Machynlleth 'yn y tywyllwch' heb unrhyw oleuadau Nadolig

Yn wahanol i drefi eraill yn yr ardal, does dim goleuadau Nadolig ar hyd y brif stryd ym Machynlleth eleni
- Cyhoeddwyd
Ni fydd goleuadau Nadolig ar hyd stryd fawr Machynlleth eleni oherwydd anghydfod ynglŷn â'r gost o'u codi a'u tynnu lawr.
Yn ôl Clwb Rotari Machynlleth, roedd y gost o gael Cyngor Powys i osod y goleuadau Nadolig y llynedd yn rhy uchel, ac fe wnaeth rhai ohonyn nhw fethu â goleuo.
Dywedodd Cyngor Powys nad yw Clwb Rotari Machynlleth wedi bod mewn cyswllt am ddyfynbris ar gyfer gosod addurniadau Nadolig eleni.
Dywedodd y clwb rotari mewn datganiad eu bod wedi penderfynu, er "yn anfodlon", i beidio â darparu goleuadau Nadolig yn y dref eleni.
Gwrthod cais i dawelu cloc Machynlleth dros nos
- Cyhoeddwyd31 Awst
'Penderfynol o gael Nadolig arferol' ar ôl cael strôc yn 36 oed
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
John Pierce Jones a Lois Elenid ar hysbyseb Nadolig Tesco
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd
Y rheswm sydd wedi ei roi yn y datganiad yw'r "gost gosod annerbyniol o uchel" a gafodd ei gynnig gan Gyngor Powys.
Ychwanegodd y clwb rotari bod "methiant sawl polyn lamp" i oleuo'r goleuadau Nadolig y llynedd, yn ffactor hefyd.
Perchnogion y goleuadau yw'r clwb rotari, sy'n dweud bod y goleuadau wedi bod yn "nodwedd sy' wedi cael ei chroesawu ym Machynlleth ers blynyddoedd lawer".
Mae'r clwb yn dweud eu bod wedi gwella'r goleuadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf ar ôl derbyn "rhodd hael" gan fusnes lleol.

"Mae gennym ni lawer o siopau a busnesau bach ac yn anffodus byddwn yn cael ein gadael yn y tywyllwch heb oleuadau," meddai David Hennighan
Dywedodd David Hennighan, aelod o'r clwb rotari a pherchennog siop sglodion Hennighan's, fod y gost o osod a thynnu'r goleuadau Nadolig bedair gwaith yn uwch nag oedd yn arfer bod.
Ychwanegodd eu bod wedi cael "dyfynbris chwerthinllyd am roi'r goleuadau i fyny ac i lawr - rhywbeth sy'n cymryd tua phump i chwe awr".
"Fe ofynnon nhw i ni dalu £1,600 llynedd, a TAW ar ben hynny.
"Yn y gorffennol rydym wedi talu £400-£500 am wneud union yr un peth.
"Mae'r gost, mewn gwirionedd, bedair gwaith yn uwch."
Fe honnodd Mr Hennighan hefyd nad oedd "hanner y goleuadau'n gweithio" a bod hynny oherwydd yr "amodau trydanol" y tu fewn i rai o'r polion lamp roedd y goleuadau wedi'u cysylltu â nhw.

Mae gan Fachynlleth goeden Nadolig gyda goleuadau, sydd i fod i gael ei goleuo nos Sadwrn
"Yn llythrennol, byddwn yn cael ein gadael yn y tywyllwch," meddai Mr Hennighan.
Fe wnaeth y gymhariaeth ag ardaloedd eraill fel "y Drenewydd a'r Trallwng, a bydd ganddyn nhw ddigwyddiad mawr iawn, a'r holl drefi mawr eraill yn yr ardal".
Roedd yn poeni na fyddai na fyddai hyn gwneud "llawer i hwyl yr ŵyl".
"Mae gennym ni lawer o siopau a busnesau bach ac yn anffodus byddwn yn cael ein gadael yn y tywyllwch heb oleuadau."
Mae gan Fachynlleth goeden Nadolig gyda goleuadau, sydd i fod i gael ei goleuo ar 29 Tachwedd.
Ond yn wahanol i drefi eraill yn yr ardal, does dim goleuadau Nadolig ar hyd y brif stryd eleni.
'Dim rhaid defnyddio'r cyngor'
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Powys: "Nid yw Clwb Rotari Machynlleth wedi cysylltu â Chyngor Sir Powys am ddyfynbris ar gyfer gosod addurniadau Nadolig eleni.
"Rydym wedi bod mewn cysylltiad â'r clwb rotari ynghylch y methiannau a adroddwyd ac wedi cynghori, gan fod yr asedau hyn yn cael eu rheoli gan Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru, y byddai angen eu caniatâd i newid unrhyw amseryddion.
"Mae'n bwysig nodi nad oes raid i'r clwb rotari defnyddio Cyngor Sir Powys i osod addurniadau."
Dywedon nhw hefyd bod y cyngor yn parhau wedi ymrwymo i gefnogi cymunedau lleol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.