Cyhuddo dau ddyn arall o geisio llofruddio wedi digwyddiad ym Merthyr

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Gurnos am 01:05 fore Sul
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn arall wedi cael eu cyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn digwyddiad ym Merthyr Tudful.
Mae Garyn Palmer, 19, a Jack Mew, 18, o Ferthyr Tudful bellach wedi cael eu cyhuddo wrth i'r ymchwiliad i'r achos barhau.
Cafodd Heddlu'r De eu galw i ardal Gurnos yn y dref am 01:05 fore Sul 10 Awst yn dilyn adroddiad bod dyn 26 oed wedi'i anafu.
Fe ymddangosodd Mr Palmer a Mr Mew yn Llys Ynadon Merthyr Tudful ddydd Sadwrn 16 Awst.
Mi fyddan nhw'n ymddangos nesaf yn Llys y Goron Merthyr Tudful ar 10 Medi ynghyd â Rhys Mew, 25, sydd hefyd o ardal Gurnos ac sydd eisoes wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio.
Mae dyn 26 oed a menyw 42 oed a gafodd eu harestio hefyd fel rhan o'r ymchwiliad wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.