Dyn o Fethesda yn rhedeg 'ras anodda'r byd' wrth i'w wraig golli'i golwg

Chris Williams sydd wedi bod yn rhedeg Ras y Ddraig a'i wraig Einir
Disgrifiad o’r llun,

Mae Chris Williams wedi bod yn rhedeg Ras Cefn y Ddraig er mwyn diolch i Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru am eu cymorth i'w wraig Einir

  • Cyhoeddwyd

Yr wythnos hon mae degau o redwyr o bob rhan o'r byd wedi bod yn rhedeg Ras Cefn y Ddraig - ras sy'n cael ei disgrifio gan rai fel y "ras anoddaf yn y byd".

Yn eu plith roedd Chris Williams, 47 o Gerlan, Bethesda.

Flwyddyn a hanner yn ôl cafodd gwraig Chris, Einir, wybod bod ganddi'r cyflwr Stargardt, sy'n golygu nad yw hi bellach yn cael gyrru car ac mae hi angen cymorth i ddarllen print mân.

Fe benderfynodd Chris felly y byddai'n rhedeg y ras er mwyn codi arian i Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru fel ffordd o ddiolch am eu cymorth i'w wraig.

ChrisFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Er bod y ras yn anodd dywed Chris ei fod wedi mwynhau'r golygfeydd

"Roedd y newyddion cychwynnol yn dipyn o sioc, a 'dan ni'n hynod falch o'r cymorth 'dan ni wedi'i gael gan Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru," meddai Chris.

"'Naeth nhw helpu Einir i ddeall yn iawn be' o'dd yn mynd i ddigwydd a helpu hi efo petha' rownd y tŷ ac yn y gwaith.

"Dydi hi methu dreifio a petha' fel 'na - felly maen nhw wedi bod yn rili da efo hi, so o'n i isio hel pres iddyn nhw.

"'Dach chi'n meddwl taw jyst pobl ddall sy'n mynd i gymdeithas y deillion, ond maen nhw yn cynnig lot o betha' gwahanol efo nam llygaid - does dim rhaid i chi fod yn hollol ddall.

"Maen nhw jyst yn wych yn helpu pobl, ac o'n i isio rhoi rhywbeth yn ôl iddyn nhw felly."

Einir 'mor falch' o'i gŵr

Dywedodd Einir: "Pan 'naeth o dd'eud ei fod o am n'eud y ras es i yn reit upset, ond dwi'n falch iawn ei fod o wedi hel pres i Gymdeithas y Deillion.

"Maen nhw'n gwneud cymaint o waith pwysig ac efo fi â nam ar fy ngolwg ma'n golygu gymaint mwy i fi yn bersonol bod o 'di neud o."

Yn ddiweddar mae Einir wedi ei phenodi yn gydlynydd llyfrau llafar Cymraeg Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru wedi iddi orfod gadael ei swydd gyda Swyddfa'r Post wedi 27 mlynedd yno.

"Fe rois i'r gorau i'r swydd honno oherwydd doeddwn i ddim yn medru dweud y gwahaniaeth rhwng y pres."

EinirFfynhonnell y llun, Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yn ddiweddar mae Einir wedi ei phenodi yn gydlynydd llyfrau llafar Cymraeg Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru

Mae'r ras yn 380km o bellter ar hyd mynyddoedd a thirwedd heriol dros ben - o fynyddoedd y Carneddau, Tryfan, y Glyderau, Crib Goch, y Moelwynion a'r Rhinogydd, ar hyd Bannau Brycheiniog hyd at Lwybr y Taf a Chastell Caerdydd.

Mae nifer fawr yn gorfod rhoi'r gorau iddi cyn gorffen y ras, ac wedi poen corfforol difrifol bu'n rhaid i Chris ildio yn Llanymddyfri.

"Nes i stopio hanner ffordd ddoe [dydd Iau], tua dwy awr fewn i'r rhedeg 'nes i ddechra' cael poen yn ffrynt yng nghoes," meddai.

"'Nes i weld y medic a ma' gen i tendonitis, a ma' bob cam fath â poen yn saethu fyny fy nghoes, felly o'n i methu cario 'mlaen.

"O'dd o'n brofiad gwych, o'dd o'n her fawr, ond pob dim yn dda amdano.

"'Nes i enjoio fo er fod o'n rili anodd - 'da chi'n cychwyn am 06:00 a 'da chi'n gorfod gorffen erbyn 22:00, ac angen gwneud hyn a hyn o filltiroedd bob diwrnod.

"Felly 'dach chi'n mynd, yn siarad efo pobl tra 'dach chi'n mynd, yn gweld llefydd neis, y mynyddoedd, a wedyn 'oeddach chi'n mynd yn ôl i'r camp yn y nos a trio ca'l bob dim yn barod at y diwrnod wedyn.

"So o'dd o i gyd yn all go, ond o'dd y profiad jyst yn grêt."

'Wedi bod yn poeni llawer iawn amdano'

"Mae wedi bod yn wythnos hynod o anodd a dwi wedi bod yn poeni llawer iawn amdano," meddai Einir.

"Dwi'n falch iawn ohono. Ma' di trainio gymaint i 'neud hyn a bechod rili bod o'm 'di ca'l gorffan, ond 'neith o drio eto blwyddyn nesa'.

"Ma'n un o rheiny sydd ddim yn rhoi give up yn hawdd. Trueni fod o'n diodda' rŵan ond 'dan ni gyd yn super proud."

ChrisFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yn rhaid paratoi at heriau tir sych a gwlyb!

Mae Chris yn hynod o ddiolchgar am bob neges yn dymuno'n dda.

"O'n i'n gwybod bo fi'n cael lot o gefnogaeth, o'n i'n gwybod bod 'na lot o gefnogaeth ar y social media.

"Bob diwedd diwrnod, doedd dim signal lle o'n i, ond oedden nhw'n gyrru Dragon's Mail so os oedd rhywun yn rhoi neges o' nhw'n gallu gyrru fo i'r camp ac o'n i'n cael ryw fath o receipt efo Dragon Mail arno fo.

"O'n i'n darllen hwnna bob nos ac o'dd hwnna yn codi'r ysbryd, ac o'n i'n gweld y negeseuon gan bawb."

Mae Chris ac Einir yn hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu ac wedi codi dros £1,000 i Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru hyd yma.

"Dim ond dau le yng Nghymru sydd yn darparu llyfrau llafar yn y Gymraeg, felly mae'r cyfraniad o dros £1,000 yn hynod werthfawr," meddai Einir.

"Tan yn ddiweddar doeddwn i ddim yn gwybod am fodolaeth canolfan adnoddau Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru ym Mangor, ac yna fe ddois i yma a chael offer i'm helpu i goginio a lampau bach."

Fel cydlynydd llyfrau llafar y Gymdeithas, Einir sy'n dewis y llyfrau i'w recordio ar gyfer llyfrau llafar.

"'Da ni yn dewis llyfrau mae 'na alw amdanyn nhw; llyfrau sydd wedi ennill yn yr Eisteddfod neu'n sy'n Llyfr y Flwyddyn.

"'Da ni yn cynhyrchu 24 o lyfrau llafar bob blwyddyn; tri chylch gwahanol; wyth llyfr ymhob cylch.

"Mae 'na bedwar llyfr i oedolion a phedwar i blant ymhob cylch; plant dan saith oed a dros saith ac i ddysgwyr ac yna mae'r llyfrau ar ffurf CDs, MP3 ac USBs yn cael eu dosbarthu i 22 o lyfrgelloedd trwy Gymru."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig