Yr Eisteddfod yn 'agor drysau' i fandiau ifanc Cymraeg

DadleoliFfynhonnell y llun, Ceirios_photos
Disgrifiad o’r llun,

Mae cael perfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn brofiad gwerthfawr, medd aelodau'r grŵp Dadleoli

  • Cyhoeddwyd

Yr wythnos hon, mae degau o fandiau a cherddorion yn cael y cyfle i berfformio ar amryw o lwyfannau'r Eisteddfod.

Yn ôl un cerddor, mae'r cyfle i berfformio yn y brifwyl yn "agor drysau" i fandiau ifanc.

Dywedodd Efan Williams o'r band Dadleoli ei fod yn un o'r "profiadau gorau" canu gyda'r band yn yr Eisteddfod.

Y band Bwncath fydd yn chwarae ar Lwyfan y Maes ar y nos Sadwrn olaf, y tro cyntaf iddyn nhw wneud hynny, ac mae'n "uchafbwynt" yn ôl y prif leisydd.

'Ni eisiau cyrraedd yr uchelfannau'

Wedi wythnosau o ymarfer bydd Dadleoli, sydd o Gaerdydd, yn chwarae ym Maes B nos Wener.

Mae'r band yn weddol newydd, gan ffurfio yn 2022, ac maen nhw wedi bod yn troedio Cymru yn chwarae mewn gigiau a gwyliau gwahanol.

Mae'r prif leisydd Efan Williams o'r farn bod perfformio yn yr Eisteddfod yn "agor drysau" i fandiau ifanc.

"Do'n i wir ddim yn meddwl bydden ni'n cyrraedd lle ni 'di cyrraedd nawr," meddai.

"Ni'n gwybod bod dal lot o waith gyda ni i wneud, ni eisiau cyrraedd yr uchelfannau, ni eisiau headlinio fel Bwncath, Fleur de Lys a Gwilym."

Dadleoli Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Efan Williams yw prif leisydd y band Dadleoli o Gaerdydd

Dywedodd mai eu gig mwyaf oedd Maes B llynedd, "roedd e'n eithriadol o brysur."

"Mae'r cyfleoedd yna wedyn yn neud i ni eisiau cario 'mlaen a chwarae mewn mwy o lefydd gwahanol.

"Mae'n un o'r profiadau gorau i fod ar y llwyfan 'na, yn enwedig os yw'r gynulleidfa yn ymateb yn dda

"I ni Eisteddfod yw'r wythnos brysuraf achos bod 'na gymaint o lefydd o fewn yr eisteddfod i ni chwarae.

"Ni'n rili edrych ymlaen, ni 'di bod yn ymarfer ers sbel a pharatoi ers sbel, yn meddwl am syniadau, cwpwl o bethau newydd yn y sets.

"Fel band ni wastad yn mwynhau mynd i'r eisteddfod a threulio'r wythnos gyfan gyda'n gilydd."

Llwyfan y Maes nos LunFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae prif lwyfannau'r Eisteddfod yn cynnig cyfle i berfformio i gynulleidfaoedd mawr

Ond mae perfformio yn yr Eisteddfod yn wefr i rai o fandiau amlycaf Cymru hefyd, gyda phrif leisydd Bwncath yn dweud bod chwarae ar lwyfan y maes yn "fraint" iddyn nhw.

Dywedodd Elidyr Glyn: "Mae chwarae ar Lwyfan y Maes nos Sadwrn olaf bendant am fod yn uchafbwynt i ni fel band.

"'Da ni wedi chwarae ar Lwyfan y Maes ddwywaith o'r blaen ond byth ar y nos Sadwrn olaf."

Cafodd y band ei ffurfio yn 2014, ac fe berfformion nhw sawl tro yn y Tŷ Gwerin yn ystod eu blynyddoedd cynnar.

Ychwanegodd Elidyr: "Mae hwn yn mynd i fod yn brofiad newydd yn hynny o beth, mae'n fraint deud y gwir a 'da ni'n falch iawn o gael y cynnig ac yn hapus iawn fod y Steddfod wedi cynnig y slot yma i ni.

"'Da ni'n gyffrous ofnadwy am y peth, gobeithio nawn ni sioe go lew ohono."

Bwncath Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Ers ffurfio yn 2014, mae Bwncath wedi mynd o nerth i nerth

Ond er mor braf yw gallu perfformio ar brif lwyfan yr Eisteddfod, dywedodd Elidyr ei bod hi'r un mor bwysig i fandiau ifanc fagu hyder ac enw i'w hunain wrth berfformio mewn tafarndai a gigiau lleol.

Ei gyngor ydi i "fandiau ifanc i beidio ffocysu gormod ar drio cael slot mewn rhywbeth mawr fel y Steddfod ac i ddechrau wrth eu traed.

"Bod yn fodlon gigio yn gyson, fel 'na mae'r enw yn tyfu yn naturiol.

"O ran cyfle, i'r ifanc gael mynd ar Lwyfan y Maes, mae'n anferthol o ran hyrwyddo ac yn rhywle iddyn nhw gael eu gweld, bendant mae'n werthfawr iawn."

'Rhywbeth i anelu ato'

Ond ychwanegodd mai "ond yn y blynyddoedd diwethaf 'da ni wedi bod yn chwarae ym Maes B a Llwyfan y Maes ac ati".

"Mae bendant yn lefel gwahanol o berfformio ac yn rhywbeth mae pawb yn anelu ato."

Dywedodd Robin, gitarydd y band fod gwyliau cerddorol Cymru wedi "mynd o nerth i nerth, mae 'na fwy o wyliau wan nag erioed o'r blaen".

Dywedodd fod bandiau yn "lwcus iawn" o'r holl wyliau sydd ar gael "achos 'da ni'n gallu teithio i bob man, mae o'n gallu bod yn wyliau bach, yn amrywiol".

Gyda gigiau ar y maes ac ym Maes B ar y gweill felly, beth allwn ni ei ddisgwyl?

"Da ni wedi cymryd hi bach yn arafach tro 'ma, o ran cadw'r llais a gallu cadw rhyw fath o fwrlwm yn y perfformiad."