Cerfio cwpledi beirdd Aberystwyth ar y prom i ddathlu'r dref

- Cyhoeddwyd
Wrth i fardd tref Aberystwyth baratoi at drosglwyddo'r awenau, mae llinellau o farddoniaeth wedi eu cerfio i ddathlu'r dref.
Mae bod yn fardd y dref wedi bod yn fraint enfawr, meddai Eurig Salisbury wrth i'w gyfnod dwy flynedd ddod i ben.
Yn benllanw ar y gwaith mae Eurig Salisbury a bardd newydd y dref, y Prifardd Hywel Griffiths, wedi llunio cwpledi i'r prom sydd bellach wedi'u cerfio mewn llechi ger traeth y de.
Mae'r cyfan yn rhan o waith y cyngor sir i drawsnewid promenâd Aberystwyth i fod yn "lle mwy hygyrch, deniadol a chynaliadwy ar gyfer trigolion lleol ac ymwelwyr".
Mae'r prosiect a'r gwaith o ailddatblygu yr Hen Goleg wedi derbyn £10.8m gan Lywodraeth y DU.

Cyngor tref Aberystwyth a gomisiynodd y ddau fardd i gyfansoddi y cwpledi i'r prom, ac maen nhw'n dathlu ysbryd cymunedol y dref a'i chysylltiad agos gyda'r môr.
Mae Eurig a Hywel yn gyfeillion pennaf - y ddau wedi bod yn rhannu ystafell tra'n fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth a chyn hynny y ddau yn gyd-ddisgyblion yn Ysgol Bro Myrddin.

"Fe ddechreuon ni gyfansoddi barddoniaeth tra ar y bws ysgol," meddai Eurig Salisbury.
"Bydden ni'n ysgrifennu cwpledi i'n gilydd neu byddai un ohonom yn anfon llinell at y llall i ffurfio cwpled.
"Roedd cael llunio cerdd gomisiwn yn dipyn o fraint a her - yn enwedig gan bod y cwpledi yn cael eu rhoi mewn carreg a fydd yn para am gyfnod hir iawn ond mae'n rhywbeth ry'n yn ei groesawu yn fawr, wrth gwrs."

Dywed llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion bod y gwaith ar y promenâd yn cynnig cyfle gwych i gydweithio â chyngor y dref, a bod y gwaith llenyddol newydd yn cefnogi cais Aberystwyth i fod yn Ddinas Diwylliant UNESCO.
Yn ogystal â chwpledi mae rhai llechi yn cynnwys rhai o ymadroddion tafodieithol y 'Cardi' er mwyn "atgyfnerthu hunaniaeth ieithyddol a diwylliannol yr ardal".

Mae rhai o ymadroddion tafodieithol Ceredigion wedi'u cynnwys ar brom Aberystwyth
Wrth gyfeirio at y cwpledi dywedodd Maer Aberystwyth, Maldwyn Pryse: "Mae'r gerdd hon yn deyrnged i hanes cyfoethog Aberystwyth a'i phobl ac i gysylltiad parhaol y dref â'r môr.
"Mae gweld y geiriau wedi'u hysgrifennu yn y promenâd ei hun yn atgof pwerus o'r modd y mae diwylliant a chymuned yn llunio ein hamgylchedd."

"Mae Aberystwyth yn fan lle mae'r tir, y môr a'r bobl yn cyd-daro i greu deialog parhaus ond cyfnewidiol.
"Roeddem eisiau dal hanfodion y cysylltiad yma ‒ gwytnwch y promenâd, prydferthwch ei leoliad a'r teimlad o berthyn y mae'n ei gynnig i'r rheiny sy'n ymlwybro ar ei hyd, boed am y tro cyntaf neu ar hyd eu hoes," ychwanegodd y beirdd.
Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd gwelliannau pellach yn cael eu gwneud ar lan y môr ac mae disgwyl i'r prosiect adfywio ddod i ben erbyn diwedd 2025.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2023