'Ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf yw'r peth pwysicaf am yr Euros'

Mae'r Euros yn gyfle euraidd i ddatblygu pêl-droed merched yng Nghymru, meddai Laura McAllister
- Cyhoeddwyd
Dim ond wythnos sydd yna i fynd bellach tan fydd tîm pêl-droed merched Cymru yn chwarae eu gêm gyntaf erioed yn un o'r prif gystadlaethau rhyngwladol.
Mi fydd tîm Rhian Wilkinson yn wynebu'r Iseldiroedd yn Lucerne yn Y Swistir yn Euro 2025, gyda gemau i ddod wedyn yn erbyn Ffrainc a Lloegr.
Dim ond y ddau dîm o'r grŵp fydd yn mynd drwodd i rownd yr wyth olaf, ond yn ôl un o gyn-chwaraewyr mwyaf blaenllaw Cymru mae 'na bethau pwysicach yn y fantol na llwyddiant ar y cae.
"Mae pawb yn gyffrous am fynd i'r Swistir a gwylio'r merched yn chwarae, ac mae pawb yn gobeithio ein bod yn mynd drwy grŵp hefyd," yn ôl yr Athro Laura McAllister ar raglen 'Creu Hanes' ar BBC Radio Cymru.
"Ond nid dyma'r peth pwysicaf yn fy marn i. Y peth pwysicaf yw'r effaith o gael y merched yna (yn yr Euros), a'r effaith fydd hwn yn ei gael ar ferched ifanc yng Nghymru."
Sefydlu 'delwedd newydd o bêl-droed'
Mae Laura McAllister, sydd bellach yn aelod o bwyllgor gwaith UEFA, wedi chwarae rhan hollbwysig yn hanes tîm y merched.
Doedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ddim yn fodlon cydnabod y tîm pan gafodd ei sefydlu'n wreiddiol yn 1973, felly mi oedd yn rhaid i'r chwaraewyr dalu am bopeth eu hunain, yn ogystal â threfnu gemau a sesiynau ymarfer.
Fe arhosodd pethau fel yna tan i McAllister, yn ogystal â'i chyd-chwaraewyr Michele Adams a Karen Jones ofyn am gyfarfod gydag ysgrifennydd CBDC, Alun Evans, yn 1993.
Yn dilyn y cyfarfod yna fe benderfynodd y Gymdeithas gymryd rheolaeth o'r tîm.
"Fi mor browd o'r chwaraewyr yma, ac maen nhw'n deall pa mor anodd oedd y daith, a shwt gymaint o waith sydd o'n blaen ni eto," ychwanegodd Laura McAllister.
"Dyma'r siawns i ni nawr sefydlu delwedd newydd o bêl-droed, gyda merched reit yng nghanol y ddelwedd yna.
"Os 'da ni'n gallu cael cam mawr tuag at yr amcan yna, yna 'da ni wedi bod yn llwyddiannus yn Y Swistir."

Mae Gwennan Harries yn cofio gorfod gwisgo crys John Hartson wrth chwarae i Gymru
Un arall sy'n gobeithio gweld twf ym mhoblogrwydd pêl-droed merched yn sgil yr Euros yw Gwennan Harries.
Fe enillodd 56 cap dros Gymru rhwng 2006 a 2012, cyn gorfod ymddeol o bêl-droed oherwydd anaf i'w phen-glin.
Bellach mae hi'n gweithio fel athrawes ymarfer corff yn Ysgol Gyfun Glantaf yng Nghaerdydd.
"Mae'r datblygiad yn ystod y cwpl o flynyddoedd diwethaf wedi bod yn anhygoel. Ni'n gweld mwy o ferched yn chwarae'r gêm. Ni'n gweld mwy o bobl yn dod i wylio'r gêm.
"Fi'n credu fod 370 miliwn wedi gwylio'r Euros diwethaf, felly i gael llygaid Ewrop a'r byd yn gwylio'r merched yma, mae'n mynd i roi gobaith i fechgyn a merched yn y wlad yma fod unrhyw beth yn bosibl.
"O'r diwedd 'da ni ymhlith y goreuon yn Ewrop."
Pethau'n 'amhroffesiynol' iawn
Mae pethau wedi newid lot ers cyfnod Gwennan Harries yn chwarae dros Gymru.
Un o'r prif newidiadau yw'r ffaith fod crysau arbennig yn cael eu gwneud ar gyfer merched y dyddiau hyn.
Doedd hynny ddim yn arfer digwydd, gyda'r garfan yn gorfod chwarae ac ymarfer yng nghrysau tîm yn dynion.
"Dwi'n cofio cael crys ymarfer rhif 9 unwaith - crys John Hartson - ac mi oedd e'n fawr.
"O'n i'n gyffrous achos o'n i'n meddwl 'mae John Hartson wedi gwisgo hwn'.
"Ond doedd pobl ddim yn sylweddoli faint o wahaniaeth yr oedd yn ei wneud.
"Pan oedd hi'n glawio mi oedd y crys yn mynd yn fwy trwm - ti ddim mor ystwyth a ddim mor gyflym achos ti'n cario mwy o kilograms.
"Mi oedd pethau'n amhroffesiynol iawn nôl bryd hynny."
'Falle gewch chi ddim eich dewis'

Kath Morgan (chwith yn y rhes flaen) cyn gêm Cymru yn erbyn Gwlad Belg yn 2008
Kath Morgan oedd y cyntaf erioed yn hanes tîm merched Cymru i ennill 50 cap.
Fe chwaraeodd ei gêm ryngwladol gyntaf yn 1995, ond mae hi'n cofio ei chyfnod yn chwarae dros Gymru fel un "rhwystredig".
Mi oedd sefyllfa'r crysau yn ei gwylltio hi ar y pryd hefyd, ond mi oedd lleisio barn yn arwain at achosi problemau.
"Mi oedd mwy nag un achlysur pan oedd merched yn herio.
"Mi oedden nhw'n cael eu tynnu i un ochr a'u rhybuddio 'mae angen stopio hyn nawr neu falle gewch chi ddim eich dewis'.
"Ac yn anffodus fe ddigwyddodd hynny i chwaraewyr.
"Ar y pryd fi oedd yr unig un oedd yn gwneud cyfweliadau Cymraeg (gyda'r wasg), ac o'n i'n hapus i wneud hynny, ond doeddech chi byth yn teimlo eich bod chi'n gallu dweud y gwir."
Gwrandewch ar 'Creu Hanes' ar BBC Sounds - rhaglen sy'n olrhain hanes tîm pêl-droed merched Cymru.