Cymeradwyo cynlluniau dadleuol canolfan antur Bae Ceibwr

Mae Bae Ceibwr wedi ei leoli o fewn ardal cadwraeth arbennig
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bae Ceibwr wedi ei leoli o fewn ardal cadwraeth arbennig

  • Cyhoeddwyd

Mae cynlluniau dadleuol ar gyfer sefydlu hwb antur newydd yn Sir Benfro wedi cael eu cymeradwyo gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Roedd cwmni Adventure Beyond, sy'n cynnig tripiau arfordira a chaiacio ym Mae Ceibwr, wedi gwneud cais i godi adeilad deulawr newydd ym mhentref Trewyddel.

Ond roedd gwrthwynebwyr yn honni y byddai nifer yr ymwelwyr yn cynyddu, a'u bod nhw eisoes yn tarfu ar adar a bywyd gwyllt yr ardal.

Ym Mhwyllgor Datblygu Awdurdod y Parc ddydd Mercher fe gafodd y cais sêl bendith ar yr amod ei fod yn cydymffurfio ag amodau o ran dyluniad, amwynder a diogelwch priffyrdd.

Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r safle mae Adventure Beyond am ei ddatblygu ym mhentref Trewyddel

Mae’r amodau’n cynnwys camau i warchod y bywyd gwyllt cyfagos fel morloi llwyd sydd yn dra niferus yn yr ardal.

Mae'r argymhellion yn cynnwys osgoi gweithgareddau mewn rhai ardaloedd o'r bae yn ystod tymhorau penodol, a chyflwyno mesurau i atal problemau carthffosiaeth a rheolaeth traffig.

Disgrifiad o’r llun,

Arforgampau ym Mae Ceibwr

Ym mis Awst fe ddywedodd ymgyrchwyr wrth y BBC fod arforgampau yn niweidiol i adar sy'n nythu, ac y bydden nhw'n "hoffi gweld Ceibwr yn cael ei gadw'n wyllt".

Dywedodd cynghorydd cymunedol Nanhyfer a Threwyddel, Richard George, wrth y cyfarfod bod yr adeilad 8.3m ar gyfer y ganolfan newydd yn "rhy uchel".

Ychwanegodd nad yw’n credu y byddai'r ganolfan yn “cyfrannu'n gadarnhaol i gymeriad yr ardal gerllaw”.

Clywodd y cyfarfod fod swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru yn fodlon, gydag amodau, fod y cynnig yn cydymffurfio â pholisïau Cynllunio Cenedlaethol a Lleol perthnasol a’i fod yn dderbyniol o ran dyluniad, amwynder a diogelwch priffyrdd.

Dywedwyd hefyd nad oedd yr Awdurdod Priffyrdd wedi gwrthwynebu'r cynnig a'u bod yn ystyried bod y trefniadau mynediad a pharcio ar gyfer y safle yn dderbyniol - - gyda'r amodau angenrheidiol.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd arwyddion yn gwrthwynebu'r cais wedi cael eu codi yn Nhrewyddel

Mewn cyfarfod llawn o’r aelodau, roedd y ddadl ar gyfer y ganolfan antur yn cynnwys sylwadau ar ba mor fanteisiol oedd y math “poblogaidd” hwn o dwristiaeth i'r ardal.

Mae Jet Moore o gwmni Adventure Beyond wedi dweud yn y gorffennol ei bod hi'n bosib na fyddai'r safle - fydd yn cael ei ddefnyddio i gadw offer a cherbydau ar gyfer gweithgareddau'r cwmni - ar gael yn fuan.

Dywedodd mai'r safle arfaethedig - hen ganolfan fysiau - yw "yr unig safle masnachol addas i ni drosglwyddo ein gweithrediadau".

Fe fydd yna 10 o lefydd parcio, gyda chyfleusterau newid ac ymolchi ar y safle.

Dywedodd y cwmni mewn datganiad ddydd Mercher eu bod "wrth ein bodd ein bod wedi cael caniatâd cynllunio".

"Ein gweledigaeth wastad fu gwella’r gymuned trwy ddarparu cyfleusterau gwell sy’n cefnogi gweithgareddau awyr agored tra’n parchu a chadw harddwch naturiol a bywyd gwyllt yr ardal.

"Edrychwn ymlaen at weithio’n agos gyda’r gymuned leol a rhanddeiliaid wrth i ni symud ymlaen, gan sicrhau bod y datblygiad yn dod â buddion cadarnhaol i drigolion ac ymwelwyr."