Lluniau: Dydd Llun yn yr Eisteddfod
- Cyhoeddwyd
Mae dydd Llun yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn ddiwrnod pwysig ym mywydau nifer o bobl wrth iddyn nhw gael eu derbyn i'r Orsedd.
Ac roedd digon o bethau eraill yn digwydd ar y maes ym Mhontypridd wrth gwrs - o gystadlu, i gymdeithasu a cherddoriaeth.

Y corn gwlad yn agor Seremoni'r Orsedd - oedd yn y Pafiliwn oherwydd y tywydd. Dyma seremoni cynta'r Archdderwydd newydd y Prifardd Mererid Hopwood

Mererid Hopwood yw'r ail fenyw i fod yn Archdderwydd. Drws nesa iddi mae Christine James, y fenyw gyntaf i wneud y swydd, ac ar y dde pellaf mae Myrddin ap Dafydd - yr Archdderwydd diwethaf

Aelodau newydd yr Orsedd yn mwynhau'r seremoni

Mae'n ddiwrnod balch i bawb sy'n cael eu hurddo - fel Rachel Stephens, sy'n dod o Gwm Rhondda

... mae'n seremoni urddasol, ond cyfeillgar a chynnes

Traddodiad newydd i'r hen draddodiad...

... ac un arbennig i'r albwm

Ac wedi elwch... cadw'r gwisgoedd wedi'r sermoni tan y Coroni ddiwedd y pnawn

Wedi seremoni'r Orsedd, roedd y corau yn cystadlu - a dim arwydd o nerfau gan aelodau Côr Nefi Blŵs gefn llwyfan cyn iddyn nhw fynd ymlaen

Gyda'r cystadlu wedi dechrau, mae 'na ddiddordeb gan aelodau'r corau eraill gefn llwyfan yn y gwrthwynebwyr

... ac mae'r holl ganlyniadau ar gael ar ap BBC Cymru Fyw hefyd wrth gwrs

Dau gymeriad adnabyddus yn ardal Pontypridd - Gareth Potter yn holi perchennog cwmni teledu Avanti Emyr Afan am 25 mlynedd o'r Ffatri Bop, mewn sgwrs yn Encore

Grŵp gwerin yn Y Bwthyn

Dara, o Griccieth, sydd ychydig yn rhy ifanc i feddwl am Maes B ar hyn o bryd

Mr Urdd yn ymuno yn y disgo tawel yn Mas ar y Maes

Aneirin Jones yn y Tŷ Gwerin

Roedd ychydig o law yn ystod y dydd - ond digon o lefydd i fochel a mwynhau

Ac roedd digon o gyfnodau sych hefyd a Kelly a Cath o'r Rhondda yn gwneud y mwya'. Nôl eto yfory?
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Awst 2024
- Cyhoeddwyd5 Awst 2024