Costau clyweliadau yn gadael 'blas sur' i fyfyrwyr perfformio

Mae Chloe Morgan yn dweud iddi wario dros £1,000 ar glyweliadau yn unig i fynd i'r coleg
- Cyhoeddwyd
Mae menyw yn dweud iddi wario dros £1,000 ar glyweliadau yn unig i fynd i'r coleg i astudio celfyddydau perfformio.
Dywed Chloe Morgan, 24, fod y gost wedi atal llawer o'i ffrindiau rhag gwneud cais i ddilyn trywydd tebyg.
Yn ôl actor ifanc o Gymru, Curtis Kemlo, mae'r gost yn gallu gadael "blas sur" i fyfyrwyr.
Mae ffioedd clyweliadau wedi'u beirniadu dros y blynyddoedd, ac yn 2018 fe alwodd y Blaid Lafur ar ysgolion i gael gwared arnynt yn llwyr.
Mae Equity, undeb y perfformwyr, wedi lansio ymgyrch yn galw ar bob ysgol i gael gwared ar y ffioedd sydd, yn ôl yr undeb, rhwng £40 ac £80.
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd13 Mai 2024
Mae llawer o sefydliadau'n dadlau bod codi tâl am glyweliad yn angenrheidiol, ond mae un athro yn disgrifio'r ffioedd fel "yr eliffant yn yr ystafell" i'w myfyrwyr.
"Roedd yn dipyn o beth," meddai Chloe.
"Pan fyddwch chi'n rhoi'r cyfan at ei gilydd, gyda bwyd, petrol, trenau, gwestai, ac yna costau ychwanegol fel headshots a dillad newydd, fe wnaeth popeth adio i fyny yn gyflym iawn."
Ychwanegodd Chloe, sydd bellach wedi graddio o Goleg Bird yng Nghaint: "Wnaeth lot o fy ffrindiau ddim mynd am yr ysgolion galwedigaethol.
"Roedden nhw jyst yn dweud nad oedden nhw'n gallu cyfiawnhau'r arian yna."
'Straen ariannol i yrfa yn y celfyddydau'
Yn ôl Curtis Kemlo, 27, mae straen ariannol ynghlwm â dilyn gyrfa yn y celfyddydau perfformio.
Ag yntau wedi ei fagu yn ardal Trelái yng Nghaerdydd, heb unrhyw gysylltiadau teuluol â'r sector, dywedodd mai mynd i ysgol ddrama oedd y llwybr mwyaf amlwg i geisio ymuno â'r diwydiant.
Ond wrth baratoi ar gyfer ei glyweliad cyntaf, fe ddaeth i'r amlwg sut y gallai diffyg adnoddau ac arweiniad ei ddal yn ôl.
"Wnes i drawsgrifio monolog o YouTube oherwydd do'n i ddim yn gwybod ble i ddod o hyd i un," meddai.
Talodd am glyweliad yn y Royal Central School of Speech and Drama yn Llundain, ond penderfynodd i beidio â mynd gan nad oedd yn teimlo'n barod.
"Roedd yr holl beth yn ymddangos yn frawychus iawn," meddai.

Dywedodd Curtis (dde) mai ysgol ddrama oedd y ffordd amlwg i geisio cael mynediad i'r diwydiant perfformio a chelfyddydau
Nid tan iddo gael cynnig ysgoloriaeth ar gyfer y Stiwdio Actorion Ifanc, sydd bellach wedi dod i ben yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, y daeth ei lwybr yn gliriach.
"Fe ddysgais beth yw iaith y sefydliadau," meddai.
Serch hynny, mae Curtis yn amcangyfrif iddo wario tua £700 ar ffioedd, teithio, a hyfforddiant paratoadol cyn clyweliad ar gyfer ysgol ddrama dros gyfnod o bedair blynedd.
"Ro'n i ond yn ennill £5.30 yr awr ar y pryd," meddai, gan ychwanegu bod cael eich gwrthod ar ôl gwario cymaint at gyfer clyweliad yn gallu gadael "blas sur".
Yn ôl Kate Griffiths, arweinydd cwrs actio ar lwyfan a sgrin yng Ngholeg Gwent, cost ysgol ddrama yw'r "eliffant yn yr ystafell" ymhlith ei myfyrwyr.
"Rydyn ni'n derbyn llawer o fyfyrwyr sydd â doniau gwych, ac mae'n rhaid i ni drafod costau symud ymlaen [yn y diwydiant] yn gynnar iawn yn y cwrs," meddai.
'Gallai costau gyrraedd miloedd o bunnoedd'
Mae arolwg diweddar undeb Equity yn awgrymu bod dau o bob tri myfyriwr dosbarth gweithiol, a 56% o fyfyrwyr yn gyffredinol, wedi'u hatal rhag gwneud cais i sefydliadau hyfforddi oherwydd ffioedd clyweliadau a chostau cyrsiau.
Fe allai costau fod yn "gannoedd a hyd yn oed miloedd o bunnoedd", medd Joshua Bendall, cadeirydd Pwyllgor Dirprwyon Myfyrwyr Equity.
Er bod heriau ariannol eraill yn ogystal, dywedodd mai ffioedd clyweliadau "yw'r broblem gyntaf y mae pobl yn dod ar ei thraws".
Mae rhai ysgolion wedi dechrau lleihau ffioedd yn ddiweddar, tra bod eraill wedi eu dileu yn llwyr.

Curtis Kemlo (dde) yn perfformio yn y ddrama History Boys
Mae Curtis bellach yn gweithio fel actor proffesiynol, ac yn credu bod newid yn hanfodol.
"Mae yna lu o bethau sy'n ei gwneud hi'n anodd i rywun o gefndir economaidd-gymdeithasol is [gael mynediad at hyfforddiant]," meddai.
"Ond mae'n debyg mai ffioedd clyweliadau yw'r rhwystr hawsaf i'w ddileu."
Dywedodd hefyd bod cau Stiwdio yr Actorion Ifanc yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn golled sylweddol i ddarpar berfformwyr yng Nghymru.
"Yn sicr ni fyddwn i wedi mynd mor bell oni bai am yr anogaeth ges i o'r cwrs hwnnw," meddai.
Dywedodd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru: "Rydym yn chwilio am actorion amrywiol, llawn cymhelliant a thalentog gyda greddf fawr a pharodrwydd i gymryd risgiau, felly mae ystod eang o brofiadau, sgiliau a chymwyseddau yn cael eu hystyried.
"I adlewyrchu hyn, mae ein ffioedd clyweliadau ar sail prawf modd fel eu bod yn cael eu hepgor yn achos ymgeiswyr o gefndiroedd incwm isel."