3 Llun: Lluniau pwysicaf Elis Derby
- Cyhoeddwyd
Os fyddai rhaid i chi ddewis tri llun sydd yn cynrychioli eich bywyd chi, pa luniau bydden nhw?

Elis Derby
Yr wythnos yma, Elis Derby sy'n rhannu ei hoff luniau gyda Cymru Fyw. Dyma dri o luniau sy'n bwysig i'r cerddor, sydd ar fin rhyddhau ei sengl nadoligaidd, 'Dolig Diddiwedd'.

Elis yn fachgen ifanc gyda'i daid
"Cerddorion 'swn i fwy na thebyg o'u henwi fel ffigyrau dylanwadol arna' i y dyddiau yma, ond y cyntaf i mi ei gael oedd Taid.
"Fel y gwelwch chi o'r ffordd dwi 'di gwisgo a'r ffon fugail fach dwi'n gafael ynddi - fel fo o'n i isio bod.
"Rhai o fy atgofion hapusaf ydi helpu Taid ar y fferm pan yn ifanc, ac mi o'n i wrth fy modd hefo Shep y ci, sydd yn y llun. Mi oedd y llun yma i fyny yng nghartref Nain a Taid am flynyddoedd, ac mae o bellach draw yn ein tŷ ni."

Elis a'i ffrindiau draw ym Mangor
"Llun sy'n nodi diwedd cyfnod, wrth i'r 5 ohonom a fuodd yn byw yn 15 Trem yr Wyddfa, Bangor, gasglu i gymryd llun yn ein parti olaf yn yr ystafell fyw... ac mi fuodd 'na LOT o'r rheiny.
"Trist bod y cyfnod wedi dod i ben, ond felly ma' hi. 'Da ni ddim yn arfer gwisgo fel hyn, gyda llaw."

Waaa! Paul McCartney!
"Heb os, fy nylanwad neu obsesiwn cerddorol mwyaf yw'r Beatles. Nhw yn fy marn i wnaeth osod y blueprint am bob dim ddaeth ar eu holau nhw yn nhermau cerddoriaeth boblogaidd, a dwi dal i wrando arnyn nhw o leiaf unwaith y dydd.
"Paul McCartney ydi fy ffefryn o'r pedwar, er y buasai hi'n fwy cŵl i enwi John Lennon neu George Harrison. Ers i mi wylio'r rhaglen ddogfen hollol wych, Get Back, mae o wedi cadarnhau i mi mai McCartney oedd yn gyrru'r band, ac mae o'n athrylith llwyr.
"Mi welis i o'n chwarae'n fyw unwaith, ac mi oeddwn i y tu allan i'r adeilad pan gyrhaeddodd o am ei soundcheck. Am eiliad prin, roedd fy hoff artist erioed yn codi bawd arnai, ac mae hynny'n deimlad reit cwl."