Bwrdd iechyd y gogledd wedi gordalu uwch swyddog am yr eildro

arwydd Betsi Cadwaladr
  • Cyhoeddwyd

Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae bwrdd iechyd mwyaf Cymru wedi gordalu un o'i uwch swyddogion.

Yn ôl adroddiad Archwilio Cymru, roedd "gwariant afreolaidd" o £39,259.62 i un o gyfarwyddwyr ariannol dros dro y bwrdd y llynedd.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, sy’n trin cleifion y gogledd, bod "gwelliannau go iawn wedi ei wneud ers y digwyddiadau yma" a bod "canolbwyntio o'r newydd ar reoli cyllid y bwrdd iechyd".

Llynedd, fe ddatgelodd Newyddion S4C fod Gaynor Thomason wedi ennill dros dair gwaith yr uchafswm cyflog roedd Llywodraeth Cymru yn ei ganiatáu ar gyfer ei rôl fel cyfarwyddwr interim nyrsio a bydwreigiaeth y bwrdd.

Dywedodd Ms Thomason nad oedd hi wedi gwneud unrhyw beth o'i le ac nad oedd hi'n ymwybodol o reolau'r llywodraeth am dâl swyddogion byrddau iechyd.

Mae nawr wedi dod i'r amlwg fod y bwrdd iechyd wedi gordalu uwch swyddog arall lai na blwyddyn wedi i ordaliad Ms Thomason ddod i'r amlwg.

£135,000 am chwe mis

Talwyd £135,000 i Steve Webster am chwe mis o waith fel cyfarwyddwr ariannol dros dro y bwrdd rhwng 3 Ionawr a 22 Mehefin y llynedd.

Yn ôl rheolau Llywodraeth Cymru, £170,919 yw'r uchafswm cyflog ar gyfer rôl o'r fath.

Roedd cyflog Mr Webster yn cyfateb i £292,236 mewn blwyddyn - ac felly yn ôl Archwilio Cymru, talwyd bron i £40,000 yn ormod iddo.

Mae Newyddion S4C wedi ceisio cysylltu â Mr Webster i ofyn am ei ymateb.

Does dim awgrym ei fod wedi gwneud rhywbeth o'i le, gan nad ef fyddai'n gosod ei gyflog.

Ym mis Chwefror 2023, rhoddodd yr ysgrifennydd iechyd ar y pryd, Eluned Morgan, y bwrdd iechyd yn ôl dan fesurau arbennig.

Ar 20 Mehefin y llynedd, cyhoeddwyd adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.

Roedd yn nodi bod defnydd o swyddogion gweithredol dros dro Betsi Cadwaladr yn "ormodol" ac yn "anghynaladwy".

Deuddydd wedi cyhoeddi'r adroddiad hwnnw, gadawodd Mr Webster ei swydd gyda'r bwrdd iechyd.

Gofynnodd Newyddion S4C am gyfweliad gydag Eluned Morgan neu'r cyn-Brif Weinidog Mark Drakeford - sydd nawr yn ysgrifennydd iechyd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y mater yn un i'r bwrdd iechyd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mabon ap Gwynfor fod "cwestiynau mawr... am y ffordd mae'r bwrdd iechyd yn edrych ar ôl eu harian"

Mynegi siom wnaeth llefarydd iechyd Plaid Cymru Mabon ap Gwynfor.

"Mae o'n cynddeiriogi rhywun clywed bod hyn wedi digwydd dwy flynedd yn olynol, amser bod prosiectau iechyd cymunedol yn ardal Betsi Cadwaladr yn cael eu cwtogi," meddai.

"Mae 'na gwestiynau mawr yn cael eu gofyn am y ffordd mae'r bwrdd iechyd yn edrych ar ôl eu harian a'r ffordd mae'r llywodraeth ym Mae Caerdydd yn goruchwylio eu gwaith - a'u methiant yn gwneud hynny."

Mae'r Aelod Senedd Ceidwadol Darren Millar yn galw am ymchwiliad annibynnol.

"Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu rŵan i gael gafael ar y sefyllfa," dywedodd.

"Mae'n amser i gael ymchwiliad annibynnol cyn gynted â phosib."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Darren Millar yn galw am ymchwiliad annibynnol

Mewn datganiad, dywedodd cadeirydd y bwrdd iechyd, Dyfed Edwards: "Adroddwyd i'r bwrdd yn gynharach eleni bod gostyngiad o 82% mewn gwariant ar benodiadau dros dro.

"Bydd aelodau anweithredol y bwrdd yn parhau i ddal aelodau gweithredol i gyfrif dros gyllid cyhoeddus.

"Mae'r bwrdd yn nodi'r gwelliant go iawn sydd wedi ei wneud ers y digwyddiadau yma, ddigwyddodd yn bennaf ym mlynyddoedd ariannol 2021-22 a 2022-23."