Torri record byd am lanhau afon ar hyd glannau'r Taf

Llun o nifer ar lan yr afon yn gwisg 'high-vis' wrth gasglu sbwriel.
  • Cyhoeddwyd

Mae gwirfoddolwyr ar hyd Afon Taf wedi gosod record byd newydd am y nifer fwyaf o bobl i lanhau afon ar yr un pryd.

Roedd 1,327 o bobl yn rhan o ddigwyddiad 'Taff Tidy' ddydd Gwener, ac mi dorron nhw'r record o 998 o bobl.

Mi wnaethon nhw wasgaru mewn wyth man penodol rhwng Bannau Brycheiniog a Bae Caerdydd.

Y record byd blaenorol - a gafodd ei osod fis diwethaf - oedd 329 o bobl yn glanhau Afon Ganges yn India.

Kate Strong yn sefyll wrth ymyl yr afon Taf
Disgrifiad o’r llun,

Penderfynodd Kate Strong i geisio am record byd newydd tra'n seiclo 3,000 o filltiroedd ar feic bambŵ o amgylch Prydain

Yn ôl Kate Strong, trefnydd y digwyddiad, does dim digon o drafod am "beth gallen ni wneud bob dydd i helpu ein hafonydd".

Dywedodd Ms Strong, sy'n gyn-bencampwraig triathlon ac sydd â sawl record byd seiclo, fod y "bwyd rydyn ni'n bwyta yn ein cartrefi hefyd yn effeithio ar ein hafonydd".

"Mae beth rydyn ni'n rhoi i lawr y tŷ bach yn effeithio ar afonydd hefyd," meddai.

"Felly rydw i'n credu bod ni angen ein systemau dŵr ffres sy'n cynnal bywyd."

Tri dyn yn codi sbwriel ar lannau'r afon Taf
Disgrifiad o’r llun,

Cyfrannodd grŵp o bobl ddigartref sy'n casglu sbwriel yn gyson ar lannau Afon Taf yng Nghaerdydd at yr ymdrech i dorri'r record byd

Ymhlith y bobl eraill yn cymryd rhan oedd Dr Numair Masud, ecolegydd dŵr ffres o Brifysgol Caerdydd.

"Mae gwerth cofio fod yr Afon Taf yn cael ei hystyried yn farw yn ecolegyddol ar un adeg," meddai.

"Felly mae hynny'n atgoffa ni bod modd gwella pethau trwy gymryd camau fel bodau dynol.

"Fe fydd y gwaith o ddadansoddi'r gwastraff ar hyd yr afon yn ystod y dydd yn bwysig hefyd, achos mae'n bosib y bydd hwn nid yn unig yn record byd ar gyfer y nifer fwyaf o bobl yn glanhau afon, ond o bosib yr arolwg mwyaf o lygredd plastig ar hyd un afon hefyd," meddai Dr Masud.

Llun o bentwr o fagiau sbwriel.
Disgrifiad o’r llun,

Daeth y cyhoeddiad gan ddyfarnwr o Guinness World Records brynhawn Gwener

Ychwanegodd Dr Masud y byddai'r digwyddiad yn cael ei ddefnyddio hefyd ar gyfer arolwg o ymddygiad pobl sy'n arwain at ollwng sbwriel.

Cafodd yr ymdrech i osod record byd newydd ei gynnal mewn sawl lleoliad penodol ar hyd y Taf rhwng tarddiad yr afon ym Mannau Brycheiniog ac aber yr Hafren.

Roedd plant ysgol, grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr eraill yn casglu sbwriel ar lannau'r afon am gyfnod o hanner awr am hanner dydd.

Roedd dyfarnwr o Guinness World Records ym Mae Caerdydd i asesu'r dystiolaeth a chafodd canlyniad ei gyhoeddi yn y prynhawn.

Dr Numair Masud
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Masud bod stormydd a glaw trwm yn cyfrannu at y lefelau o wastrafff plastig sy'n cael eu golchi i'n afonydd

Dywedodd Michael Goode o'r grwp 'Surfers Against Sewage': "Mae gen i lot o litterpickers felly dwi yma i helpu mas a gobeithio y bydd dros 1,000 o bobl yn cymryd rhan heddiw.

"Mae pobl ar y cyfan yn hoffi casglu sbwriel, efallai maen nhw'n teimlo bod nhw'n gwneud gwahaniaeth a gwneud rhywbeth i'r amgylchedd.

"Mae sbwriel yn broblem parhaol. Mae beth bynnag sy'n mynd i mewn i Afon Taf, a phob afon arall yng Nghymru, yn symud i lawr at y môr yn y diwedd felly pan rydyn ni'n glanhau'r traethau mae sbwriel yna trwy'r amser."

Roedd Sylvia Davies yn un o'r cannoedd o wirfoddolwyr oedd yn cymryd rhan.

Dywedodd er ei bod hi'n "casau casglu sbwriel" ond "mae'n dra phwysig bod 'na bobl yn dod allan."

"Yn y pendraw mae yna gymaint o sbwriel a mae'n ofnadwy o ddrwg i'r amgylchedd ac i fywyd gwyllt.

"Un o'r pethau gwaethaf dwi'n gweld trwy'r amser yw 'wet wipes', maen nhw'n mynd yn sownd yn y coed ac yn chwifio fel baneri.

"Mae'n salw ofnadwy ond hefyd plastigion y' nhw a'r holl gemegau sydd yn sownd ynddyn nhw hefyd, mae wir yn ofnadwy."

Sylvia Davies
Disgrifiad o’r llun,

Er bod Sylvia Davies yn "casau casglu sbwriel" roedd hi'n cymryd rhan yn yr ymdrech i dorri'r record byd

Dywedodd Gail Davies-Walsh o Afonydd Cymru fod gwelliant yn ansawdd y dŵr wedi arafu.

"Yn y 1970au, roedd dalgylch Afon Taf yn un o'r afonydd mwyaf llygredig yng Nghymru, o ganlyniad i dreftadaeth ddiwydiannol cymoedd y de," meddai.

"Arweiniodd ansawdd dŵr sylweddol a gwelliant ecolegol at y dalgylch hwn, ond yn ddiweddar mae'r gwelliant hwnnw yn sicr wedi arafu."

"Mae'n siomedig bod adroddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru yn ddiweddar ar statws afon o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, dolen allanol yn dangos nad oes unrhyw welliant o gwbl dros y tair blynedd diwethaf mewn unrhyw gorff dŵr yn Afon Taf..."

'Nid rhywbeth i un sefydliad'

Dywedodd Rhian Thomas, o Gyfoeth Naturiol Cymru, nad oes "ateb syml i'r her gymdeithasol hon".

"Mae gwella ansawdd dŵr afonydd Cymru yn y tymor hir yn parhau i fod ar frig ein hagenda, ac rydym yn parhau i ysgogi gwelliannau trwy reoleiddio dŵr cadarn ac ymateb i ddigwyddiadau llygredd," meddai.

"Mae glanhau afonydd hefyd yn rhan bwysig o'r ateb, ac rydym yn cefnogi gwaith gwych y gwirfoddolwyr niferus sy'n helpu.

"Rydym angen datrysiad cydweithredol, gyda chymysgedd o well rheoleiddio, gorfodi ac addysg - nid rhywbeth y gall unrhyw un sefydliad ei wneud ar ei ben ei hun."