Datgelu hanes wrth adnewyddu Hen Goleg Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Mae hanes adeilad eiconig yn Aberystwyth wedi cael ei ddatgelu wrth i brosiect adnewyddu gwerth degau o filiynau o bunnau fynd yn ei flaen.
Mae'r gwaith o ailddatblygu'r Hen Goleg yn cael ei ddisgrifio fel cynllun trawsnewidiol ar gyfer y dref a'r canolbarth.
Bydd £43m yn cael ei wario ar y safle, gyda gwesty pedair seren yn agor yn y dref am y tro cyntaf, yn ogystal ag ardaloedd ar gyfer dechrau busnes yn y maes technoleg, ardaloedd astudio i fyfyrwyr a golygfeydd godidog dros Fae Ceredigion.
Wrth i'r gwaith caib a rhaw ddechrau ar safle cartref cyntaf Prifysgol Cymru, mae amryw o drysorau wedi cael eu darganfod oedd wedi eu cuddio tu ôl i fyrddau plaster a nenfydau ffug.
Fe ddechreuodd y gwaith adeiladu gwreiddiol yn yr 1860au, a hynny er mwyn datblygu gwesty crand a agorodd am gyfnod yn 1865.
Ond fe gafodd y perchennog broblemau ariannol, ac fe brynwyd yr adeilad am £10,000 i fod yn gartref newydd i Brifysgol Cymru.
Cynnig bywyd newydd i'r Hen Goleg yw bwriad y cynllun adnewyddu, medd Rhodri Llwyd Morgan - cyfarwyddwr y prosiect ar ran Prifysgol Aberystwyth.
"Ni 'di cael cyfnod anodd yn economaidd fel gwlad... felly mae gweld buddsoddiad o'r raddfa yma yn y dref yn hwb sylweddol iawn," dywedodd.
"Ma' gyda ni weledigaeth sy'n drawsnewidiol ar gyfer yr adeilad, ond hefyd adeilad fydd yn 'neud gwahaniaeth arwyddocaol a thrawsnewidiol ar gyfer Aberystwyth a'r ardal.
"Yn y bôn ry'n ni am greu canolfan treftadaeth, diwylliannol, lletygarwch a sgiliau a menter fydd yn hwb enfawr i'r economi."
Mae nifer o nodweddion unigryw'r adeilad wedi cael eu cuddio dros y blynyddoedd.
Datgelu'r cwbl oedd rhan gynta'r gwaith yn ôl rheolwr y prosiect, Jim O'Rourke, wrth gerdded i ystafell sydd wedi gweld sawl newid dros y blynyddoedd.
"Yn wreiddiol yn 1865 hon oedd ystafell biliards y gwesty," meddai.
"Wedyn roedd 'na dân yn 1885, ac ar ôl hynny fe gafodd ei ddatblygu yn 'stafell gyffredin i staff y brifysgol.
"Wedyn yn y 1960au roedd 'na newid lle roedd rhan fwya'r ystafell wedi cael ei guddio.
"So o'dd 'na nenfwd ffug wedi cael ei roi mewn, roedd 'na waliau wedi cael eu cau mewn fel bod ni ddim yn gallu gweld y pileri, ddim yn gallu gweld y nenfwd.
"Ystafell cyngor y brifysgol oedd e am gyfnod.
"Nawr bod ni wedi darganfod gogoniant yr ystafell yma ni'n mynd i ddatblygu fe, a dod nôl i fel oedd e'n wreiddiol. Fe fydd e'n 'stafell gynhadledd o bwys felly.
"Dyma un o'r 'stafelloedd fydd lle ni'n gweld y newid mwya' yn y cynllun. Un o'r 'stafelloedd lle ni'n dod â'r elfennau treftadaeth."
Mae'r safle'r prosiect yn anferthol, gan gynnwys adeilad yr Hen Goleg a dwy fila Sioraidd drws nesaf.
Bydd rhai ardaloedd yn cael eu trawsnewid ar gyfer pwrpas newydd, gan gynnwys technoleg fodern fel "lifft Willy Wonka".
Ond fe fydd ardaloedd eraill yn talu teyrnged i'r gorffennol, medd Jim O'Rourke wrth ein tywys o gwmpas.
"Mae'r 'stafell yma yn mynd i gael ei ddatblygu fel oedd e yn 1890, sef darlithfa.
"Fe fydd lot o bobl sydd wedi cael addysg yn y coleg yn cofio yr ystafell yma fel darlithfa. Fe fydd hon yn ddarlithfa wedyn - yn edrych fel o'dd e yn 1890."
Yn adeilad rhestredig Gradd I, mae gwaith cadwraeth yn bwysig.
Mae angen trwsio dros 600 o ffenestri ar ôl wynebu'r tywydd garw dros y blynyddoedd, a Gary Wise oedd wrthi'n galed yn eu hadfer.
"Mae'r ffenestr 'ma mewn cyflwr eitha' da - ma' dim ond eisiau sando a côt o baent," meddai.
"Ond ma' [ffenestr] sash arall fan hyn oedd angen bach mwy o bren mewn, codi'r pren oedd wedi pydru mas, falle ail gliwo.
"Ar ôl y stage yna ni'n sando fe lawr, llenwi tyllau bach a wedyn paento fe gyda aluminium primerundercoat.
"Ar ôl y stage yna ni'n rhoi'r ail côt o undercoat a rhoi'r beading a'r weather seal mewn a wedyn mae e lan i'r paentwyr i ddod mewn i roi'r lliw."
Wedi rhyw 60 o flynyddoedd o amddiffyn yr adeilad rhag amodau garw arfordir y gorllewin, mae'r gwynt a'r glaw o Fae Ceredigion wedi gadael eu marc at y to hefyd, ac mae wir angen un newydd.
Mae'n debyg y bydd 70,000 o lechi'n cael eu defnyddio, a 60% o'r rheiny yn llechi newydd Cymreig o Chwarel y Penrhyn ger Bethesda yng Ngwynedd.
"Roedd pethau'n reit ddrwg," meddai Llew Gerrard - un o'r rhai sydd wedi bod yn gweithio ar ailosod y to.
"Fel oeddech chi'n gafael yn y llechen roedden nhw'n briwo ac yn disgyn yn ddarnau yn eich dwylo.
"Ambell un yn iawn, ond wrth gwrs rheiny yw'r rhai fyddwn ni'n ailosod ochr draw. Ond roedd 'na lot o lwch.
"Os 'di'r gwynt yn gry' ac yn chwythu yr ochr yma, dwi'n gweithio'r ochr arall. Wedyn dwi'n dod nôl i'r ochr yma pan mae'r gwynt yn symud. Ma' angen iwso'r pen."
Pan fydd y drysau'n agor mae'r brifysgol yn rhagweld y bydd yr Hen Goleg yn rhoi hwb economaidd sylweddol i dref Aberystwyth a'r ardal ehangach.
Mae'r cynllun yn cael ei ariannu o sawl ffynhonnell, gan gynnwys Cronfa Treftadaeth y Loteri, Llywodraeth Cymru a'r Gronfa Ffyniant Bro.
Yn ôl Jim O'Rourke, mae eu hastudiaethau hyd yma yn awgrymu y bydd yr adeilad ymhlith un o atyniadau mwyaf Cymru, gan ddenu miloedd o ymwelwyr.
"Ry'n ni'n amcan tua 200,000," meddai.
"Ma' hynny'n rhoi ni ar rywbeth tebyg i Gastell Caernarfon a Chastell Conwy, felly mae'n brosiect mawr fel atyniad treftadaeth, atyniad addysgol ac yn atyniad i dwristiaid yn ogystal â phobl leol.
"Ry'n ni wedi testo hynny. 'Naethon ni agor y drws, rhoi baner tu fas yn dweud dewch mewn a daeth 190,000 o bobl mewn i'r adeilad mewn blwyddyn. Felly ni'n reit hyderus yn y ffigwr hynny.
"Ni'n credu bydd y bobl hynny yn gwario tua £14m mewn blwyddyn - £4m yn yr adeilad a £10m yn y dre'. Felly mae hwn yn brosiect anferth o ran adnewyddu a dod â bywyd newydd i Aberystwyth."
Bwriad y brifysgol yw agor rhan gynta'r Hen Goleg erbyn 2025, gan sicrhau bod yr adeilad trawiadol yma yn adnodd pwysig am flynyddoedd i ddod.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2018