Y stori tu cefn i Dwylo Dros y Môr

Poster Dwylo Dros y Môr. Roedd y sengl yn costio £1 gyda'r elw yn mynd i bobl oedd yn newynu yn Affrica - ond roedd yn rhaid i berchnogion siopau godi £1.15 er mwyn talu 15% o Dreth Ar Werth i'r Llywodraeth
- Cyhoeddwyd
Ar 1 Mawrth 1985 fe gafodd un o ganeuon mwyaf eiconig y Gymraeg ei rhyddhau - a hynny dim ond ddeufis wedi i'r syniad gael ei drafod gyntaf.
O fewn wyth wythnos roedd yn rhaid cyfansoddi cân anthemig, trefnu i ddegau o gerddorion ar draws Cymru ddod at ei gilydd i'w recordio, cymysgu'r trac, ffilmio fideo, gwasgu finyl a dosbarthu'r sengl ar draws Cymru. A hyn i gyd cyn dyddiau e-bost a ffonau symudol - a gwneud y cyfan yn wirfoddol.
Un o'r rhai fu'n gyfrifol am drefnu Dwylo Dros y Môr 40 mlynedd yn ôl oedd Dafydd Roberts o'r grŵp Ar Log.
"Roedd y gwaith trefnu yn lot mwy o waith nag oedd rhywun yn disgwyl!" meddai.

Dafydd Roberts (ar y dde) gyda gweddill aelodau Ar Log yn 1983
Fe ddechreuodd y cyfan ar Ddydd Calan 1985, pan oedd Dafydd a gweddill y grŵp gwerin Ar Log yn aros yn y Ffostrasol Arms ar ôl perfformio yn ardal Castellnewydd Emlyn y noson flaenorol.
Wrth drafod cân elusennol Band Aid, Do They Know it's Christmas - oedd yn rhif 1 dros y Nadolig - fe gynigiodd y ffidlwr Iolo Jones y syniad o wneud fersiwn Gymraeg i gasglu arian i helpu pobl oedd yn newynu yn Ethiopia.
Cytunodd gweddill y grŵp - gan arwain at ddeufis prysur iawn a chân sy'n dal i gael ei chwarae hyd heddiw.

Tap fideo a sain o'r sesiynau recordio gwreiddiol yn 1985 - gan gynnwys ochr B y sengl, Dewch Ynghyd
Y cam cyntaf, fel gydag unrhyw gân, oedd cyfansoddi un, fel eglurodd Dafydd wrth Cymru Fyw:
"Wnaethon ni ddewis gofyn i Huw Chiswell achos fo oedd wedi ennill Cân i Gymru'r flwyddyn cynt - yn 1984 efo Y Cwm. Felly os oedd rhywun yn cwestiynu neu'n gofyn 'pam dewis Huw Chiswell?' roedd o'n naturiol - roedda ni wedi dewis y person 'nath ennill Cân i Gymru.
"Yr unig beth wnaethon ni ofyn mewn briff i Huw oedd bod angen cytgan oedd yn anthemig, oedd yn gallu cael ei ganu gan griw o bobl, a bod hi ddim yn rhy debyg i'r fersiwn Saesneg.
"Cyn cael y gân roeddan ni wedi bod yn meddwl pwy oedda ni'n mynd i gael i gynhyrchu'r trac. Rhywun oedda ni wedi bod yn gweithio lot efo fo, a fi wedi bod yn neud efo fo pan o'n i'n recordio cerddoriaeth i'r (rhaglen blant) Awr Fawr ac yn y blaen, oedd Myfyr Isaac a'r criw o gerddorion roedd o wedi gweithio efo nhw, fel Chris Childs, Graham Smart, Graham Land ac yn y blaen.
"Ac felly ar ôl derbyn y gân gan Huw tua diwedd Ionawr - ar gasét oedd hwnnw efo Huw yn canu ac yn chwarae'r piano, ac roeddan ni wrth ein bodd efo hi - aethon ni â fo at Myfyr er mwyn gweithio allan pwy oedd yn mynd i 'neud y gwahanol linellau a beth oedd yr offeryniaeth am fod."

Amserlen tynn diwrnod olaf recordio'r gân yn Stiwdio Loco Caerleon - ar 17 Chwefror 1985
Fe eglurodd Huw Chiswell wrth raglen Cofio ar BBC Radio Cymru ei atgofion o sgwennu'r gân.
Meddai: "Ro'n i'n teimlo tipyn bach o bwysa' i ddweud gwir a ro'n i'n dychmygu dod lan â rhywbeth nad oedd yn dderbyniol falle neu nad oedd yn mynd i weithio neu afael er bod lot o ewyllys da gyda'r achos.
"Wedyn jest mater o synfyfyrio am ychydig ac eistedd wrth y piano fel dwi'n 'neud fel arfer heb ryw feddwl yn rhy agos cyn 'neud hynny, a jest eistedd yna a rhyw potshan.
"Y prif beth oedd yn dod i'r meddwl wrth ddechrau oedd y sefyllfa oedd ohoni, sefyllfa oedd yn awgrymu'r lleddf ac yn teithio tuag at ryw obaith, am wn i.
"Yn amlwg y cyferbyniad yw ein tywydd ni yng Nghymru yn arbennig o wlyb a'r eironi wedyn yw ym mhen draw'r byd diffyg dŵr yw'r broblem.
"A dwi yn cofio ei bod hi'n ddiwrnod glawog pan gychwynnes i arni ac roedd yn dod yn eitha' naturiol wedyn i grybwyll y glaw falle a chyferbynnu yn hwyrach yn y gân am y sychder oedd yn gyfrifol am y newyn."
Rhannu'r llinellau rhwng artistiaid
Wedi derbyn y gân, y cam nesaf oedd sicrhau amser yn Stiwdio Loco, ger Caerleon, cyn cysylltu gyda nifer o enwau amlycaf y sin cerddoriaeth Gymraeg o'r byd pop, roc, gwerin a gwlad i weld os oedden nhw ar gael ganol Chwefror.
Roedd rhai darnau yn gweddu rhai artistiaid fwy nag eraill - gyda Caryl Parry Jones a Neil Maffia, er enghraifft, yn cael dau o'r llinellau lle'r oedd angen cyrraedd nodau uchel.

Fe gafydd fersiwn gyntaf Dwylo Dros y Môr ei rhyddhau ar Recordiau Ar Log
Roedd gan Dafydd Roberts nifer o gysylltiadau trwy ei waith gyda'r BBC ac yn cael defnyddio'r swyddfa yn ystod ei awr ginio i wneud peth o'r trefnu.
Meddai: "Mater o gysylltu efo pawb oedd o.
"Ond yn aml iawn gorfod ffonio oedd rhywun neu yrru llythyr, doedd dim fath beth ag e-bost na Whatsapp adeg hynny, a thrio cael pobl pan oedda nhw adra i fedru ateb y ffôn a chytuno ar ddyddiad.
"17 o Chwefror oedd y dyddiad wnaethon ni benderfynu i'r rhan fwya' o bobl i 'neud y recordio ac ar ôl penderfynu ar amserlen y diwrnod roedd yn rhaid gyrru hwnnw i bawb yn y post i gadarnhau be' oedd yn digwydd a jest gobeithio i'r nefoedd bydda pobl yn troi fyny ar y diwrnod."
Cyfnod 'annifyr' yn y sin
Yn ôl Dafydd, roedd rheswm i bryderu a fyddai digon yn cytuno i ddod at ei gilydd gan ei bod wedi bod yn gyfnod 'annifyr' o fewn y sin gerddoriaeth yng Nghymru.
Meddai: "Roedd dipyn o ddadlau a chwyno weithiau wedi bod am bwy oedd yn cael sylw neu gyhoeddusrwydd a gwaith ar y cyfryngau yn enwedig yn dilyn sefydlu S4C rhai blynyddoedd yn gynt.
"Ond be' o'n i mor falch ohono fo oedd mi ddaeth pawb at ei gilydd o bob maes - o'r sin werin, pop, roc, gwlad, ac o bob rhan o Gymru i gymryd rhan yn y recordiad o'u gwirfodd.
"Roedd hynny'n ryddhad mawr ar y diwrnod ac wedyn ein bod ni wedi llwyddo i gwblhau'r prosiect. Mae hwnnw'n rhywbeth dwi'n falch iawn ohono fo hyd heddiw deud gwir."

Y cerddorion tu allan i Stiwdio Loco, Caerleon
O fewn llai na phythefnos i'r diwrnod recordio roedd y gân wedi ei chymysgu, y feinyl wedi ei wasgu gan gwmni yn y Cymoedd ac roedd label Sain a'r trefnwyr wedi dosbarthu'r sengl i siopau ar hyd a lled Cymru.
Roedd hi'n gân boblogaidd o'r cychwyn cyntaf a'r cyhoeddusrwydd yn arwain at drefnu digwyddiadau eraill i gasglu arian gan gynnwys cyngerdd yn Neuadd Dewi Sant yn ystod Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd, a diwrnod o berfformiadau yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Y Rhyl.
Gwerthwyd 25,000 copi o Dwylo Dros y Môr a rhoddwyd £25,000 i elusen Arian Byw ar gyfer pobl oedd yn newynu yn Ethiopia.

Mae fersiynau o Dwylo Dros y Môr wedi eu ryddhau yn 1985, 1990 a 2020
Ers hynny mae dwy fersiwn arall wedi eu rhyddhau ac mae hi'n dal i gael ei chwarae ar y radio 40 mlynedd ar ôl ei chyfansoddi.
"O edrych yn ôl mae'n anodd coelio bod hi'n ddeugain mlynedd ar 1 Mawrth y flwyddyn yma ers i ni ryddhau hi a bod pobl yn dal i nabod y gân a bod hi'n dal i gael ei chwarae - mae hynny'n anhygoel i ddweud gwir," meddai Dafydd.
"Recordiwyd fersiwn arall yn 1990 achos roedd y newyn dal yna - mae'n dipyn arafach ac mae naws hynod iawn am y fersiwn yna... ac wedyn wrth gwrs yn ddiweddar mae 'na fersiwn newydd eto wedi bod.
"Mae hynny yn arwydd o gân dda bod gwahanol fersiynau yn cael eu gwneud o'r gân mewn blynyddoedd a dwi'n gobeithio bydd hi dal 'wrach efo fersiynau eraill i ddod yn y dyfodol."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd15 Chwefror
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2023