Cyngor i rwystro parcio 'peryglus' ger Llyn Tegid

Disgrifiad,

Yn ôl Llio Eiry, sy'n byw yn lleol, mae pobl "wedi cael digon"

  • Cyhoeddwyd

Mae cynghorwyr wedi cymeradwyo cyflwyno gorchymyn i rwystro cerbydau rhag stopio ar ffordd brysur yng Ngwynedd yn sgil pryderon fod parcio diystyriol yn achosi "problemau traffig dybryd i bobl leol".

Mae Cyngor Gwynedd wedi derbyn cwynion gan swyddogion Parc Cenedlaethol Eryri ac aelodau o Gyngor Plwyf Llangywer wedi i gerbydau argyfwng gael eu rhwystro oherwydd nifer y rhai sy'n parcio ar ochr y B4403 rhwng Llanuwchllyn a'r Bala.

Yn dilyn trafodaeth yng nghyfarfod pwyllgor cynllunio'r cyngor sir fe bleidleisiodd aelodau o 12 pleidlais i ddim, gydag un ymataliad, o blaid cyflwyno gorchymyn clirffordd, dolen allanol - mae hyn yn golygu y gall cerbydau sydd ddim yn cydymffurfio gael eu towio.

Byddai'r gorchymyn yn gwahardd gyrwyr rhag stopio eu cerbydau am unrhyw reswm oni bai fod argyfwng - er y bydd dal modd i ddefnyddio'r cilfannau.

Awgrymodd rhai cynghorwyr y dylid ystyried agor maes parcio newydd er mwyn creu digon o le ar gyfer yr holl draffig, ond fe fyddai'n rhaid gwneud hynny ar wahân.

BalaFfynhonnell y llun, Geraint Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r B4403 rhwng Llanuwchllyn a'r Bala yn cael ei rhwystro ar adegau prysur oherwydd nifer y rhai sy'n parcio ar ochr y ffordd

Yn ôl aelodau o'r cyngor cymuned lleol, mae'r ffordd, sy'n dilyn llan ddwyreiniol Llyn Tegid, wedi denu "rhesi o gerbydau gwersylla" yn y gorffennol.

Mae adroddiad y pwyllgor cynllunio, a gafodd ei drafod ddydd Llun, yn nodi fod "parcio didrugaredd yn medru arwain at broblemau traffig dybryd i drigolion lleol" ac yn ystod adegau prysur fod y "ffordd yn cloi yn llwyr gan draffig sy'n methu symud yn ôl nac ymlaen".

Dywedodd cadeirydd Cyngor Cymuned Llangywer wrth BBC Cymru fod y broblem "mor ddrwg â'r golygfeydd a'u gwelwyd yn ardal Llyn Ogwen a Llanberis yn y gorffennol".

Llyn Tegid
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llyn Tegid yn fan poblogaidd ymhlith rhai sy'n ymweld â'r ardal

"'Dan ni fel trigolion yn gorfod rhoi fyny hefo lot," meddai'r Cynghorydd Clwyd Davies cyn y cyfarfod.

"'Dan ni'n deall pam fod pobl eisiau dod i ymweld â chefn gwlad Cymru - mae'n le braf i fod.

"Ond does 'na ddim rheolaeth na phlismona ar hyn o bryd ac mae hi'n gallu bod yn ofnadwy yma.

"Mae sefydlu'r clearway yn un ffordd ymlaen ond hefyd mae'n rhoi'r tools i ni wneud rhywbeth am y peth."

Clwyd Davies
Disgrifiad o’r llun,

Clwyd Davies yw cadeirydd Cyngor Cymuned Llangywer

Ychwanegodd fod y ffordd yn gul iawn ond ei bod yn broblem sydd wedi gwaethygu dros amser.

"Y campervans ydi'r broblem fwyaf - pobl yn parcio ar ochr y ffordd, sy'n beryg ac yn gadael llanast ar eu hôl," meddai'r Cynghorydd Davies

"Yn sicr mi oedd o waethaf yn ystod y cyfnod clo. Ddaru lot ffeindio Llangywer yr adeg hynny.

"Ond ffordd leol ydy hon yn y bôn - dydi hi ddim yn addas ar gyfer yr holl draffig ac yn sicr mae'n rhaid i rywbeth gael ei wneud."

Map o'r gwaharddiad arfaethedigFfynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r gwaharddiad yn weithredol bron yr holl ffordd o'r Bala i Lanuwchllyn

Yn ôl yr adroddiad, oedd yn argymell sefydlu'r gorchymyn clirffordd ar hyd yr B4403, ni fyddai'n cael effaith ar nifer y cerddwyr ar y ffordd.

Ond er ei fod wedi cael cefnogaeth y cyngor cymuned, roedd un llythyr o wrthwynebiad yn disgrifio'r cynlluniau fel rhai "eithafol".

“Mae’n ymddangos bod y gorchymyn hwn yn cymryd camau eithafol ar gyfer yr hyn sy’n broblem weddol gyntefig yn ardal Llangywer yn ystod y tymor gwyliau brig.”

Pynciau cysylltiedig