Hwlffordd yn sicrhau lle yng Nghyngres UEFA

Daniel Hawkins yn dathlu sgorio ail gôl HwlfforddFfynhonnell y llun, FAW
Disgrifiad o’r llun,

Daniel Hawkins yn dathlu sgorio ail gôl Hwlffordd

  • Cyhoeddwyd

Mae Hwlffordd wedi ennill y lle olaf yn rowndiau rhagbrofol Cyngres UEFA ar ôl curo Caernarfon 3-1 yn rownd derfynol gemau ail gyfle'r Cymru Premier.

Fe ddechreuodd Hwlffordd yn dda gyda Ben Ahmun yn sgorio ychydig ar ôl y chwarter awr agoriadol.

Dan Hawkins cipiodd yr ail gan ddefnyddio ei droed chwith i sgorio gôl gwych a rhoi'r tîm cartref gam yn agosach at Ewrop.

Tua awr i mewn i'r gêm fe gafodd Caernarfon gyfle ond bwrw'r postyn wnaeth ergyd gryf Adam Davies.

Gyda phum munud yn weddill fe sgoriodd Ahmun ei ail er mwyn cau pen y mwdwl ar yr ornest a chwalu gobeithion y Cofis.

Fe lwyddodd Caernarfon sgorio yn hwyr i'w gwneud hi'n 3-1 ond blwyddyn Hwlffordd oedd hi eleni.

Maen nhw'n dychwelyd i gystadlu'n Ewrop am y tro cyntaf ers 2023.

Mae'r Seintiau Newydd a Phen-y-bont eisoes wedi sicrhau eu lle yn Ewrop ar gyfer y tymor nesaf oherwydd eu safleoedd yn y gynghrair.

Ar ôl i'r Seinitiau Newydd drechu Cei Connah i ennill Cwpan Cymru, cafodd Pen-y-bont wybod bod eu lle nhw yn Ewrop yn ddiogel.

Fe orffennodd Hwlffordd y tymor arferol yn drydydd yn y tabl, gyda Chaernarfon yn bedwerydd a bu rhaid i Gaernarfon drechu'r Barri a Met Caerdydd yn y gemau ail gyfle am yr hawl i herio Hwlffordd.

Ond Hwllfordd sy'n mynd â hi yn y rownd derfynol ac yn cipio'r tocyn olaf i Ewrop y tymor nesaf.