Ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn 'boen meddwl' i bobl Cricieth

Sian Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi bod yn "boenus i bobl leol", medd y cynghorydd Sian Williams

  • Cyhoeddwyd

Mae trigolion Cricieth wedi disgrifio cyfnod diweddar o ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn y dref fel "sioc a phoen meddwl".

Yn ystod y cyfnod fe gafodd rhai toiledau cyhoeddus eu fandaleiddio, gwydr ei falu a gwlâu blodau eu chwalu.

Mae'r cynghorydd lleol yn dweud bod perthynas rhwng ymddygiad gwael pobl ifanc a thoriadau i gyllidebau i gynnal cyfleusterau.

Mae Heddlu'r Gogledd bellach wedi cyhoeddi Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ar gyfer y dref, sy'n rhoi mwy o bwerau i swyddogion y llu.

Mae'r dref eisoes wedi cynnal cyfarfod cyhoeddus i geisio dod at wraidd y broblem.

Dros y gaeaf mae trigolion yn dweud i blant ifanc ddringo ar do hen ysgol y dref a chanu'r gloch, yn ogystal ag achosi trafferthion drwy falu gwydr.

"Oedd o'n boenus i bobl leol," meddai'r Cynghorydd Sian Williams sy'n cynrychioli'r ardal ar Gyngor Gwynedd.

"Oedd o'n boen meddwl rili, a neb isio'r broblem waethygu.

"Oedd o'n dipyn o sioc i fynd o dre' eitha' distaw i wynebu hyn."

Toiledau cyhoeddus
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y toiledau cyhoeddus yma yn y dref eu fandaleiddio yn ddiweddar

Gyda chynghorau ar draws Cymru wedi gweld eu cyllidebau'n cael eu torri ac felly'n gorfod torri gwasanaethau, mae 'na bryder hefyd bod diffyg adnoddau a chyfleusterau yn arwain at blant yn achosi trafferthion.

Mae'r Cynghorydd Williams yn poeni bod yr argyfwng costau byw hefyd yn gwneud bywyd rhieni yn anoddach, "gyda nifer yn gweithio mwy nag un swydd", meddai.

Ddiwedd Ionawr fe wnaeth Heddlu Gogledd Cymru gyhoeddi Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ar gyfer yr ardal.

Mae'n gwneud hi'n haws i'r awdurdodau fynd i'r afael "â'r lleiafrif bychan o bobl sy'n rhan o'r ymddygiad gwrth-gymdeithasol".

Yn ôl yr Arolygydd Iwan Jones o'r llu, sy'n gyfrifol am De Gwynedd, mae'r trafferthion yn cael effaith ar y dref.

"Mi oedd 'na bobl ifanc yn ymgasglu yn y bus stops yn yfed alcohol a sôn am gyffuriau ac yn difrodi eiddo, ac roedd hyn yn rhywbeth oedd yn digwydd yn ddyddiol bron," meddai.

Iwan Jones
Disgrifiad o’r llun,

"Mae 'na lot o ddarpariaeth sydd ddim ar gael i bobl ifanc rhagor," meddai'r Arolygydd Iwan Jones

Dros gyfnod y gaeaf mae'r llu yn dweud eu bod nhw wedi bod yn gweithio gyda'r gymuned i geisio mynd i'r afael â'r heriau.

"Oeddan ni'n trio mynd i wraidd y broblem yna a rhoi darpariaeth," meddai'r Arolygydd Jones.

Ond mae'n cydnabod maint yr her, gyda chyllidebau ac adnoddau'n prinhau, meddai.

"Mae 'na lot o ddarpariaeth sydd ddim ar gael i bobl ifanc rhagor – doedd dim yma yng Nghricieth."

Erbyn hyn mae'r llu, ar y cyd â'r cyngor, wedi sicrhau clwb ieuenctid un noson yr wythnos.

Gyda swyddogion yma bellach â phwerau ychwanegol tan y flwyddyn 2027, mae 'na obaith y bydd yr ymdrechion a chynlluniau newydd yn ddigon i atal rhagor o drafferthion.

Pynciau cysylltiedig