Cefnogwr wedi marw yn dilyn 'argyfwng meddygol' cyn gêm

Cafodd y cefnogwr ei daro'n wael y tu allan i Rodney Parade nos Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Mae Clwb Rygbi'r Dreigiau wedi cadarnhau fod cefnogwr wedi marw yn dilyn "argyfwng meddygol" y tu allan i Rodney Parade cyn eu gêm yn erbyn Sharks.
Fe wnaeth y Dreigiau wynebu'r tîm o Dde Affrica yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig nos Sadwrn, ond bu'n rhaid i un cefnogwr dderbyn triniaeth y tu allan i'r stadiwm yng Nghasnewydd.
Dywedodd y clwb mewn datganiad: "Mae pawb sy'n rhan o glwb rygbi'r Dreigiau yn cydymdeimlo yn ofnadwy gyda theulu a ffrindiau'r cefnogwr yn ystod y cyfnod anodd yma."
Does dim rhagor o fanylion am y digwyddiad ar hyn o bryd.