Dau fachgen yn cyfaddef dynladdiad ond yn gwadu llofruddiaeth

Roedd Kamran Aman yn 38 oed ac yn dad i un plentyn
- Cyhoeddwyd
Mae dau fachgen, 16 a 17 oed, wedi cyfaddef dynladdiad dyn 38 oed o'r Barri, ond yn gwadu ei lofruddio.
Bu farw Kamran Rasool Aman, a oedd yn dad i un plentyn, o un clwyf ar ôl cael ei drywanu yn ei frest yn fuan wedi hanner nos ar 1 Gorffennaf eleni.
Nid oes modd i'r bechgyn, sydd o Lanilltud Fawr ym Mro Morgannwg, gael eu henwi oherwydd eu hoedran.
Mewn teyrnged, fe wnaeth teulu Mr Aman ei ddisgrifio fel "gŵr ffyddlon, tad cariadus a mab, brawd, ewythr a ffrind arbennig".
"Kamran oedd calon ei deulu ac roedd yn cael ei garu'n fawr o fewn ei gymuned," meddai ei deulu.
Fe wnaeth Heddlu De Cymru gychwyn ymchwiliad llofruddiaeth ar ôl i swyddogion gael eu galw i ddigwyddiad ar Heol y Barri yn y dref.
Mae disgwyl i'r achos ddechrau yn Llys y Goron Caerdydd yn ystod y dyddiau nesaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf
