Dwy afon yng Ngwynedd yn methu profion safon dŵr

Mae Afon Gwyrfai yn llifo o Eryri i'r môr yn ardal Y Foryd ger Caernarfon
- Cyhoeddwyd
Mae dwy afon yn y gogledd-orllewin wedi cael eu hychwanegu at y rhestr o afonydd sy'n methu'r targed ar lefelau ffosfforws.
Roedd Afon Gwyrfai ac Afon Eden yn cyrraedd targedau ffosfforws yn flaenorol, ond erbyn hyn mae ardaloedd yn y ddwy afon sy'n methu.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyhoeddi data newydd, dolen allanol ddydd Iau ar ansawdd dŵr a lefelau ffosfforws, gan ddweud ei fod yn "dangos gwelliannau bach".
Mae'n dangos fod 50% o ardaloedd yn afonydd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) Cymru bellach yn cyrraedd y targedau "llym" o ran lefelau ffosfforws, o'i gymharu â 39% yn 2021.
Cafodd 122 o gyrff dŵr unigol o fewn naw afon yng Nghymru eu hasesu ar gyfer yr adroddiad.
Mae cymhariaeth uniongyrchol rhwng 2021 a 2024 yn dangos bod 17 ardal yn symud i statws pasio, tra bod pump yn methu â chydymffurfio bellach.

Mae Afon Eden yn cwrdd ag Afon Mawddach yn ardal Ganllwyd
Er bod gwelliannau wedi'u cofnodi, mae nifer yr afonydd sy'n methu â chydymffurfio mewn o leiaf un man wedi cynyddu o bump yn 2021 i saith yn yr asesiad diweddaraf.
Mae ardaloedd yn Afon Gwyrfai ac Afon Eden bellach yn methu targedau ffosfforws, ar ôl cyrraedd y targedau yn flaenorol.
Mae'r asesiadau yn defnyddio dull "un yn methu, pob un yn methu", sy'n golygu, os oes unrhywu un o'r elfennau a aseswyd yn methu, bydd y corff dŵr cyfan yn methu.
Y pum afon arall sydd ag ardaloedd sy'n methu'r targed ffosfforws ydy Afon Teifi, Afonydd Cleddau, Afon Dyfrdwy, Afon Wysg ac Afon Gwy.
Bydd Afon Gwyrfai felly'n destun cyfyngiadau datblygu er mwyn atal rhagor o ffosfforws rhag effeithio ar ansawdd y dŵr.
Mae CNC yn dweud na fydd angen hyn ar gyfer dalgylch Afon Eden gan mai "un sampl uchel oedd yn gyfrifol am y methiant".
Dywedodd Mary Lewis, pennaeth rheoli adnoddau naturiol CNC bod y canlyniadau ledled Cymru yn "galonogol, ac yn awgrymu bod y camau gweithredu a gymerwyd yn y blynyddoedd diwethaf yn dechrau gwneud gwahaniaeth".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd4 Chwefror
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2024