Lluniau: Dydd Sadwrn agoriadol y Steddfod

  • Cyhoeddwyd

Wedi'r holl baratoi, codi arian a gwaith caled, roedd yr haul yn gwenu ym Mhontypridd ar ddiwrnod agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf. Dyma rai o luniau'r dydd.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y teulu yma wedi teithio o Abertawe ar y trên i wylio'r bandiau pres. Roedden nhw’n falch fod trafnidiaeth gyhoeddus hwylus i’r Maes gan fod yr amgylchedd yn bwysig iddyn nhw.

Disgrifiad o’r llun,

Ben bore, roedd y criw yma o wirfoddolwyr Heddlu De Cymru yn barod i groesawu a helpu ymwelwyr.

Disgrifiad o’r llun,

Martha y labradwdl yn mwynhau ei Steddfod gyntaf!

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cyfle am hunlun cyn ymweld â'r Maes

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y Babell Lên dan ei sang ar gyfer rownd derfynol Talwrn y Beirdd, Radio Cymru. Tir Iarll a Dros yr Aber fu'n cystadlu.

Disgrifiad o’r llun,

Wedi gornest agos, Tir Iarll ddaeth i'r brig. Hanner pwynt yn unig oedd rhyngddyn nhw a thîm Dros yr Aber. Bydd cyfle i glywed y rhaglen nos Sul am 19:00 ar Radio Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Idris Reynolds wnaeth ennill Tlws Coffa Dic Jones am gywydd gorau’r gyfres. Enillwyr y tlysau eraill oedd Iestyn Tyne (Tlws Cledwyn Roberts - telyneg orau’r gyfres) ac Aled Evans (Tlws Coffa Emyr Oernant - cân ysgafn orau’r gyfres).

Disgrifiad o’r llun,

Ruby, Alys a Teddie yn crwydro’r maes, a'r tri wrth eu bodd bod yr Eisteddfod wedi dod i'w hardal nhw.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y cystadleuydd yma'n barod am benwythnos mawr y bandiau pres.

Disgrifiad o’r llun,

Maes D, fu'n un o ardaloedd mwyaf poblogaidd y Maes heddiw, yn ystod perfformiad Dafydd Iwan.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae amrywiaeth fawr o ddigwyddiadau ar y Maes trwy'r wythnos. Dyma griw o blant yn gwylio perfformiad gan aelodau o Goleg Cerdd a Drama Brenhinol Caerdydd.