Lluniau: Gŵyl y Gogs 2025

- Cyhoeddwyd
Roedd yna dipyn o gyffro yn Y Bala dros y penwythnos gyda Gŵyl y Gogs yn dychwelyd i'r dref.
Ymysg y perfformwyr roedd Yws Gwynedd, Gwilym, Buddug, Y Cledrau, Pys Melyn, Mynadd, Linda Griffiths, Alis Glyn a Rhi Jorj a'r band.
"Cafwyd Gŵyl y Gogs llwyddiannus eto eleni, gyda nifer fawr o bobl leol ac o bell yn dod i gefnogi'r criw o wirfoddolwyr" meddai Pwyll ap Llŷr Edwards, un o drefnwyr yr ŵyl.
Er gwaetha'r glaw fe ddaeth y cynulleidfaoedd yn frwdfrydig, a dywed Pwyll fod y criw yn barod wedi dechrau cynllunio ar gyfer 2026:
"Does ddim angen aros blwyddyn gyfan ar gyfer y Gŵyl y Gogs nesaf, gan y byddwn yn dychwelyd ar ddyddiad gwahanol y flwyddyn nesaf i ddathlu dechrau'r haf - y 1af a'r 2ail o Fai, 2026."
Dyma rai lluniau o'r ŵyl eleni.

Y Cledrau, un o'r bandiau a oedd yn perfformio nos Wener

Yws Gwynedd a'i fand

Y gynulleidfa'n gynnar yn y dydd wrth i bobl ddechrau cyrraedd

Buddug, a oedd yn perfformio nos Sadwrn

Gwilym, y band o ardal Ynys Môn ac Arfon

Yr olygfa o'r llwyfan tra roedd Yws Gwynedd yn perfformio

Y babell yn llawn ar gyfer y bandiau gyda'r hwyr
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd6 Awst
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf