Sut wnaeth Queen ysbrydoli Yma o Hyd
- Cyhoeddwyd
Wrth fynd ar daith i nodi 40 mlynedd ers recordio Yma o Hyd, y brodyr Dafydd a Gwyndaf Roberts sy’n trafod gyrfa hir eu grŵp Ar Log.
Fel cân werin sy’n anthem i hunaniaeth y Cymry, fyddai rhywun ddim yn disgwyl i recordiad Yma o Hyd gael ei ysbrydoli gan y band roc Queen.
Ond mae eiliadau agoriadol fersiwn wreiddiol ‘anthem answyddogol’ Cymru yn deyrnged i neb llai na Freddie Mercury a’i fand.
Wrth i Ar Log barhau â’u taith i nodi pedwar degawd ers recordio’r gân, mae’n un o nifer o atgofion sy’n dod i Gwyndaf a Dafydd Roberts wrth gofio yn ôl dros 47 mlynedd o gyd-chwarae.
Y ddau frawd o Lwyngwril, Sir Feirionnydd, y ffidlwr Iolo Jones a Dave Burns, o’r Hennesseys, wnaeth ffurfio’r band er mwyn mynd draw i Lydaw i berfformio yng Ngŵyl Geltaidd Lorient yn 1976.
Fe gawson nhw gymaint o hwyl arni fe wnaeth aelodau The Dubliners, oedd heb glywed neb yn perfformio cerddoriaeth Gymraeg o’r blaen, eu perswadio i roi cynnig ar fod yn gerddorion llawn amser. Roedd anogaeth gan grŵp mor llwyddiannus yn ddigon iddyn nhw fynd amdani fel y band gwerin traddodiadol Cymraeg proffesiynol cyntaf.
Meddai Gwyndaf: “Ar y dechrau roedden ni’n teithio Lloegr, yr Alban, Iwerddon - ac yn gwneud pump neu chwe noson yr wythnos. Roedd yn ddigon i dalu cyflog i ni ac roedd o’n brentisiaeth go iawn. Roedden ni’n dysgu sut i gyflwyno noson, sut i roi set at ei gilydd. “
Yn fuan roedden nhw’n teithio Ewrop yn gyson ac ar daith rhyw naw mis o’r flwyddyn, gan berfformio dros y blynyddoedd hefyd mewn gwyliau yng ngogledd America, a theithiau yn Ne America.
Teithio'r cyfandir fel band llawn amser
Ychwanegodd Dafydd, oedd wedi bod ym mandiau Yr Atgyfodiad a Brân gyda’i frawd cyn ffurfio Ar Log: “Pan ti’n teithio mae pawb yn byw ym mhocedi ei gilydd, yn byw yn y fan, ac efo'i gilydd drwy’r dydd wrth gwrs.
“Mae 'na lot o atgofion da ond mae o’n fywyd od yn teithio o un lle i’r llall. Fydda ni’n cyrraedd yn rhywle ganol dydd a ddim yn dechrau gweithio tan tua 6pm ac yn gweithio tan yn hwyr. Fyddan ni’n aros efo’r trefnwyr, falle ar eu llawr, ac roedd pobl eisiau sgwrsio am y gerddoriaeth ac ati. Iddyn nhw roedd o’n un noson mewn mis ella, ond i ni roedd o bob nos wrth gwrs.”
Erbyn 1980, roedd Dave ac Iolo wedi gadael y band a Geraint Glynne Davies a Graham Pritchard wedi ymuno.
Wyth mlynedd ers ffurfio, daeth cyfnod Ar Log fel band llawn amser i ben wrth i gyfrifoldebau teuluol arwain at gael gwaith mwy sefydlog a’r grŵp yn parhau i berfformio a recordio yn rhan amser.
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd6 Mai 2016
- Cyhoeddwyd22 Awst 2023
Ond wrth i’r cyfnod proffesiynol ddirwyn i ben roedd y band wedi cychwyn ar bartneriaeth lwyddiannus efo Dafydd Iwan, un sy’n parhau hyd heddiw.
Roedd yr artistiaid wedi perfformio o gwmpas Cymru yn 1982 i nodi 700 mlynedd ers lladd y Tywysog Llywelyn ap Gruffudd - a’r gân Cerddwn Ymlaen wedi ei chyfansoddi i’r daith, ac wedi dod yn boblogaidd.
Y flwyddyn ganlynol, efo taith i nodi 800 mlynedd ers dyddiau Macsen Wledig ar y gweill, roedd angen cân arall.
'Roedden ni i gyd yn ffans o Queen'
Meddai Dafydd Roberts: “Dwi’n cofio lle wnaeth Dafydd (Iwan) chwarae Yma o Hyd i ni y tro cynta’ - gefn llwyfan Gwobrau Sgrech. Roedden ni wedi ennill gwobr gwerin yn ‘82 - a Dafydd yn deud wrthym ni gefn llwyfan ‘dwi wedi sgwennu’r gân yma’ a’i chwarae o i ni.
“Wnaeth Geraint bigo’r gitâr i fyny ac ymuno, wedyn wnaethon ni ei haddasu hi a’i harafu hi lawr a’i gwneud yn fwy anthemig a fuon ni’n chware hi lot yn ystod y daith, yn ystod mis Chwefror a Mawrth.
“Roedden ni’n gwybod adeg hynny bod o am fod yn anthemig ond fydda neb byth wedi dychmygu y bydda hi’n dod yn ail anthem genedlaethol Cymru!”
Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, gyda’r cerddor Stephen Rees wedi ymuno â’r band, fe recordiwyd y gân gydag offerynnau eraill yn stiwdio recordiau Sain. Dafydd Roberts, fu’n brif weithredwr y cwmni flynyddoedd yn ddiweddarach, oedd y cynhyrchydd:
“Y darn keyboards ar y dechrau efo’r arpeggiator (synth yn creu arpegio sydyn wrth bwyso un nodyn) - mae hwnnw’n dod gan y band Queen. Mae o fel rhyw fath o homage iddyn nhw a’u cân Las Palabras de Amor, sy’n dechrau’n debyg. Roedden ni i gyd yn ffans o Queen, yn enwedig Geraint.”
Mae Yma o Hyd bellach wedi cael ail-wynt - un sy’n gryfach na’r gwynt gwreiddiol - diolch i dîm pêl-droed Cymru, eu cefnogwyr a pherfformiadau Dafydd Iwan - ac mae Ar Log wedi elwa o hynny, meddai Dafydd:
“Yn sicr - unwaith ddechreuodd Yma o Hyd ddod yn boblogaidd eto efo’r tîm pêl-droed roedd pobl yn chwilio am y gân wreiddiol ac yn gweld ‘Dafydd Iwan ac Ar Log’ ac yn gofyn pwy ydi'r rhain?
“Roedd pobl yn edrych ac yn holi dramor ac yn America a rydan ni wedi gweld lot o ddiddordeb ers hynny - ac yn enwedig rŵan efo’r daith. Wnaeth tair noson Dafydd Iwan yn Galeri (i ddathlu’r 40 mlynedd, gydag Ar Log yn perfformio ar un noson) werthu mewn rhywbeth fel awr.
“Be sy’n ffantastig ydi bod o wedi torri ar draws ieithoedd - tydi o ddim yn rhywbeth i’r Cymry Cymraeg ond y di-Gymraeg hefyd yn gwybod am Yma o Hyd a’r stori tu cefn iddo, a phobl ifanc a phlant ifanc - ac ysgolion yn canu hi hefyd.”
Ychwanegodd Gwyndaf: “Mewn cyngerdd yng Nghaerdydd yn ddiweddar roedd yn braf gweld cynulleidfa mor ifanc - mae’r hen sdejars dal yno wrth gwrs, ac mae’n braf eu gweld nhw, ond pan ti’n gweld y genhedlaeth newydd yn gwybod y geiriau ac yn mwynhau - iddyn nhw doedden nhw erioed wedi clywed am Ar Log.”
Albym newydd ar y ffordd
Ac wrth ddathlu’r deugain ers Yma o Hyd, mae’r band yn cael cyfnod prysur arall.
Maen nhw eisoes yng nghanol eu taith - gyda noson efo Dafydd Iwan i ddod ar 9 Tachwedd, cyn iddyn nhw barhau efo Dewi Pws weddill y mis yn Wrecsam, Dyffryn Aeron, Y Bala a Llanegryn.
Maen nhw hefyd wedi bod yn ôl i stiwdio Sain i recordio albym arall, fydd yn cynnwys cyfres o ganeuon gwerin gan y cyfansoddwr clasurol byd-enwog Paul Mealor, ddaeth i sylw’r cyhoedd yn ddiweddar gyda’i waith ar gyfer seremoni coroni Brenin Charles.
“Pan gawson ni’r sgôr doedd o’n ddim byd tebyg i be’ ‘da ni’n chwarae fel arfer,” meddai Gwyndaf. “Mae’n arddull hollol wahanol ac roedd angen gweithio ychydig i addasu i’n hofferynnau ni a rhoi’r naws Ar Log.”
A gyda dau o’r aelodau gwreiddiol - Iolo a Dave - yn ôl yn y band, ynghyd â Geraint a Graham, a Geraint Cynan wnaeth ymuno efo’r band yn yr 1990au, mae’n brawf meddai Dafydd eu bod wedi bod yn ffodus yn eu haelodau er mwyn goroesi cyhyd.
“Mae pawb yn rhannu'r un syniadau,” meddai.
“Efo’r caneuon newydd er enghraifft - mae pawb efo’u mewnbwn ac yn gwybod be’ sy’n gweithio a be’ ydi cryfderau nhw eu hunain a’u hofferynnau.
“Mae pawb yn gyfarwydd efo'i gilydd, ac yn gwybod am wendidau a chryfderau ei gilydd. Mae’r mix wedi gweithio yn sicr.”