'Cymro wedi marw ar ôl colli rheolaeth o feic modur yng Ngwlad Thai'
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi clywed fod Cymro wedi "colli rheolaeth o'i feic modur" cyn iddo farw mewn gwrthdrawiad yng Ngwlad Thai fis diwethaf.
Bu farw Corey Beavis, oedd yn 28 oed ac yn dod o'r Barri, wedi'r digwyddiad yn ninas Phuket ar 4 Ionawr.
Clywodd y cwest yn Llys Crwner Pontypridd fod Mr Beavis wedi colli rheolaeth o'r beic modur yr oedd yn ei yrru a'i fod wedi taro'r palmant.
Bu farw o'i anafiadau yn y fan a'r lle.
Wedi'r digwyddiad fe gadarnhaodd y Swyddfa Dramor eu bod yn cefnogi teulu dyn o Brydain a fu farw yng Ngwlad Thai, a'u bod mewn cyswllt gyda'r awdurdodau yno.
Mae corff Mr Beavis bellach wedi cael ei gludo yn ôl i'r Deyrnas Unedig.
Ni chafodd ymchwiliad post mortem swyddogol ei gynnal yng Ngwlad Thai, ond mae adroddiadau cychwynnol yn awgrymu fod Mr Beavis wedi marw ar ôl torri asgwrn yn ei ben.
Cafodd y cwest ei agor a'i ohirio ac nid oes dyddiad wedi ei bennu ar gyfer y gwrandawiad nesaf ar hyn o bryd.
'Person gonest llawn cariad'
Dywedodd y teulu mewn datganiad wedi'r farwolaeth fod Corey yn "goleuo unrhyw ystafell yr oedd ynddi gyda'i gymeriad mawr a'i chwerthiniad heintus".
"Roedd ganddo gymaint i'w gynnig, ond roedd o hefyd wedi byw bywyd ymhell y tu hwnt i'r hyn fyddai wedi gallu ei ddychmygu.
"Roedd yn berson gonest oedd yn llawn cariad i'r rhai oedd yn ei adnabod."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ionawr