'Digwyddiad argyfwng' y Gwasanaeth Ambiwlans yn dod i ben
- Cyhoeddwyd
Mae 'digwyddiad argyfwng' a gafodd ei gyhoeddi gan Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ddydd Llun bellach wedi dod i ben.
Fe wnaeth y gwasanaeth gyhoeddi'r statws prin nos Lun o ganlyniad i "bwysau aruthrol ar y system 999 ac oedi sylweddol wrth drosglwyddo i ysbytai".
Ychwanegon nhw fod hyn wedi'i waethygu "gan nifer cynyddol o feirysau fel y ffliw, norofeirws a Covid-19".
Cyhoeddodd y gwasanaeth fore Mercher fod y statws 'digwyddiad argyfwng' bellach wedi dod i ben, er bod "pwysau sylweddol" yn parhau.
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2024
Dywedodd Judith Bryce, cyfarwyddwr cynorthwyol gweithrediadau'r ymddiriedolaeth: "Hoffem unwaith eto ymddiheuro i'r holl gleifion hynny sydd wedi aros yn llawer rhy hir am ambiwlans yn ystod cyfnod hynod heriol o 48 awr.
"Tra bod y digwyddiad tyngedfennol y tu ôl i ni, mae pwysau sylweddol yn parhau, ac mae'n wirioneddol bwysig bod y cyhoedd yn chwarae eu rhan i ddiogelu ein hadnoddau gwerthfawr ar gyfer y rhai sydd eu hangen fwyaf.
"Os gwelwch yn dda ffoniwch 999 mewn argyfwng sy'n bygwth bywyd yn unig, ac os nad yw'n argyfwng sy'n bygwth bywyd, ystyriwch un o'r dewisiadau amgen niferus i 999, gan ddechrau gyda gwirwyr symptomau GIG 111 Cymru yn ogystal â'ch fferyllydd lleol, yr Uned Mân Anafiadau, a meddyg teulu."
Ychwanegodd Ms Bruce: "Yn fwy cyffredinol, helpwch i gyfyngu ar ledaeniad firysau trwy aros gartref os oes gennych chi symptomau tebyg i ffliw, golchi'ch dwylo'n rheolaidd â sebon a dŵr cynnes, cadw'ch pellter oddi wrth bobl fregus os ydych chi'n sâl, ac - wrth gwrs - cael eich brechlyn ffliw a brechlyn atgyfnerthu Covid-19.
"I unrhyw un sy'n wael ar ôl dathliadau Nos Galan, ystyriwch beth allwch chi ei wneud gartref i ofalu am eich hun.
"A thra bod rhybuddion tywydd melyn yn parhau yn eu lle ar gyfer glaw trwm a gwyntoedd cryfion, cymerwch ofal arbennig i osgoi damweiniau ar y ffordd, yn ogystal â llithro, baglu a chwympo.
"Hoffem ddiolch i staff a gwirfoddolwyr ledled Cymru sydd wedi bod yn gwneud eu gorau glas i ddarparu'r gofal gorau posibl i bob claf unigol."
'Anaml iawn'
Mae'r Gwasanaeth Ambiwlans yn pwysleisio mai "anaml iawn" y mae sefyllfaoedd mor ddifrifol â hyn yn codi.
Cafodd digwyddiad argyfwng ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2020 oherwydd y galw mawr ar y pryd, yn enwedig yn ne-ddwyrain Cymru.
Cafodd digwyddiad arall - sefyllfa o amgylchiadau eithriadol - ei alw yn 2023 ar ôl i ambiwlans dreulio mwy na 28 awr y tu allan i ysbyty.