwyd
"Fe ddechreuodd y cyfan fel ychydig bach o hwyl yn ystod y cyfnod clo, ond rŵan mae o wedi troi yn rhywbeth hollol wahanol."
Dyna eiriau Gethin Griffiths, aelod o'r band Ciwb sydd newydd ryddhau eu hail albwm Gad Mi Ddod Mewn.
Aelodau eraill Ciwb yw Elis Derby, Marged Gwenllian a Carwyn Williams.
Yn 2020 pan oedd pawb yn ynysu yn eu cartrefi yn ystod y pandemig, daeth y criw o gerddorion a ffrindiau at ei gilydd i greu cyfyrs o rai o themâu teledu poblogaidd yn rhithiol.
Roedd rhain yn cynnwys themâu Grandstand a C'mon Midffild.
Yn ddiweddarach fe gafodd y band gynnig i wneud sengl rithiol gan raglen Lŵp a dyma greu cyfyr o'r gân 'Smo Fi Eisiau Mynd gan Edward H Dafis gyda Malan yn canu.
"Ar ôl i ni 'neud y sengl efo Malan, dyma ni'n cael cynnig gneud albwm gan Sain yn cynnwys caneuon o'u catalog nhw.
"Dyna fu wedyn ac rydan ni wedi troi yn fand sy'n ail-ymweld â hen ganeuon a 'neud nhw ar eu newydd wedd," meddai Gethin.

Clawr yr albwm newydd
Mae'r albwm newydd wedi cymryd dros flwyddyn i'r band recordio ac mae'n cynnwys artistiaid amrywiol yn canu hen glasuron.
Mae ambell sengl eisoes wedi cael eu rhyddhau, fel fersiwn Elidyr Glyn o fand Bwncath yn canu Diwedd y Gân gan Bryn Fôn a Pan Fo Cyrff yn Cwrdd gan Y Trwynau Coch gyda Eban Elwy yn perfformio.
Mae 10 trac ar yr albwm newydd ac mae'r artistiaid eraill yn cynnwys Lisa Jên, Ifan Davies, Buddug, Magi, Ifan Pritchard, Ollie Singer a Griff Lynch.
Dywedodd Elis Derby: "Mi oedd creu Gad Mi Ddod Mewn yn gwbl wahanol i'r broses o greu'r albwm gyntaf.
"Mi gafodd Wyt Ti'n Meddwl Bod O Wedi Darfod? ei recordio mwy neu lai mewn pum diwrnod yn mis Mai 2021, mewn wythnos hectic o fwy neu lai byw yn Stiwdio Sain yn recordio'n ddi-stop gyda chriw camera i gofnodi'r cyfan ar gyfer rhaglen ddogfen i S4C.
"Gymerodd Gad Mi Ddod Mewn flwyddyn gyfa', gyda lot mwy o amser yn mynd mewn i ddewis y traciau, gweithio allan trefniant, ychwanegu overdubs a perffeithio'r caneuon," meddai.
Cyd-weithio gydag artistiaid
Pan mae'n dod i ddewis artistiaid ar gyfer gwneud cyfyr o gân benodol, mae'r broses yn ôl Gethin Griffiths yn un heriol ac yn bwnc trafod manwl ymysg aelodau o'r band.
"Fel arfer rydan ni'n gneud demo byr o'r gân a gosod ein gweledigaeth ac adeiladu ar hwnnw wedyn a gweld pa artist fysa'n siwtio ein fersiwn ni o'r gân."
Ychwanegodd Elis: "O ran dewis artistiaid, mi oedd eto yn wych cael cydweithio gyda amryw o bobl.
"Mae 'na leisiau newydd yn ogystal ag artistiaid sefydlog. Er enghraifft, roedd gen i obsesiwn gyda Yr Ods pan o'n i'n yr ysgol, ac mae cael clywed fy hun yn canu harmoni efo'r prif ganwr, Griff Lynch, ar drac ein hunain flynyddoedd yn ddiweddarach yn deimlad class!"
"Mae pob cân yn dod â'i her wahanol ac mae'n gymaint o bleser gallu rhannu syniadau efo'r artistiaid i gyd," meddai.

Mae Edwin 'Sacs' Humphreys (chwith) yn chwarae ar ddau drac ar yr albwm newydd
Mae pob un o'r sesiynau gyda'r artistiaid yn uchelgeisiol ac yn cael eu cynllunio'n ofalus, sydd wedyn yn gwneud trefnu gigs yn anodd.
"Nid argaeledd y pedwar ohonom ni sydd yn bwysig, ond o ran cael gig i weithio, rydan ni'n dibynnu ar artistiaid eraill hefyd i fod ar gael.
"Mae nifer ohonyn nhw una'i yn perfformio'n unigol neu mewn bandiau eu hunain.
"Ond, mi rydan ni wedi llwyddo i gael pawb ar gael ar 12 Gorffennaf yn Gŵyl Arall a dyna pryd fyddwn ni yn lansio'r albwm yn swyddogol," meddai Gethin.
Dywedodd Elis: "Mae gan yr albym yma sŵn fwy cyfoethog a chyflawn na'r cyntaf yn fy marn i, ac allai'm disgwyl i bawb glywed be 'da ni 'di bod yn gwcio yn y stiwdio dros y flwyddyn dwytha'."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2022