Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio menyw yn Aberteifi

Fe gafodd corff menyw ei ganfod yn iard gychod Netpool Aberteifi yn gynnar prynhawn Sadwrn 15 Tachwedd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 29 oed wedi cael ei arestio am amheuaeth o lofruddiaeth wedi darganfyddiad corff menyw yn Aberteifi.
Fe gafodd y fenyw ei chanfod yn iard gychod Netpool tua 12:35 brynhawn Sadwrn.
Mae teulu'r fenyw wedi cael gwybod ac mae swyddogion arbenigol Heddlu Dyfed-Powys yn rhoi cymorth iddyn nhw.
Dywed y llu y bydd yna fwy o bresenoldeb heddlu na'r arfer yn y dref wrth i'r ymchwiliad i'r achos barhau.
Maen nhw'n awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn ardal yr iard gychod, neu a welodd unrhyw un yno, ers 21:00 nos Iau 13 Tachwedd.

Fe fydd mwy o swyddogion heddlu i'w gweld yn Aberteifi wrth iddyn nhw ymchwilio i'r farwolaeth yn iard gychod Netpool