Cymro'n 'lwcus i fod yn fyw' ar ôl gwrthdrawiad Gwlad Thai

Dywedodd Lee Francis bod gwisgo helmed wedi achub ei fywyd
- Cyhoeddwyd
Mae Cymro sydd wedi ei barlysu yn dilyn gwrthdrawiad beic modur yng Ngwlad Thai yn dweud ei fod yn "lwcus i fod yn fyw".
Dywed Lee Francis, 55, o Lanilltud Faerdref ger Pontypridd, ei fod yn "colli deigryn bob diwrnod" wrth awchu am gael ei "fy hen fywyd yn ôl".
Roedd ar ddiwrnod olaf gwyliau gyda'i wraig, Clare, yn nhref Krabi yn ne'r wlad, ble buon nhw'n ymweld â merch Lee, Katie.
Y peth olaf mae'n cofio dweud wrthi cyn i'r ddau ddod oddi ar y beic oedd eu bod "yn byw breuddwyd".
10 mis yn yr ysbyty
Bu'n rhaid iddo dreulio 10 mis yn yr ysbyty wedi'r ddamwain fis Ionawr y llynedd.
Dywedodd bod gwisgo helmed wedi achub ei fywyd, ac mae'n erfyn ar eraill i sicrhau eu bod hwythau yn gwneud hynny hefyd.
Ddechrau Ionawr eleni bu farw dyn arall o dde Cymru, Corey Bevis, 28 oed o'r Barri, yn dilyn gwrthdrawiad beic modur yng Ngwlad Thai.

Roedd Lee a'i wraig Clare yn rhan o'r gwrthdrawiad ym mis Ionawr 2024
"Mae wedi bod yn her enfawr... mae'n anodd derbyn a rhaid dysgu mai mewn cadair olwyn fi'n byw nawr," dywedodd Lee.
"Mae'n golled i mi. Mae fel bo' fi'n galaru. Fi'n sylweddoli 'mod i ar daith, ond sa'i wedi dod i delerau â'r ddamwain 'to.
"Fi'n cael cefnogaeth gan seicolegydd yn Ysbyty Llandochau, sy'n helpu."
'Dyma ddechrau fy mywyd newydd'
Cafodd Lee ei gludo i Ysbyty Bangkok, Phuket, gyda thri thoriad i'w asgwrn cefn, ac roedd ceulad gwaed yn cau llestr gwaed (blood vessel) yn ei ysgyfaint.
Dywedodd llawfeddyg wrtho ei fod yn ffodus o fod wedi goroesi'r noson gyntaf.
Fe frwydrodd staff am wythnos i achub ei fywyd, ond doedd dim modd ei atal rhag cael ei barlysu o'r canol i lawr.
"Fi'n ffodus i fod yn fyw, a dyma ddechrau fy mywyd newydd," meddai.
"Bob dydd a bob blwyddyn bydd pethau'n gwella."

Dywedodd Lee fod ei wraig Clare wedi bod yn "angor" iddo ers y digwyddiad
Roedd Lee a Clare "o fewn 10 munud" o ddychwelyd i'w fila pan ddigwyddodd y ddamwain, ac mae'n falch bod y ddau'n gwisgo helmed, yn groes i'r arferiad yn gyffredinol ymhlith trigolion yr ardal.
"Chi'n gweld lot o bobl ifanc heb helmedau, ac yn aml gyda'r twristiaid dyw'r helmed ddim yn ffitio'n iawn neu mae pobl yn meddwl bod hi'n fwy cool i beidio gwisgo nhw," meddai Lee.
"Ond fi'n gwybod bod gwisgo un wedi achub fy mywyd.
"Mae'n bwysig i bobl sylweddoli bod rhaid gwisgo'r offer cywir a bod yr helmed yn ffition'n iawn a bod ganddyn nhw yswiriant."
'Hi oedd fy angor'
Fe dreuliodd Lee 10 mis yn Ysbyty Athrofaol Llandudoch ym Mro Morgannwg, cyn cael mynd adref ym mis Hydref.
Bu'n rhaid cael ffisiotherapi dwys i gryfhau rhan uchaf y corff, gan ddefnyddio ffrâm er mwyn sefyll i sythu'r corff, ag fe gafodd hydrotherapi.
Fe gafodd ei wraig Clare gyfergyd a chrafiadau dwfn i'w hwyneb a'i chorff.
"Daeth Claire i 'ngweld i yn yr ysbyty bob dydd - hi oedd fy angor," dywedodd.
"Mae ei rôl wedi newid o wraig i ofalwr ac i wraig eto, sydd yn anodd, ond mae hi wedi gwneud y cyfan, er ei hanafiadau.
"Ddown ni drwyddo gyda'n gilydd, ac mae hi'n ysbrydoliaeth i fi."

"Fi'n gwybod y bydd chwaraeon yn fy iachau yn feddyliol unwaith 'to," medd Lee
Mae Lee wedi gorfod ymddeol yn gynnar oherwydd ei gyflwr.
Roedd yn arfer gweithio fel therapydd galwedigaethol cymunedol, gan arbenigo ar helpu pobl ag anableddau fyw bywydau annibynnol.
Mae nawr wedi trefnu pecyn gofal tebyg ar gyfer ei hun.
Mae Lee a Clare wedi addasu eu cartref, ac maen nhw'n codi estyniad sy'n cael ei gyllido'n rhannol gan arian sydd wedi'i godi gan y gymuned leol.
Dywed Lee bod haelioni'r gymuned wedi bod yn "rhyfeddol" a bod yr arian yn helpu "talu am wet room a gwely lawr staer, fydd yn gwneud pethau'n lot haws i fi".
'Hoffen i ysbrydoli pobl eraill'
Fel rhan o'i adferiad, mae Lee, sydd hefyd â'r cyflwr niwrolegol Syndrom Tourette, wedi ymweld ag Ysbyty Stoke Mandeville - man cychwyn y mudiad Paralympaidd.
"Fi wastad wedi dwlu ar chwaraeon ac mae wedi fy iachau o oed ifanc iawn.
"Fi'n gwybod y bydd chwaraeon yn fy iachau yn feddyliol unwaith 'to, a hoffen i ysbrydoli pobl eraill i sylweddol bod yna fywyd ar ôl anaf, a dyna'r daith fi arni nawr."