Lluniau: Sesiwn Fawr Dolgellau

Cefn Y Ship dan ei sang
- Cyhoeddwyd
Y penwythnos yma (17-20 Gorffennaf) fe ddychwelodd gŵyl werin y Sesiwn Fawr i dref Dolgellau yn Sir Feirionnydd.
Heidiodd miloedd o bobl yno i weld mwy na 50 o artistiaid yn perfformio ledled y dref, gyda'r prif lwyfan yng nghefn Gwesty'r Ship.
Ymhlith artistiaid cerddorol prif lwyfan yr ŵyl oedd Celt, Nain Bach, Peatbog Faeries o'r Alban a Le Vent Du Nord o Quebec.
Dyma gasgliad o'r hyn oedd i'w weld yn Nolgellau yn ystod y Sesiwn eleni.

Dawnsio i rhythmau Afrocluster

Bysgiwr ar waelod y Bont Fawr

Mwynhau'r ŵyl

NoGood Boyo ar Lwyfan y Ship ar nos Sadwrn

Joio

Bwncath yn diddanu

Peatbog Faeries o'r Alban ar Lwyfan y Ship nos Wener

Uchafbwynt i nifer. Perfformiad Cowbois Rhos Botwnnog yn yr eglwys, flwyddyn ar ôl i'w prif leisydd, Iwan, gael strôc yn yr ŵyl

Amser bwyd

Sgiliau syrcas yn y pentre plant

Twmpdaith ar y sgwâr
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2024