Chwilio am fachgen 'bregus' 16 oed sydd ar goll yn Llandudno

AthrunFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Athrun ei weld diwethaf ar draeth Pen Morfa yn Llandudno brynhawn Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae'r gwasanaethau brys yn chwilio am fachgen 16 oed gafodd ei weld diwethaf ar draeth yn Llandudno.

Cafodd yr heddlu eu galw am 14:00 brynhawn Sadwrn yn sgil pryderon fod Athrun ar goll.

Dywedodd swyddogion fod y bachgen - sy'n cael ei ddisgrifio fel "unigolyn bregus" - wedi ei weld wrth ymyl y parc chwarae a'r llyn hwylio ger traeth Pen Morfa.

Mae ganddo wallt byr, tywyll, yn tua chwe throedfedd o ran taldra ac roedd yn gwisgo siorts nofio gwyn gyda phatrwm arnynt.

Mae swyddogion arbenigol Heddlu Gogledd Cymru wedi bod yn arwain ymgyrch chwilio yn y môr ac ar y tir - gyda chymorth gan Wylwyr y Glannau ac asiantaethau eraill.

Dywedodd yr heddlu fod yr achos yn cael ei drin fel "ymchwiliad person coll risg uchel", ac maen nhw'n galw ar y cyhoedd i fod yn wyliadwrus ond i beidio rhoi eu hunain mewn peryg.

AthrunFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Credir bod Athrun yn gwisgo siorts nofio patrymog glas a gwyn a dim crys - fel yn y llun

Dywedodd y Rhingyll Geraint Owen o Heddlu'r Gogledd, eu bod yn poeni am Athrun, ac "yn apelio at unrhyw un oedd ar y traeth ddoe, ac efallai wedi tynnu lluniau, i gysylltu hefo ni."

"Rydyn ni'n gofyn i'r cyhoedd i gadw golwg am Athrun, sydd wedi mynd ar goll ers canol dydd ddoe. Mae Athrun hefo awtistiaeth ac yn Llandudno ar ei wyliau gyda'i deulu.

"Y lle olaf cafodd ei weld oedd yn rhedeg tuag at y môr yn West Shore," meddai. Roedd y bachgen yno gyda'i dad a'i frawd.

Ychwanegodd bod "chwiliadau extensive wedi cael eu cwblhau ers yr alwad i'r heddlu hefo amryw o swyddogion, hofrennydd, drones a chychod Coastguard yn cymryd rhan."

Diolchodd i'r "holl aelodau cymdeithas sydd wedi anfon gwybodaeth a chynnig helpu."

"Unrhyw wybodaeth, plîs ffoniwch 101," meddai.

Pynciau cysylltiedig