Y crefftau Cymreig sydd mewn peryg o ddiflannu

Geraint Parfitt, sy'n gwneud clocsiau yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan
- Cyhoeddwyd
Mae yna 20 o grefftau cynhenid i'r Deyrnas Unedig wedi cael eu hychwanegu i restr o grefftau sydd mewn perygl gwirioneddol o gael eu colli am byth.
Elusen Heritage Crafts sy'n gyfrifol am lunio'r rhestr o bron i 200 o grefftau traddodiadol sydd angen eu diogelu.
Un o'r crefftau sy'n cael ei ystyried o fod 'mewn perygl difrifol' ydi gwneud clocsiau; crefft oedd i'w weld ledled Cymru ar un adeg, ond sy'n prysur ddiflannu'n llwyr.
Geraint Parfitt yw un o'r unig ddau wneuthurwr ym Mhrydain sydd dal i greu clocsiau yn gyfan gwbl â llaw, a hynny yn ei weithdy yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan.
"Mae'n dda fod 'na restr yn bodoli – eu bod nhw' cydnabod bod y sgiliau yn cael eu colli," meddai. "Ond mae'n drist bod y rhestr yn gorfod bodoli yn y lle cynta'."

Gwneuthurwr clocsiau a fyddai'n ymweld â dod i Stad Dolforgan, Y Drenewydd, bob haf i wneud clocsiau ar gyfer y gweithwyr
Roedd clocsiau yn esgid cyffredin ledled Cymru ar un adeg, yn cael eu gwisgo'n bennaf gan bobl dlawd, a oedd yn gwneud gwaith caled, fel ffermwyr.
Roedd hyn am fod yr esgidiau yn para'n hirach na mathau eraill, am fod y gwadnau allan o bren.

Clocsiau oedd yr esgid o ddewis i weithwyr oherwydd y gwadnau pren, gwydn
Ond y dyddiau yma, prin yw'r galw am yr esgid, sy'n cymryd 10 awr o waith i'w wneud.
Mae Geraint wedi bod yn hogi ei grefft ers 24 o flynyddoedd, a hynny ar ôl dysgu yn yr amgueddfa. Does yna ddim peiriant ar gyfyl ei weithdy, sef hen weithdy gwneud clocsiau o Solfach.
"Y peth cynta dwi'n 'neud, yw llunio rownd traed pobl, gan eu bod nhw 'made to measure'.
"Dwi'n defnyddio boncyff sycamorwydden, a'i dorri fe'n gyfan gwbl â llaw, yn defnyddio tair cyllell, a dwi hefyd yn gwneud y gwaith lledr i gyd â llaw – ei dorri, ei wnïo – pob dim. Yna eu rhoi nhw at ei gilydd."

Dawnswyr sy'n tueddu i wisgo clocsiau y dyddiau yma
Yn ôl Geraint, mae 'na bobl sydd yn gwerthfawrogi ei grefft a chrefftau cynhenid tebyg, ond mae'n pwysleisio fod creu bywoliaeth ohonyn nhw yn gallu bod yn anodd iawn.
O ganlyniad, mae llai o grefftwyr yn bodoli i basio'r sgiliau ymlaen i'r genhedlaeth nesaf.
"Dyw pobl ddim yn fodlon talu am yr amser mae'n ei gymryd i wneud y pethe 'ma.
"Ti'n talu rhywun mewn garej, £50 yr awr i 'neud gwaith ar y car, ond dydyn nhw ddim yn fodlon talu fi yr un arian i wneud pâr o 'sgidiau iddyn nhw."
Dwi’n defnyddio boncyff sycamorwydden, a’i dorri fe’n gyfan gwbl â llaw
Geraint Parfitt yn sôn am ei swydd yn gwneud clocsiau ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru
Toi â gwellt

Crefft sydd wedi ei ychwanegu i'r rhestr 'mewn perygl difrifol' eleni, yw toi â gwellt.
Toeau fel hyn oedd y math mwyaf cyffredin o doeau ar dai yng Nghymru yn y 18fed a'r 19eg ganrif.
Byddai deunyddiau oedd i'w cael yn lleol - fel gwellt, grug, moresg (marram grass) a brwyn - yn cael eu gosod yn sownd i'r to gyda changhennau collen neu helygen.
Er fod y traddodiad o roi to gwellt ar dŷ i'w weld yn Lloegr hefyd, roedd edrychiad y toeau Cymreig yn wahanol, gan fod ymyl mwy crwn i'r rhai yr ochr yma i'r ffin.

Aberddawan ym Mro Morgannwg
Ond wrth i ddeunyddiau eraill, fel llechen, ddod yn fwy ffasiynol, lleihaodd y galw am do gwellt traddodiadol.
Heddiw, dim ond ychydig o fythynnod â tho gwellt sydd ar ôl yng Nghymru, a'r grefft o wneud y gwaith yn prysur ddiflannu.
Gwehyddu tapestri Cymreig

Carthen o ddechrau'r 20fed ganrif
Ar y rhestr o grefftau sydd mewn peryg (ond nid perygl difrifol) mae gwehyddu Cymreig.
Mae creu â gwlân wedi bod yn rhan bwysig o ddiwylliant Cymru ers y canol oesoedd, ond gyda thwf diwydiant yr 18eg a'r 19eg ganrif, daeth melinau gwlân â'r gallu i greu nifer fawr o ddarnau mawr o frethyn gyda dwy haen batrymog, gywrain.
Ond, fel gyda nifer o'r crefftau sy'n ymddangos ar y rhestrau yma, diffyg pobl â'r wybodaeth angenrheidiol i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf sydd yn bennaf gyfrifol am y dirywiad yn y diwydiant. Heb fwy o hyfforddiant, gall y technegau yma ddiflannu.

Patrymau gan William Jones, gwehydd o Holt, Wrecsam, 1775-82
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2022