Tad o'r Barri wedi marw o glwyf trywanu yn ei frest - cwest

Llun o Kamran AmanFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Kamran Aman yn 38 oed ac yn dad i un plentyn

  • Cyhoeddwyd

Mae cwest i farwolaeth tad o'r Barri wedi clywed ei fod wedi marw o ganlyniad i un clwyf ar ôl cael ei drywanu yn ei frest.

Clywodd Llys Crwner Pontypridd fod Kamran Rasool Aman, 38, wedi'i ddarganfod gyda'r hyn a oedd yn ymddangos fel "un clwyf o ganlyniad i drywanu yn ochr chwith y frest a oedd yn cynnwys y fentrigl chwith".

Mae dau ddyn ifanc, 16 a 17 oed o Lanilltud Fawr, Bro Morganwg, na ellir eu henwi oherwydd eu hoedran, wedi'u cyhuddo o lofruddiaeth ac yn cael eu cadw yn y ddalfa.

Fe glywodd Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru am aflonyddwch, ychydig cyn hanner nos ar 30 Mehefin ar Ffordd y Barri ble roedd yn byw a bu farw yn oriau mân y bore.

Digwyddiad Y Barri
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i ddigwyddiad ar Heol Y Barri nos Lun 30 Mehefin

Dywedodd Crwner Ardal Canol De Cymru, Kerrie Burge, ei bod yn "angenrheidiol agor cwest i farwolaeth Mr Aman gan fod yna reswm i amau ​​bod ei farwolaeth yn annaturiol" a bod "rhaid casglu rhagor o dystiolaeth fel rhan o'r ymchwiliad troseddol".

Dywedodd ei bod yn "cydymdeimlo â'r teulu ar eu colled mewn amgylchiadau mor anodd".

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd teulu Mr Aman ei fod yn "ŵr ffyddlon, yn dad cariadus ac yn fab, brawd, ewythr a ffrind arbennig".

Mae'r cwest wedi cael ei ohirio er mwyn caniatáu i'r ymchwiliad troseddol gael ei gynnal.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig