Hedfan merch i'r ysbyty ar ôl cael ei tharo gan gar
- Cyhoeddwyd
Mae merch 14 oed wedi cael ei hedfan i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol ar ôl cael ei tharo gan gar yn Sir y Fflint.
Roedd y ferch yn cerdded ar hyd Ffordd Holway yn Nhreffynnon pan gafodd ei tharo gan Honda Civic coch ychydig cyn 08:00 fore Mercher.
Cafodd ei chludo i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr.
Mae'r llu'n apelio am wybodaeth a thystion, gan gynnwys unrhyw un a oedd yn gyrru ar y ffordd ar y pryd, sydd â lluniau dashcam.