Towio ceir am barcio yn anghyfreithlon ger Llyn Tegid

Towio ceir
  • Cyhoeddwyd

Ar ddiwrnod poetha'r flwyddyn, mae miloedd o bobl wedi heidio draw i Lyn Tegid ger y Bala.

Ond am y tro cyntaf mae'r heddlu wedi cychwyn symud rhai o'r ceir sydd wedi parcio yn anghyfreithlon ar y lôn B4403 rhwng Llanuwchllyn a Bala.

Mae'r lôn yn rhedeg wrth ymyl Llyn Tegid, ac oherwydd problemau traffig difrifol yn ystod tymor yr haf, cyflwynwyd rheol newydd y llynedd a oedd yn golygu nad oedd modd i bobl barcio ar ochr y ffordd.

Mae trigolion lleol pentref Llangywer wedi bod yn cwyno ers blynyddoedd am y problemau traffig.

Y penwythnos hwn mae'r meysydd parcio swyddogol o amgylch Llyn Tegid yn llawn gyda miloedd o dwristiaid yn yr ardal yn mwynhau'r don o wres.

Pynciau cysylltiedig