Dyn wedi marw ac un arall wedi ei anafu mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi marw ac un arall wedi dioddef anafiadau all beryglu ei fywyd mewn gwrthdrawiad ger Wrecsam.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar yr A534 yn Holt am 19:09 nos Sul yn dilyn adroddiadau bod dau gerddwr yn rhan o wrthdrawiad gyda char a lori.
Bu farw un dyn yn y fan a'r lle, tra bod dyn arall wedi ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r Gogledd eu bod yn cydymdeimlo yn arw a theuluoedd y ddau ddyn.
Mae'r llu yn galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau dashcam all fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.
Mae disgwyl i'r ffordd aros ynghau am gyfnod tra bod ymchwiliadau yn parhau.