Ambiwlansys wedi treulio mwy o amser nag erioed y tu allan i ysbytai

- Cyhoeddwyd
Mae ambiwlansys wedi treulio dwy awr ar gyfartaledd y tu allan i ysbytai Cymru yn disgwyl i drosglwyddo cleifion, yn ôl ffigyrau newydd.
Mae'r data hefyd yn dangos bod bron i 73,000 o ambiwlansys wedi treulio o leiaf awr y tu allan i brif adrannau brys yn 2024.
Mae hynny'n gynnydd o 18% o'i gymharu â 2023, a'r nifer uchaf ar gofnod.
Mae'r ffigyrau, wedi cais Rhyddid Gwybodaeth gan BBC Cymru, yn dangos bod 23,334 o ambiwlansys wedi treulio o leiaf pedair awr y tu allan i adrannau brys yn disgwyl i drosglwyddo cleifion y llynedd.
Mae Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn dweud bod yr oedi sy'n dod i'r amlwg yn y ffigyrau yn symptom o'r "pwysau parhaus ar draws y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru" gan ychwanegu eu bod yn "meddwl yn wahanol iawn" ynglŷn â sut i ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol.
Fis Rhagfyr yn unig fe dreuliodd dros 6,500 o ambiwlansys o leiaf awr y tu allan i adrannau brys - dim ond unwaith o'r blaen mae'r ffigwr wedi bod yn uwch.
Fe gafodd digwyddiad argyfwng "prin iawn" ei gyhoeddi ar 30 Rhagfyr pan roedd dros hanner holl gerbydau'r gwasanaeth yn disgwyl y tu allan i adrannau brys i drosglwyddo cleifion.
Ar y pryd, dywedodd y prif weithredwr bod hynny'n cael effaith ar allu'r gwasanaeth i ymateb i alwadau 999.
Mae'n rhaid i griwiau ambiwlans aros yn eu cerbydau gyda'r cleifion gan nad oes gan unedau brys y lle ar gyfer cleifion sy'n ddiogel.
Ffigyrau swyddogol yw'r rhain sy'n mesur faint o oriau sy'n cael eu "colli" ar ôl i'r targed, ffenestr o 15 munud i drosglwyddo cleifion, gau.
Ym mis Rhagfyr, roedd dros 25,000 o oriau "coll".
Mae'r ffigyrau newydd yn dangos ym mis Rhagfyr bod cleifion wedi gorfod disgwyl dros ddwy awr a 12.5 munud, ar gyfartaledd.
Roedd dros deirawr a thri chwarter ym Mae Abertawe.
Ar y cyfan yn 2024 ym Mae Abertawe, lle mae'r brif adran achosion brys yn Ysbyty Treforys, roedd amseroedd aros dros deirawr a naw munud ar gyfartaledd.
Yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, roedd hi'n cymryd llai na 45 munud i drosglwyddo cleifion i'r Ysbyty Athrofaol.
Yn ôl Lee Brooks, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau'r Gwasanaeth Ambiwlans, sgil effaith yr oedi wrth drosglwyddo cleifion yw lleihau yn sylweddol faint o ambiwlansys sydd ar gael i ymateb i gleifion yn y gymuned.
"Rydym yn difaru'r effaith mae'r oedi'n ei gael ar gleifion a'u teuluoedd," meddai.
"Nid dyma'r safon o wasanaeth yr ydym eisiau ei ddarparu, ac rydym yn cydnabod nad dyma mae'r cyhoedd yn ei ddisgwyl.
"Dyw'r amser mae'n cymryd i drosglwyddo claf o'r ambiwlans i adran achosion brys ddim o fewn ein rheolaeth ni yn uniongyrchol, felly rydym yn meddwl yn wahanol iawn am sut i ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol.
"Nid rhagor o ambiwlansys yn gwneud mwy o'r un peth yw'r ateb," meddai Mr Brooks.
"Rydym yn edrych ar sut y gallwn ni ddefnyddio sgiliau ein pobl yn wahanol er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael y gofal neu'r cyngor cywir."
Ym mis Rhagfyr, fe wnaeth 47.6% o'r ambiwlansys oedd yn ymateb i alwadau coch, lle mae bywyd mewn perygl, gyrraedd o fewn y targed o wyth munud - yr un faint â'r mis blaenorol.
Ond fe wnaeth y nifer dyddiol cyfartalog o alwadau coch gyrraedd 217 – yr uchaf ar gofnod.
Dywedodd Mr Brooks y gallai'r cyhoedd helpu drwy ddefnyddio'r gwasanaeth yn briodol a dim ond defnyddio 999 mewn argyfwng ac ar gyfer yr achosion mwyaf difrifol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ionawr
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2023