'Chwyldro tawel' addysg Gymraeg Gwent

ion thomas
  • Cyhoeddwyd

Mae Ion Thomas yn ymddeol o weithio fel athro ysgol uwchradd eleni. Mae wedi bod yn dysgu yn Ysgol Gwynllyw, Torfaen, ers 1988, pan agorwyd yr ysgol.

Dros ei 36 mlynedd fel athro mae'r gyfundrefn addysg wedi ei thrawsnewid yma yng Nghymru. Ond sut mae Ion yn gweld y newidiadau ym myd addysg gyfun Cymraeg? Mae'n rhannu ei farn yma:

Newidiadau dros y blynyddoedd

Dechreuais mewn ysgol fach gyfun Gymraeg yng Ngwent a dwi’n ei gadael a hithau wedi newid yn ysgol fawr gydol oes – gydag adran meithrin a chynradd wedi agor acw yng Ngwynllyw, sef Gwladys.

Mae’r pwysau gwaith wedi cynyddu’n gyson, a hynny o ganlyniad i’r ffocws cenedlaethol ar asesu disgyblion yn barhaus. Ac mae’r rhod yma’n troi’n barhaus!

Mae dosbarthiadau wedi cynyddu mewn maint – dyblu yn wir, i ddosbarthiadau o 33. Mae hyn wrth gwrs yn ei dro wedi cynyddu’r marcio a’r asesu, yn enwedig mewn pwnc fel Cymraeg!

Mae agwedd disgyblion a rhieni wedi newid yn raddol dros y degawdau. Mae carfan o ddisgyblion yn llawer mwy hyderus a pharod i herio awdurdod, ac eto carfan arall yn fwy ansicr a sensitif. Ac mae awdurdod, gallu a hawliau’r ysgol i ddisgyblu’n effeithiol wedi newid, ac o bosib gwanychu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae oddeutu 24% o blant Cymru'n derbyn eu haddsyg yn gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg heddiw

Un elfen sy’ wedi fy nharo yw anallu nifer o ddisgyblion i weithio’n annibynnol. Maent yn disgwyl cael yr atebion gan yr athrawon. Dyma sy’ wedi fy mlino i dros y ddegawd a mwy ddiwethaf.

Mae yna lawer o bethau wedi datblygu a gwella. Heb os dwi’n well addysgwr nawr nag oeddwn ar ddechrau’r daith.

Mae addysgu wedi newid, gydag athrawon yn defnyddio llawer iawn mwy o dechnegau amrywiol i sicrhau bod disgyblion yn brysur ar dasg drwy gydol gwers.

Wrth i dechnoleg, cyfrifiadur a sgrin ddisodli’r bwrdd du a’r sialc, mae gwersi wedi newid diwyg a delwedd gyda phwynt pŵer a fideo ac ati yn cael eu defnyddio’n ddyddiol o wers i wers.

Do, fe welais ddatblygiadau a newidiadau mawr felly o safbwynt addysgu. Mae llawer mwy o unffurfiaeth yn yr ysgol, gyda phawb yn dilyn cynlluniau gwaith, gwersi wedi cael eu paratoi, ond yn sydyn iawn llawer llai o unffurfiaeth yn genedlaethol!

Dyna’r eironi mawr yng Nghyfnod Allweddol 3, sef Bl 7, 8 a 9. Mae’r lefelau a roddwyd ar waith disgyblion wedi diflannu dros nos, a dim wedi cael ei gynnig yn lle’r hen system asesu!

'Gwent yn deffro'

Mae meddwl bod Gwent yn deffro o ran y Gymraeg a bod gennym ddwy ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg, sef Gwynllyw ym Mhont-y-pŵl a Gwent Iscoed yng Nghasnewydd yn wych.

A dyna sy’n rhoi’r wefr imi – mod i wedi cael bod yn rhan o’r newid, yn rhan o’r cyffro os nad chwyldro yn hanes yr iaith yn y rhan yna o’r byd.

Oni bai am yr ysgolion cyfrwng Cymraeg megis Gwynllyw a’u tebyg yn y de-ddwyrain, byddai golwg wahanol ar bethau.

Yn 1988 nid oedd yna’r un disgybl yn derbyn ei addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn Nhrefddyn Pont-y-pŵl. Neb!

Yn awr mae yna wyth cant o ddisgyblion, gydag ail ysgol uwchradd wedi gorfod agor i fedru darparu yr un gwasanaeth yng Nghasnewydd.

Disgrifiad o’r llun,

Ysgol Gwynllyw ym Mhont-y-pŵl

Erbyn hyn mae yna ddisgyblion yn dod ataf ac yn nodi fy mod wedi dysgu eu rhieni (sy’n bilsen chwerw felys!).

Dwi’n gorffen y daith addysgu ond mae’n codi calon gweld bod yr hadau’n dwyn ffrwyth, bod yna barhad a chynnydd.

Mae’r ffaith i’r rhieni yma barhau i ddewis addysg trwy gyfrwng y Gymraeg i’w plant nhw, sef yr ail genhedlaeth, yn codi calon. Mae’n dangos bod ganddynt ffydd yn nyfodol yr iaith, ynghyd â sicrwydd o’i gwerth a’i phwrpas.

Oes, mae yna heriau. A yw’r Gymraeg yn llwyddo i sefydlu ei lle fel iaith gymdeithasol, yn iaith y coridor a’r iard, yn iaith tecstio ac yn iaith yr aelwydydd newydd? Yn anffodus, mae hon yn frwydr sy' wedi datblygu’n her.

Heriau'n parhau

Ac mae yna newid. Mae cenedlaethau’r athrawon a’r rhieni oedd ar y genhadaeth gychwynnol oherwydd y diffyg a’r gwrthwynebiad tuag at addysg Gymraeg wedi mynd.

Bellach mae gennym y sefydliadau, yr adeiladau, a’r deunyddiau ond mae’r ewyllys ar adegau o ddefnyddio’r iaith yn medru bod yn wan a diffygiol. Dyna sy’n fy mhoeni.

Mae pobl yn ymateb i wrthwynebiad. Ond pan mae yna ddewisiadau a chyfleon, mae apathi a diffyg hyder yn medru lledu fel haint!

Un peth arall dwi’n ymfalchïo ynddo yw gweld cymaint o gyn-ddisgyblion yn cael eu cyflogi yn y sector addysg. Oni bai amdanyn nhw fyddai’r cynnydd ddim wedi bod yn bosib!

Arwyddair Gwynllyw yw ‘Cerddwn Ymlaen’. A dyna hyd y gwelaf i sy’n parhau i ddigwydd. Oes, mae yna chwyldro tawel yn digwydd!

Pynciau cysylltiedig