Amseroedd ymateb ambiwlans ar eu lefel gwaethaf erioed
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y galwadau 'coch' gafodd eu hateb gan y gwasanaeth ambiwlans o fewn yr amser targed wedi gostwng i'w lefel isaf erioed.
Dim ond 39.5% o'r galwadau 999 mwyaf brys gafodd eu hateb o fewn wyth munud ym mis Rhagfyr, i lawr o 48% - ffigwr oedd eisoes yn record.
Roedd nifer y galwadau 'coch' - 5,949 - hefyd ar eu huchaf erioed, yn ogystal â'r amseroedd y bu'n rhaid i gleifion aros mewn adrannau brys ysbytai.
Daw hynny wrth i weithwyr y gwasanaeth ambiwlans streicio unwaith eto yng Nghymru ddydd Iau dros dâl ac amodau.
Mwy o oedi tu allan i ysbytai
Dywedodd prif swyddog meddygol Cymru, Frank Atherton ddiwedd mis Rhagfyr bod y gwasanaeth iechyd yn mynd drwy ei chyfnod prysuraf erioed, a bod y pwysau ar ysbytai Cymru yn "ddigynsail".
Roedd nifer y galwadau 'coch' yn llawer uwch na'r arfer dros gyfnod y Nadolig, a hynny wedi i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr gyhoeddi 'digwyddiad difrifol' yn gynharach yn y mis.
Dangosodd y ffigyrau diweddaraf bod llai na dau ym mhob pump galwad 'coch' i'r gwasanaeth ambiwlans - y rhai mwyaf brys - yn cael eu hateb o fewn wyth munud, er mai'r targed yw 65%.
Ym mis Rhagfyr roedd hi'n cymryd 10 munud ar gyfartaledd i ambiwlans gyrraedd yr achosion mwyaf brys - yn y bedair blynedd ddiwethaf, y cyfartaledd oedd chwe munud.
Fe wnaeth oedi wrth drosglwyddo cleifion i adrannau brys ysbytai hefyd gyrraedd eu lefelau uchaf erioed ddiwedd y llynedd.
Cafwyd cyfanswm o 31,319 o oriau 'coll' ym mis Rhagfyr - sy'n cyfrif unrhyw amser dros 15 munud y mae ambiwlans yn ei dreulio yn aros y tu allan i unedau brys.
Yn ystod 2022 gyfan, cafodd dros 291,345 o oriau eu colli oherwydd oedi o'r fath.
Ond mae'n ymddangos bod pwysau ar ysbytai o glefydau'r gaeaf fel y ffliw, Covid a feirws syncytiol anadlol (RSV) bellach yn dechrau cilio.
Roedd 1,224 o gleifion yn yr ysbyty gyda chyflwr anadlol ar 15 Ionawr - y nifer isaf ers mis - a nifer yr achosion Covid i lawr hefyd.
Er hynny mae 94.6% o welyau ysbyty yn parhau i fod yn llawn dros y saith diwrnod diwethaf, sy'n agos at y ffigwr record.
'Streiciau yn ffactor'
Roedd amseroedd aros o fewn adrannau brys hefyd ar eu lefel gwaethaf erioed, gydag ond 63.1% o bobl yn cael eu gweld o fewn y targed o bedair awr.
Roedd y gwaethaf yn Ysbyty Treforys, Abertawe, ble cafodd dim ond 43.7% o gleifion eu gweld o fewn yr amser targed ym mis Rhagfyr.
Fe wnaeth dros 12,000 o bobl hefyd aros dros 12 awr neu fwy mewn adran frys, a hynny am y tro cyntaf - gyda thargedau'n dweud na ddylai unrhyw un aros mor hir â hynny.
Ar gyfartaledd roedd cleifion yn aros tair awr a dau funud mewn unedau brys, yr amser trydydd hiraf i gael ei gofnodi.
Mae dros 1,000 o gleifion hefyd yn dal i aros i gael eu rhyddhau o'r ysbyty, unai i ofal hir dymor neu er mwyn adfer ymhellach.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae'r ffigyrau yn adlewyrchu'r pwysau aruthrol ar y gwasanaeth iechyd, wnaeth wynebu'r diwrnod prysuraf yn ei hanes ym mis Rhagfyr.
Mae'r ystadegau yn dangos y gwasanaeth yn cael trafferth ymdopi gyda'i aeaf caletaf erioed, ond hefyd yn adlewyrchu'r effaith gafodd y streiciau cyntaf gan weithwyr ambiwlans a nyrsys fis diwethaf ar ofal brys.
Ym mis Rhagfyr fe dderbyniodd y gwasanaeth ambiwlans bron i 6,000 o alwadau coch, y ffigwr uchaf erioed, ond llai na 40% o'r rheiny gafodd ymateb o fewn wyth munud, y perfformiad gwaethaf erioed.
Mae'r ffigyrau'n dangos y pwysau aruthrol hefyd fis diwethaf ar unedau brys, a mwy na 12,000 o bobl yn aros yn hirach na 12 awr yn yr unedau hynny, y ffigwr uchaf o bell ffordd ers dechrau casglu'r ystadegau.
Mae pennaeth y Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru wedi ymddiheuro am y perfformiad "gwael iawn" ym mis Rhagfyr, pan gafwyd y streiciau ambiwlans cyntaf.
Dywedodd Jason Killens fod pwysau ehangach ar y system wedi effeithio ar eu gallu i ymateb.
"Fe wnaethon ni dreulio dros 32,000 o oriau yn aros i drosglwyddo cleifion i'n cyndweithwyr yn yr ysbyty fis diwethaf, a thra bod criwiau'n sownd yn yr ysbytai, dydyn nhw methu cyrraedd cleifion yn y gymuned," meddai.
"Fe wnaeth hyn - yn ogystal â'r galw uchel cyson, ymlediad Strep A, a gweithredu diwydiannol - arwain at rai pobl yn aros yn hir iawn i ni gyrraedd.
"Fodd bynnag, fe welon ni 300 yn fwy o gleifion mewn wyth munud ym mis Rhagfyr 2022 o'i gymharu gyda'r un mis y flwyddyn gynt.
"Dyw pwysau ar ein gwasanaeth ambiwlans ddim yn unigryw i Gymru ond rydyn ni eisiau, a byddwn ni yn, gwneud yn well."
Rhestrau aros yn gostwng
Mae'r nifer sy'n aros am driniaeth ysbyty, fodd bynnag, wedi disgyn am yr ail fis yn olynol.
Bellach mae 748,271 o gleifion yn aros i driniaeth ddechrau wedi iddyn nhw gael eu cyfeirio, a hynny'n gwymp o 5,000.
Mae hynny'n cynnwys rhai cleifion sydd ar fwy nag un rhestr aros am wahanol driniaeth, felly mae amcangyfrifon bod tua 586,000 o gleifion ar restr aros mewn gwirionedd.
Mae 22.5% o'r rheiny ar y rhestrau aros wedi bod yn aros dros blwyddyn am driniaeth, gyda 6.6% yn aros dros ddwy flynedd.
Er bod hynny'n gwymp ar y ffigyrau blaenorol, y targed erbyn mis Mawrth yw na ddylai unrhyw un fod yn aros mor hir â hynny, ac mae cleifion yng Nghymru dal yn fwy tebygol o aros dros flwyddyn neu ddwy am driniaeth na'r rheiny yn Lloegr.
Mae dros 101,000 o bobl yn aros am driniaeth orthopedig, gyda thua hanner y rheiny wedi aros dros naw mis, ond mae'r niferoedd hynny hefyd yn gostwng.
Fe wnaeth amseroedd aros canser wella i'w lefel gorau ers dechrau'r haf llynedd, gyda 53.9% o gleifion yn dechrau eu triniaeth o fewn dau fis i amheuaeth o ganser.
Roedd gwelliant i'r amseroedd aros ym mhob un bwrdd iechyd onibai am Betsi Cadwaladr, sydd eisoes â'r canran uchaf yn dechrau triniaeth o fewn yr amser targed.
Yn y cyfamser mae nifer y cleifion allanol sy'n aros dros blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf wedi gostwng o dros 10%, i 85,000 - ond y targed yw na ddylai unrhyw un fod yn aros cymaint â hynny.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2022