Torcalon rhieni ifanc sydd 'methu gafael yn ein mab heb i'w groen dorri'

Dim ond tan ei ugeiniau y bydd Albi yn byw, meddai ei rieni - oni bai bod datblygiadau meddygol
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae lluniau yn y stori isod all beri gofid.
Mae rhieni bachgen sydd ag anhwylder genetig prin ar ei groen yn dweud ei bod yn anodd prosesu sut y mae gafael amdano yn gallu "rhwygo ei groen".
Cafodd Albi, sy'n 20 mis, ei eni â math difrifol o Recessive Dystrophic Epidermolysis Bullosa (RDEB) sy'n achosi i'w groen rwygo a chael pothelli (blisters) gyda'r ffrithiant lleiaf.
Mae hefyd yn effeithio ar ei groen mewnol, sy'n golygu bod bwyta a llyncu yn gallu bod yn boenus.
Mae'n cael ei fwydo trwy diwb i'w stumog.
Mae Erin Ward a'i phartner Calum Blackman, o Don-du ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn gobeithio y bydd modd dod o hyd i iachâd i'w mab, sy'n byw mewn poen bob dydd.

Roedd croen Albi ar goll o'i goes dde, ei droed chwith a'i ddwylo pan gafodd ei eni
Dywedodd Erin, 23: "Fyddech chi byth yn credu y gallai croen fod mor fregus, ac y gallai dim ond cofleidio'ch plentyn rwygo ei groen."
Pan gafodd Albi ei eni ar 19 Awst 2023, roedd meddygon yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn gwybod yn syth fod rhywbeth o'i le.
Roedd croen ar goll o'i goes dde, ei droed chwith a'i ddwylo.
Dywedodd Erin fod meddygon yn credu ei fod wedi rhwbio ei goesau gyda'i gilydd tra yn y groth a thynnu'r croen.
Ar ôl siarad ag arbenigwyr meddygol yn Ysbyty Great Ormond Street yn Llundain, cafodd ddiagnosis o epidermolysis bullosa (EB).
Dywedodd Calum mai dim ond tan ei ugeiniau y bydd Albi yn byw - oni bai bod datblygiadau meddygol.
"Mae'n ddiagnosis anodd ei dderbyn," meddai.

Mae'n rhaid i Albi gael ei fwydo trwy diwb yn ei stumog
Ar hyn o bryd nid oes iachâd i'r cyflwr, na thriniaeth effeithiol i atal y problemau croen sy'n cael ei achosi gan EB.
Mae'r rhan fwyaf o gleifion yn datblygu canser malaen (malignant) y croen fel oedolyn.
Mae Erin a Calum yn treulio dwy awr y dydd yn tynnu hen rwymynnau a rhoi rhai newydd ar Albi.
Mae'r rhwymynnau sy'n ei orchuddio o'i wddf i flaenau ei draed yn helpu i wella ei groen a hefyd yn cynnig haen o amddiffyniad.

Weithiau mae pobl ifanc sydd ag EB yn cael eu galw'n "blant pili-pala" oherwydd bod eu croen yn fregus, fel adain pili-pala
Dywedodd Erin fod ganddi ormod o ofn i ddal ei babi newydd-anedig ar y dechrau, a byddai'n ei gario o gwmpas ar obennydd.
Yr amcangyfrif yw bod mwy na 5,000 o bobl yn y DU yn byw gydag EB.
Roedd Erin a Calum yn cario'r genyn heb iddyn nhw wybod.
Dywedodd y cwpl eu bod yn mynd yn bryderus pan fo Albi o gwmpas eraill.
"Mae eich 'stumog yn disgyn pan welwch chi rywun yn ceisio ymwneud gyda fe, neu blentyn arall sydd eisiau chwarae," meddai Calum.
"Mae gennych chi ofn - 'a ydyn nhw'n mynd i'w frifo' ac 'a fydd hi'n cymryd wythnosau iddo wella os ydyn nhw'n ei frifo?'."
'Angen iddo fyw ei fywyd'
Mae'n rhaid iddyn nhw bigo pob pothell ar gorff eu mab neu maen nhw'n dal i dyfu, a byddan nhw'n amharod i wella.
"Ar hyn o bryd mae Albi yn gwella'n gyflym ond pan fydd yn heneiddio efallai y bydd ei gorff yn dechrau arafu," eglurodd Erin.
"Felly gallai clwyf sydd nawr yn gwella mewn pythefnos gymryd ychydig fisoedd i wella, neu ddim o gwbl.
"Bydden ni'n hoffi gallu ei lapio mewn gwlân cotwm i'w amddiffyn, ond ni am iddo gael hwyl a byw ei fywyd hefyd."
Mae Albi yn rhan o dreial clinigol Rhea Cell yn Ysbyty Great Ormond Street ac mae'n cael arllwysiadau.
Mae ei rieni yn gobeithio y bydd iachâd yn cael ei ganfod yn y dyfodol ac maen nhw'n awyddus i godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2017
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2020