Ysgol y Lawnt Rhymni yn dathlu 70 mlynedd o addysg Gymraeg

Ysgol Gymraeg Rhymni yn y 1950auFfynhonnell y llun, Ysgol y Lawnt
Disgrifiad o’r llun,

Ysgol Gymraeg Rhymni yn y 1950au

  • Cyhoeddwyd

Mae Ysgol y Lawnt Rhymni yn dathlu 70 mlynedd o addysg Gymraeg ar 18 Mehefin.

Dyma'r ysgol gyntaf i gynnig addysg Gymraeg yn yr hen Sir Fynwy a'r cyntaf yng Nghwm Rhymni pan agorodd yn 1955 ac mae yna gyngerdd i ddathlu yn neuadd yr ysgol.

Ysgol Gymraeg Rhymni oedd enw gwreiddiol yr ysgol gynradd ac erbyn hyn mae yna hefyd dwy ysgol uwchradd Gymraeg yn y cwm.

Dywedodd yr hanesydd Sian Rhiannon Williams, oedd yn ddisgybl yn yr ysgol yn y 1960au: "Pan ddechreuodd yr ysgol nôl yn 1955, dim ond 15 o blant oedd yna. Mae'r ysgol wedi dod mor bell ac mae'r addysg Gymraeg mor bwysig yn yr ardal erbyn hyn.

"Yn 1951 roedd hi'n ysgol wirfoddol lle oedd plant yn dod i mewn ar fore ddydd Sadwrn.

Ysgol bore SadwrnFfynhonnell y llun, Ysgol y Lawnt
Disgrifiad o’r llun,

Ysgol bore Sadwrn

"Roedd y Bari hefo ysgol Gymraeg yn barod wedi'i sefydlu a ddoth pobl o'r ysgol yna i'r cwm i helpu sefydlu'r dosbarth wirfoddol yma. Dyna oedd dechrau'r broses.

"Roedd hi'n frwydr ar y pryd i gael cefnogaeth yr awdurdodau lleol. Roedd yr ysgol Gymraeg yn tyfu'n llawer gyflymach na'r ysgol Saesneg felly oedd rhaid cael y gefnogaeth yna."

Dathliadau Dydd Gwyl Dewi 1976 Ffynhonnell y llun, Ysgol y Lawnt
Disgrifiad o’r llun,

Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi 1976

Mae lleoliad yr ysgol wedi symud ddwywaith, unwaith yn y 1970au ac eto yn 1992 pan symudodd yr ysgol i hen adeilad Ysgol Uwchradd Rhymni.

Cyn gartref rheolwr y gweithfeydd haearn oedd cnewyllyn adeilad yr ysgol a'r enw ar yr hen dŷ oedd 'The Lawn' a dyma'r rheswm am yr enw newydd Ysgol y Lawnt.

Meddai Sian: "Roedd yna frwydrau pob rhan o'r ffordd, roedd yr ysgolion Cymraeg yn gor-dyfu hen adeiladau ac yn gorfod symud."

Roedd ei mam Heulwen Williams yn brifathrawes yno, meddai Sian: "Dim ond dosbarth babanod a dosbarth iau oedd yno ar yr adeg pan oedd mam yn brifathrawes."

Sian a'i gŵr sydd wedi cyfansoddi'r sioe ar 18 Mehefin i ddathlu'r 70 mlynedd: "Byddwn ni'n mynd trwy cyfnodau gwahanol yn hanes yr ysgol. Dwi'n falch mai fi a fy ngŵr sydd wedi cael cyfansoddi'r sioe."

Heulwen Williams gyda'r plant yn y 1970auFfynhonnell y llun, Ysgol y Lawnt
Disgrifiad o’r llun,

Heulwen Williams, oedd yn bennaeth yr ysgol am flynyddoedd, gyda'r plant yn y 1970au

Pennaeth yr ysgol yw Sharon Davies ac mae'r ysgol wedi bod yn brysur ers naw wythnos yn paratoi am y dathliadau.

Meddai am y cyffro o fewn yr ysgol: "Mae gymaint o bobl eisiau bod yn ran o'r ysgol erbyn hyn a byddwn ond yn tyfu mewn blynyddoedd i ddod."

Heulwen Williams a'r plant yn y 1980auFfynhonnell y llun, Ysgol y Lawnt
Disgrifiad o’r llun,

Heulwen Williams a'r plant yn y 1980au

Erbyn hyn mae cyn-ddisgyblion yn dewis anfon eu plant nhw i Ysgol y Lawnt ac mae nifer hefyd yn gweithio yn yr ysgol, meddai Sharon: "Does gennai ddim geiriau am ba mor groesawgar mae pawb tuag at yr ysgol.

"Mae addysg Gymraeg yn yr ardal yma yn hollbwysig. I feddwl mai hon oedd yr ysgol gyntaf i agor. Mae ysgolion eraill yn dilyn beth rydym ni yn ei wneud ac mae'n rhoi cyfleoedd arbennig i blant yr ardal."

Staff yr ysgol yn y 1980auFfynhonnell y llun, Ysgol y Lawnt
Disgrifiad o’r llun,

Staff yr ysgol yn y 1980au

Mae 'na gaffi Cymraeg yn yr ysgol ar ddydd Iau a dydd Gwener i annog rhieni a gweddill y gymuned i ddysgu'r iaith.

Meddai: "Mae'r gymuned, ac yn enwedig y rhieni, yn gweld pa mor rhwydd mae'r plant yn gallu troi o'r Saesneg i'r Gymraeg ac yn cymryd ysbrydoliaeth.

"Rydyn ni'n gweithio'n agos iawn gyda gweddill y gymuned sydd heb gael addysg Cymraeg."

Gwrandewch ar Dros Frecwast ar Radio Cymru i glywed mwy am hanes a dathliadau Ysgol y Lawnt.

Dosbarth o blant yn y 1960auFfynhonnell y llun, Ysgol y Lawnt
Disgrifiad o’r llun,

Dosbarth o blant yn y 1960au

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig