'Tipyn o bwysau i yfed alcohol er mwyn cymysgu yn y brifysgol'

Gwydion (dde) efo'i ffrindiau. Dawns yr haf y brifysgolFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Gwydion (ar y dde) efo'i ffrindiau cyn dawns yr haf yn y brifysgol

  • Cyhoeddwyd

Bydd miloedd o fyfyrwyr ar hyd a lled Cymru yn cymryd rhan mewn digwyddiadau cymdeithasol fis yma wrth i brifysgolion ailagor.

Ond mae un myfyriwr yn dweud fod yna bwysau weithiau ar fyfyrwyr newydd i fod yn rhan o ddigwyddiadau sy’n ymwneud ag yfed alcohol.

Mae Gwydion Outram, sy'n astudio ym Mhrifysgol Bangor, yn dweud fod pwysau fel hyn yn gostus yn ariannol - ond hefyd yn seicolegol.

Gallai myfyrwyr deimlo eu bod yn cael eu gwthio i yfed er mwyn cymdeithasu, meddai.

“Pan wnes i ymuno yn wythnos y glas, roedd tipyn o bwysau i yfed alcohol er mwyn cymysgu gyda phobl ond dydw i ddim yn yfed ac mae’n rhaid i fi ddweud bod fy ffrindiau i yn deall hynny, ” meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gwydion Outram fod digwyddiadau di-alcohol yn "ffordd wych i bawb ddod i ’nabod ei gilydd heb orfod yfed"

Mae wythnos y glas, yn aml, yn llawn gweithgareddau sy’n cynnwys yfed alcohol – fel Parti Pwnsh, Crol y Glas, Crol Teulu - ac mae myfyrwyr yn gallu teimlo bod cymdeithasu heb alcohol yn amhosib.

“Rwy’n meddwl y dylai prifysgolion roi mwy o bwyslais ar ddigwyddiadau di-alcohol – mae’n ffordd wych i bawb ddod i ’nabod ei gilydd heb orfod yfed," meddai Gwydion.

“Fe wnes i a fy ffrindiau fwynhau chwaraeon fel pêl-droed saith-bob-ochr, ac mae digwyddiadau fel 'na yn ffordd wych o gael hwyl a chymdeithasu heb y pwysau i yfed."

Ffynhonnell y llun, Alcohol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Andrew Misell o Alcohol Cymru yn dweud fod y dylai undebau arbrofi gyda digwyddiadau di-alcohol

Dywedodd Andrew Misell, cyfarwyddwr Alcohol Cymru, fod cynnydd yn nifer y bobl ifanc sy’n penderfynu ymwrthod ag alcohol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae'r "cynnydd sylweddol mewn marchnadoedd diodydd di-alcohol o safon uchel" yn rhannol gyfrifol am hynny, meddai.

Ond mae’n cydnabod ei bod hi’n gallu bod yn anodd i undebau drefnu digwyddiadau di-alcohol, gyda thafarndai a chlybiau'n parhau yn dynfa i nifer.

"Mae’n hawdd deall y pwysau ar undebau myfyrwyr i gynnig digwyddiadau sy’n cynnwys alcohol, gan eu bod yn cystadlu â’r llefydd hyn.

“Fodd bynnag, mae'n werth i undebau arbrofi gyda digwyddiadau di-alcohol, gan y gallai rhai myfyrwyr fod yn osgoi digwyddiadau cymdeithasol oherwydd presenoldeb alcohol."

Tripiau i Ikea

Mae Elain Gwynedd, llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA), yn cydnabod y rôl fawr mae alcohol yn ei chwarae mewn bywyd cymdeithasol prifysgol.

Ond mae’n pwysleisio nad yw yfed yn cael ei wthio ar yr un myfyriwr yn Undeb Aberystwyth.

"Mae llawer o ddigwyddiadau UMCA yn cael eu cynnal mewn ffordd lle does dim pwysau ar fyfyrwyr i yfed," meddai.

"Yn ystod wythnos y glas, rydym yn trefnu nosweithiau cymdeithasol di-alcohol fel tripiau i Ikea a nosweithiau gemau."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Elain Gwynedd: 'Pwysig sicrhau bod pob myfyriwr yn teimlo'n gyfforddus'

Mae hi’n credu ei bod yn bosib darparu ar gyfer y myfyrwyr sy’n dymuno cymryd rhan mewn digwyddiadau cymdeithasol, gyda neu heb alcohol.

“Mae’n bwysig sicrhau bod pob myfyriwr yn teimlo'n gyfforddus, boed yn cymryd rhan mewn digwyddiadau sy’n cynnwys alcohol neu ddim.”

Gyda mwy o bobl ifanc yn ymwrthod ag alcohol, mae’n amlwg bod angen i brifysgolion greu amgylcheddau cymdeithasol sy’n adlewyrchu’r newid yma, meddai Gwydion.

“Byddai mwy o ddigwyddiadau di-alcohol nid yn unig yn lleihau’r pwysau ar fyfyrwyr i yfed, ond hefyd yn hyrwyddo amgylchedd cymdeithasol mwy cynhwysol a chytbwys i bawb,” ychwanegodd.

“Mae hyn yn rhywbeth cadarnhaol tuag at annog ffordd iachach a mwy cynhwysol o fyw i genhedlaeth newydd o fyfyrwyr.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "annog pawb, gan gynnwys pobl ifanc ac unrhyw fyfyrwyr newydd eraill sy'n dechrau yn y brifysgol ym mis Medi, i wneud dewisiadau iach, yfed yn gyfrifol a lleihau eu defnydd o alcohol".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Deio Owen fod "undebau myfyrwyr yn ymateb i'r galw gan fyfyrwyr" am lai o weithgareddau yn ymwneud ag alcohol

Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Llun, dywedodd Deio Owen, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymru fod "prifysgolion ac undebau myfyrwyr yn mynd i'r afael â'r broblem".

Er ei fod yn cydnabod bod tueddiadau yfed myfyrwyr yn rhywbeth sy'n "newid yn barhaus", dywedodd ei fod wedi sylwi ar "ostyngiad" yn nifer y myfyrwyr sy'n ymwneud ag alcohol a bod "mwy o ddigwyddiadau di-alcohol" yn cael eu cynllunio.

Dywedodd fod "undebau myfyrwyr yn ymateb i'r galw gan fyfyrwyr" am lai o ddigwyddiadau ag alcohol gan ychwanegu "fod 'na gwymp wedi bod dros y blynyddoedd, yn enwedig ers covid, 'da ni wedi gweld newid mawr yn agweddau pobl tuag at yfed".