Dydd Gŵyl Dewi: Cenhinen neu genhinen Bedr?

Ai cenhinen neu genhinen Bedr fyddwch chi'n ei gwisgo ar Fawrth 1?
- Cyhoeddwyd
'Gwisg genhinen yn dy gap, a gwisg hi yn dy galon'. Mae'r genhinen a'r genhinen Bedr yn symbolau Cymreig, ac yn cael eu gwisgo i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
Ond wyddoch chi mai'r genhinen yw'r symbol hynaf? Dyma olwg ar yr hanes.
Gwyliwch Clay Jones yn trafod hanes y cennin Pedr gyda Hywel Gwynfryn yn 1978
Y Genhinen
Yn nyddiau Shakespeare roedd y genhinen yn cael ei chydnabod fel arwyddlun i Gymru. Yn ei ddrama King Henry V yn 1598, dywed y brenin wrth Fluellen (Llywelyn) ei fod yn gwisgo'r genhinen gyda balchder 'gan ei fod yn Gymro'.
Ond mae sôn am y genhinen fel symbol yn mynd nôl yn gynharach na hyn. Mae cyfeiriad yn 1537 at y dywysoges Mari Tudur, merch Harri VIII, yn cael cennin gan iwmyn (yeomen) y gard i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
Mae lliwiau gwyrdd a gwyn y genhinen yn cydweddu â'r rhai a welir ar gefndir baner y ddraig goch. Dyma oedd lliwiau'r lifrai a wisgai milwyr Cymreig Edward I yn Fflandrys yn 1297, ac yn ddiweddarach gan filwyr Edward, Tywysog Cymru yn 1346-47.

Cennin
Cyfeiriodd y bardd Michael Drayton (1563 - 1631) at stori sy'n cysylltu'r genhinen â Dewi Sant yn un o'i gerddi. Yn ôl Drayton, gorchmynnodd Dewi Sant i'w filwyr wisgo'r llysieuyn ar eu helmedi tra mewn brwydr yn erbyn y Sacsoniaid - mewn cae llawn o gennin!
Mae sawl cofnod o'r Cymry'n defnyddio'r genhinen fel cynhwysyn coginio yn ogystal ag ar gyfer rhinweddau meddygol.
Roedd sôn for Meddygon Myddfai o Sir Gaerfyrddin yn yr Oesoedd Canol yn ei defnyddio i iacháu nifer o afiechydon, a'i bod yn gwella annwyd, yn amddiffyn yn erbyn clwyfau mewn rhyfel ac yn cynorthwyo merched wrth roi genedigaeth.
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2016
Cenhinen Bedr
Daeth y genhinen Bedr neu'r daffodil yn gysylltiedig gyda Dydd Gŵyl Dewi yn y 19eg ganrif. Er i'r genhinen (llysieuyn) fod yn arwyddlun cenedlaethol ganrifoedd yn gynharach, cred rhai bod dryswch wedi bod gyda'r enw, ac mai'r genhinen Bedr yw gwir symbol Cymru.

Cennin Pedr
Roedd David Lloyd George yn gefnogol o'r genhinen Bedr, a gwisgodd y blodyn yn arwisgiad Tywysog Cymru, Edward VIII, yn 1911.
Heddiw, mae'n gyffredin iawn i weld cennin Pedr neu gennin yn cael eu gwisgo i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
Dydd Gŵyl Dewi hapus i chi, beth bynnag y byddwch chi'n dewis ei wisgo i ddathlu'r diwrnod!
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl