Ffermwr o'r Bala wedi'i ddarganfod mewn tanc slyri - cwest

Islwyn OwenFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Islwyn Owen yn 67 oed ac yn byw ym mhentref Llanycil

  • Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi clywed fod ffermwr o ardal Y Bala wedi ei ddarganfod yn farw mewn tanc slyri.

Roedd Islwyn Owen yn 67 oed ac yn byw ym mhentref Llanycil.

Cafodd yr heddlu wybod nos Fercher, 4 Medi ei fod ar goll, ac fe gafodd ei ddarganfod ar ei fferm yn Llanycil yn ddiweddarach y noson honno.

Cafodd y cwest yng Nghaernarfon ei ohirio tra bod ymchwiliadau pellach yn cael eu cynnal.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Mr Owen ei ddarganfod ar ei fferm yn ardal Llanycil ger Y Bala

Dywedodd y Crwner Kate Robertson fod yr heddlu wedi cael gwybod bod Mr Owen ar goll am 20:49 ar 4 Medi.

Roedd wedi bod yn gweithio ar ei fferm, Cefn Bodig yn Llanycil, ac fe gafodd ei ddarganfod tua 22:30.

Ychwanegodd Ms Robertson: "Yn anffodus, cafodd Mr Owen ei ddarganfod mewn tanc slyri, ac fe wnaeth parafeddygon gadarnhau ei fod wedi marw.

"Mae gen i ddigon o reswm i amau fod ei farwolaeth yn un annaturiol, ond fe fydd y cwest yn cael ei ohirio tra bod ymchwiliadau pellach yn cael eu cynnal."

Nid oes dyddiad wedi ei bennu ar gyfer y cwest llawn ar hyn o bryd.

'Gŵr rhadlon agos i’w le'

Yn dilyn marwolaeth Mr Owen, dywedodd un cynghorydd lleol fod y gymuned wedi'i "syfrdanu".

Yn ôl y Cynghorydd Alan Jones Evans, sy'n cynrychioli ward Llanuwchllyn, mi oedd Mr Owen yn "ffermwr cydwybodol a phrysur" a oedd yn "wyneb cyfarwydd ym mhob sioe amaethyddol a chymdeithas yn yr ardal i gyd".

Dywedodd Alun Elidyr, un o gyflwynwyr rhaglen Ffermio ar S4C ac yn un o lysgenhadon Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru, fod "seren lachar yn ffurfafen ffermio Penllyn wedi diffodd wrth i ni golli Islwyn Cefn Bodig".

"Roedd ei wên barod a’i hawddgarwch wrth drafod materion amaeth digon cymhleth yn golygu fod ennyd yn ei gwmni’n werthfawr," meddai.

Ychwanegodd Rhys Owen, pennaeth amaeth a chadwraeth Parc Cenedlaethol Eryri fod "Islwyn Owen yn ŵr rhadlon agos i’w le".

Pynciau cysylltiedig